Buddion Marwolaeth

Pe byddech yn marw mewn gwasanaeth, byddai’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn darparu’r buddion canlynol: 

Lwmp Swm Grant Marwolaeth

O ddydd cyntaf eich aelodaeth o’r cynllun pensiwn, mae lwmp swm grant marwolaeth sy’n cyfateb i 2 gwaith eich cyfartaledd cyflog gyrfa yn daladwy os yr ydych yn marw mewn gwasanaeth, ac yn iau na 75 oed.

Dylai pob aelod o’r cynllun lenwi ffurflen mynegi dymuniad grant marwolaeth. Mae hyn yn eich galluogi i enwebu un neu fwy o unigolion neu sefydliad i dderbyn y taliad grant marwolaeth berthnasol, ac mewn rhai achosion gall hyn olygu fod modd osgoi taliadau treth etifeddiant.  Cysylltwch â ni am ffurflen mynegi dymuniad grant marwolaeth neu cliciwch yma am gopi.

Gan Cronfa Bensiwn Gwynedd fydd y penderfyniad terfynol o ran pwy fyddai’n derbyn y lwmp swm, ond byddwn yn ystyried eich dymuniadau chi pob amser.

Pe byddech yn penderfynu newid eich buddiolwr, bydd pob ffurflen newydd yr ydym ni’n ei derbyn yn cymryd lle’r un blaenorol.

Os nad oes yna ffurflen mynegi dymuniad, bydd y lwmp swm grant marwolaeth yn cael ei dalu i’ch ystâd neu i briod hysbys. 

Pensiwn Goroeswr

Pe byddech yn marw gan adael priod, partner sifil neu bartner yr ydych yn byw ag hwy, byddai ganddynt yr hawl i dderbyn pensiwn tymor hir. Mae’r pensiwn hwn yn daladwy am oes, a bydd yn cael ei dalu yn syth wedi’ch marwolaeth. Bydd yn cynyddu’n flynyddol yn unol â chostau byw.

Pensiwn eich priod neu bartner sifil

Bydd pensiwn eich priod neu bartner sifil yn gyfwerth â 1 / 160ain o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at ddyddiad eich marwolaeth, yn ogystal â’r aelodaeth y gallech fod wedi ei gronni rhwng dyddiad eich marwolaeth a’r dyddiad y buasech wedi bod yn 65 mlwydd oed.

Partner sy’n cyd-fyw â chwi

Gyda gweithrediad y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar ei newydd wedd ar 1 Ebrill 2008, cyflwynwyd buddion goroeswyr ar gyfer partneriaid sy’n cyd-fyw, boed hynny o wahanol ryw, neu o’r un rhyw. 

Fodd bynnag, gan fod cynllun y Cynghorwyr yn parhau i gael ei lywodraethu gan Reoliadau CPLlL 1997, ni fydd eich partner yn gymwys i dderbyn pensiwn goroeswyr.  

Pensiwn Plant Cymwys

Yn ychwanegol at fudd-dal y goroeswyr uchod, mae’r cynllun hefyd yn darparu pensiwn ar gyfer plant sy’n gymwys.

Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid i’r plentyn fod yn:

  • Iau na 18 mlwydd oed.
  • Rhwng 18 a 23 mlwydd oed ac mewn addysg llawn amser.
  • Yn gyfan gwbl neu’n bennaf ddibynnol arnoch.
  • Wedi’u geni o fewn 12 mis i’ch marwolaeth.
  • Mae’n bosibl y bydd buddion ar gyfer plant ag anableddau yn cael eu talu am gyfnod penagored.

Mae cyfanswm y pensiwn plant sy’n daladwy yn ddibynnol ar nifer y plant cymwys sydd gennych a hefyd os yw pensiwn goroeswyr yn daladwy i’ch priod neu bartner sifil.  Ym mhob achos, bydd y pensiwn yn gyfran o’ch pensiwn tybiannol.

Eich Pensiwn Tybiannol yw eich cyfartaledd cyflog gyrfa wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at ddyddiad eich marwolaeth, yn ogystal â:

  • 10 mlynedd o wasanaeth ychwanegol, neu os yn fwy,
  • Y gwasanaeth ychwanegol fel pe baech wedi ymddeol oherwydd salwch ar ddyddiad eich marwolaeth.

Yn y ddau achos, ni all y gwasanaeth ychwanegol bod yn fwy na’r gwasanaeth y gallech fod wedi’i gronni o ddyddiad eich marwolaeth hyd at ddyddiad y buasech yn 65 mlwydd oed. 

Hawl Pensiwn Plant pan fo pensiwn goroeswr yn daladwy:

Bydd gan y plant hawl i bensiwn tymor byr am gyfnod o 3 mis os nad ydynt yng ngofal y goroeswr.  Bydd yn gyfwerth â graddfa eich cyfartaledd cyflog gyrfa.  Bydd hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob plentyn.

Pan ddaw pensiwn tymor byr y goroeswr neu’r plentyn i ben, daw’r pensiwn tymor hir isod yn daladwy:

1 plentyn:  ¼ o’ch Pensiwn Tybiannol.  

2 neu fwy o blant: ½ o’ch Pensiwn Tybiannol. Bydd hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob plentyn.  

Hawl Pensiwn Plant os nad yw pensiwn goroeswr yn daladwy: 

Bydd pensiwn tymor byr yn daladwy am gyfnod o 6 mis, gyfwerth â graddfa eich cyfartaledd cyflog gyrfa.  Bydd hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob plentyn.  Pan ddaw pensiwn tymor byr i ben, daw’r pensiwn tymor hir isod yn daladwy:

1 plentyn:  ⅓ o’ch Pensiwn Tybiannol.

2 neu fwy o blant:  ⅔ o’ch Pensiwn Tybiannol.  Bydd hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob plentyn.