Bwrdd Pensiwn
Beth yw rôl y bwrdd?
Mae’r Bwrdd Pensiwn Gwynedd yn gyfrifol am gynorthwyo Cyngor Gwynedd, sef Rheolwyr y Cynllun i sicrhau cydymffurfiad â:
- Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol;
- Unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n ymwneud â llywodraethu a gweinyddiad y Cynllun;
- Gofynion a osodir gan y Rheolydd Pensiynau mewn perthynas â’r Cynllun;
- Sicrhau llywodraethu a gweinyddu effeithiol y Cynllun.
Mae’r Bwrdd Pensiynau yn gorff goruchwylio ac ni fydd yn gwneud penderfyniadau ac ni fydd yn cymryd lle’r strwythur llywodraethu sy’n bodoli eisoes yng Nghronfa Bensiwn Gwynedd mewn perthynas â gweinyddu’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Gweler yr adran atodiadau isod am adroddiadau a munudau’r Bwrdd Pensiynau.
Pwy sydd ar y Bwrdd Pensiynau?
Mae’r bwrdd cael ei ffurfio o 3 chynrychiolydd sy’n aelodau a 3 cynrychiolwyr cyflogwyr:
Cynrychiolwyr yr Aelodau:
Osian Gruffydd Richards – Cyngor Gwynedd
Hywel Eifion Jones – Cyngor Sir Ynys Mon (wedi ymddeol)
1 sedd wag
Cynrychiolwyr y Cyflogwr:
Sioned Evans Parry – Cyngor Conwy
Cynghorydd Beca Roberts – Cyngor Gwynedd
1 sedd wag