Ail Gyflogaeth
Os ydych yn derbyn pensiwn gan Gronfa Bensiwn Gwynedd ac yn derbyn swydd gan gyflogwr nad yw’n cymryd rhan yng Nghynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), ni fydd unrhyw newid i’ch pensiwn, a bydd yn cael ei dalu i chi bob mis fel arfer.
Ond, os ydych yn derbyn swydd gyda chyflogwr sy’n cymryd rhan yn y CPLlL, ac wedi ymddeol ar sail iechyd haen 1 neu 2 (neu wedi ymddeol ar sail salawch cyn Ebrill 2008) neu wedi derbyn blynyddoedd ychwanegol o ganlyniad i ymddeol ar sail diswyddo efallai y caiff eich buddiannau pensiwn eu heffeithio, os ydych yn penderfynu ailymuno â’r cynllun neu beidio.
Yn gyfreithiol, mae’n rhaid i chi:
- Hysbysu eich cyflogwr newydd eich bod yn derbyn pensiwn CPLlL.
- Hysbysu Cronfa Bensiwn Gwynedd yn ysgrifenedig eich bod wedi cael eich ail-gyflogi gan gyflogwr sy’n cymryd rhan yn y CPLlL.
Gall eich pensiwn gael ei leihau neu ei atal os bydd cyflog eich swydd newydd yn fwy nac uchafswm yr hyn yr ydych yn medru ei ennill.
Cysylltwch â ni os hoffwch fwy o wybodaeth.