Codiad Pensiwn

Mae eich pensiwn CPLlL yn cael ei addasu bob blwyddyn yn unol â chostau byw os ydych: 

  • Yn 55 oed neu’n hŷn.
  • Wedi ymddeol ar sail salwch, beth bynnag fo’ch oedran.
  • Yn derbyn pensiwn goroeswyr.

Cyfeirir yn aml at y cynnydd hwn fel ‘gwarchod rhag chwyddiant’ (inflation proofing) neu ‘mynegrifo’ (index linking), ond bydd yn cael ei ddangos ar eich slip cyflog fel ‘Codiad Pensiwn’.

Bydd addasiad yn cael ei weithredu o’r dydd Llun cyntaf ym mis Ebrill ar ôl i’r flwyddyn dreth ddod i ben ar 5 Ebrill, a bydd yn cael ei fesur gan y cynnydd canrannol yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) yn y deuddeng mis hyd at fis Medi bob blwyddyn.

Y symiau ar gyfer y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (MPD) am y blynyddoedd diwethaf oedd:

7 Ebrill 2008: 3.90% 

6 Ebrill 2009: 5.00% 

12 Ebrill 2010: -1.4% 

11 Ebrill 2011: 3.10% 

9 Ebrill 2012: 5.2% 

8 Ebrill 2013: 2.2% 

7 Ebrill 2014: 2.7%

6 Ebrill 2015: 1.2% 

11 Ebrill 2016: -0.1%

10 Ebrill 2017: 1%

9 Ebrill 2018: 3%

8 Ebrill 2019: 2.4%

6 Ebrill 2020 1.7%

12 Ebrill 2021 0.5%

11 Ebrill 2022 3.1%

10 Ebrill 2023 10.1%

Doedd dim cynnydd yn dalwyd yn 2010 a 2016 o ganlyniad i ffigurau MPD negyddol.

Codiad Pensiwn a IPG

Mae’r CPLlL wedi ei gontractio allan o Ail Bensiwn y Wladwriaeth (a elwid gynt yn SERPS – Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion). Pan fyddwch yn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth, byddwch yn derbyn hysbysiad gan Gyllid a Thollau EM yn rhoi manylion am eich Isafswm Pensiwn Gwarantedig (IPG) (dyma’r swm gwarantedig o bensiwn sy’n sicr o gael ei dalu i chi gan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol pe na baech wedi eithrio o Ail Bensiwn y Wladwriaeth).

Mae eich IPG eisoes wedi’i gynnwys yn y cyfanswm o bensiwn a gewch gan Gronfa Bensiwn Gwynedd. O oedran pensiwn y wladwriaeth, felly, mae eich codiad pensiwn yn cael ei dalu o 2 ffynhonnell, Cyllid a Thollau EM a Chronfa Bensiwn Gwynedd.

Er enghraifft, os ydych yn derbyn pensiwn blynyddol o £ 3000 ac mae £ 1000 ohono  ymwneud â’r IPG. Byddai’r elfen cynnydd ar y £ 1000 yn daladwy fel rhan o’ch Pensiwn y Wladwriaeth a delir gan Gyllid a Thollau EM tra byddai’r £2000 arall yn cael ei gynyddu drwy eich pensiwn gyda Chyngor Gwynedd.