Mae’r CPLlL ar gael i holl gynghorwyr cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol Cymru lle y cynigir aelodaeth o’r Cynllun iddynt hwy o dan gynllun lwfansau’r Cyngor ac sydd o dan 75 oed.

Mae’r cynghorwyr Cymreig hynny y cynigir aelodaeth iddynt yn gynghorwyr cymwys. Os ydych wedi cael cynnig bod yn aelod o’r Cynllun, chi fydd yn penderfynu p’un a ydych am ymuno. Os byddwch yn dewis gwneud hynny, byddwch yn dod yn aelod o’r CPLlL o ddechrau’r cyfnod tâl cyntaf ar ôl derbyn eich penderfyniad.

Mae’r CPLlL yn Gynllun diogel oherwydd bod y buddion wedi’u gwarantu gan y gyfraith. Mae’r buddion a gewch pan fyddwch yn ymddeol yn seiliedig ar nifer y blynyddoedd rydych wedi bod yn aelod o’r Cynllun a’ch cyflog cyfartalog fel cynghorydd. Nid yw’r buddion yn ddibynnol ar brisiau cyfranddaliadau ac nid ydynt yn cael eu heffeithio gan amrywiadau yn y farchnad stoc.

Os ydych yn dymuno bod yn aelod o’r cynllun mae’n bwysig eich bod yn cwblhau ac yn dychwelyd y ffurflen gychwynnol yma. Ar ôl derbyn eich ffurflen, bydd eich cofnod yn cael ei sefydlu a bydd hysbysiad o’ch aelodaeth o’r Cynllun, ynghyd a Chanllaw’r Cynllun a dogfennau perthnasol eraill yn cael ei hanfon atoch

Yn dilyn eich ethol, gwiriwch eich slip tâl er mwyn sicrhau fod y cyfraniadau pensiwn yn cael eu tynnu. 

Nodwch ei fod yn bwysig iawn eich bod yn cwblhau ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth ar ôl i chi ddechrau o fewn y CPLlL fel bod y grant marwolaeth sy’n daladwy os byddwch yn marw yn cael ei dalu yn unol â’ch dymuniad.