Absenoldeb o’r Gwaith

Mae’n bosib y bydd rhai achosion tra rydych yn aelod o Gronfa Pensiwn Gwynedd pan na fyddwch yn gallu gweithio, a hynny am wahanol resymau.

Efallai y bydd hyn oherwydd:

  • Absenoldeb Salwch
  • Absenoldeb Mamolaeth / Mabwysiadu / Tadolaeth
  • Unrhyw absenoldeb di-dâl arall

Absenoldeb Salwch

Nid yw’ch pensiwn yn cael ei effeithio pan fyddwch ar absenoldeb salwch. Byddwch yn talu’r gyfradd gyfrannu arferol ar unrhyw dâl y byddwch yn ei dderbyn.

Am unrhyw gyfnod lle byddwch yn derbyn llai o gyflog neu dim cyflog, byddwn yn defnyddio tâl pensiynadwy tybiedig, sef y cyflog a fuasai wedi cael ei dderbyn petaech yn gweithio yn arferol. Hwn yw’r tâl a fydd yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’ch pensiwn am y cyfnod hwnnw.

Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu

Yn ystod cyfnod o absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu, byddwch yn parhau i dalu’ch cyfradd cyfraniadau arferol ar unrhyw dâl pensiynadwy yr ydych yn ei dderbyn (Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Mamolaeth Cytundebol, Tâl Mabwysiadu Statudol).  Byddwn yn defnyddio tâl pensiynadwy tybiedig i gyfrifo’ch pensiwn am y cyfnod, sef y tâl a fuasai wedi cael ei dderbyn petaech yn gweithio yn arferol.

Yn ystod unrhyw gyfnod o absenoldeb di-dâl, ni fyddwch yn talu unrhyw gyfraniadau pensiwn, ac ni fyddwch yn cronni unrhyw bensiwn. Os ydych yn dymuno talu cyfraniadau ychwanegol ar ôl dychwelyd, mi fydd angen dechrau contract Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY) i brynu pensiwn ychwanegol i gymryd lle’r pensiwn gafodd ei golli yn ystod y cyfnod di-dâl.

Os ydych yn ethol i gychwyn y CPY o fewn 30 diwrnod o ddychwelyd i’r gwaith, bydd y cyflogwr yn talu 2/3fed o gost y CPY, a byddwch chi yn talu am y gweddill. Os ydych yn ethol i gychwyn y CPY ar ôl 30 diwrnod o ddychwelyd, byddwch chi yn gorfod talu’r holl gost. Bydd y pensiwn sydd wedi cael ei golli yn cael ei gyfrifo fel 1/49fed o’r tâl pensiynadwy tybiedig am y cyfnod di-dâl os oeddech ym mhrif ran y cynllun, ac 1/98fed o’r tâl pensiynadwy tybiedig os oeddech yn y rhan 50/50.

Unrhyw absenoldeb di-dâl arall

Os ydych yn absennol o’r gwaith am un neu fwy o ddyddiau llawn am unrhyw reswm (yn cynnwys gweithrediad diwydiannol, gwasanaeth rheithgor, absenoldeb lluoedd arfog wrth gefn), ni fyddwch yn cronni unrhyw bensiwn ar y dyddiau pan oeddech yn absennol, oni bai y telir cyfraniadau i osgoi’r golled honno.

I osgoi colli pensiwn, bydd rhaid i chi gychwyn contract Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY) i brynu pensiwn ychwanegol i gymryd lle’r pension gaeth ei golli yn ystod yr absenoldeb. Bydd y pensiwn sydd wedi cael ei golli yn cael ei gyfrifo fel 1/49fed o’r tâl pensiynadwy tybiedig am y cyfnod di-dâl os oeddech ym mhrif ran y cynllun, ac 1/98fed o’r tâl pensiynadwy tybiedig os oeddech yn y rhan 50/50.