Cofrestru Awtomatig
Cyflwyniad
Daeth deddfwriaeth Cofrestru Awtomatig i rym yn fis Hydref 2012. Mae’r dyddiad erbyn pryd y mae angen i chi gydymffurfio, a elwir yn eich dyddiad llwyfannu, yn seiliedig ar nifer y gweithwyr ar eich cyflogres TWE fel yr oedd ar 1 Ebrill, 2012. Bydd rhai i bob cyflogwr, waeth beth fo’u maint, gydymffurfio dros y 5 mlynedd nesaf.
Nodwch mai cyfrifoldeb y Cyflogwr yw cydymffurfio gyda Chofrestru Awtomatig.
Rhif PSRN Gwynedd: 10184660 Rhif PSTR Gwynedd: 00329322RA Rhif y Cynllun: A0065169 Rhif CThEM: 36338/60191
Y 7 prif gamau Cofrestru Awtomatig yw:
- Gwybod eich dyddiad llwyfanu
- Asesu’r gweithlu
- Adolygu eich trefniadau pensiwn
- Cyfathrebu’r newidiadau
- Cofrestru’n awtomatig
- Cofrestru gyda’r RhP
- Cyfrannu i’r pensiwn
1. Gwybod eich dyddiad llwyfanu
Mae’r dyddiad ble mae’r gyfraith newydd yn berthnasol i’ch cwmni chi yn cael ei adnabod fel eich dyddiad llwyfannu. Mae’r dyddiad hwn yn cael ei bennu gan faint eich cynllun TWE mwyaf. Bydd cwmnïau sydd â chynlluniau TWE sy’n cael eu rhannu gan nifer o gyflogwyr gyda’r un dyddiad llwyfannu yn y rhan fwyaf o achosion.
Dilynwch y ddolen ganlynol am restr o’r dyddiadau llwyfannu:
Dyddiadau Llwyfannu Cofrestru Awtomatig
2. Asesu’r gweithlu
Mae gweithwyr a fydd angen eu cofrestru’n awtomatig mewn i’r cynllun pensiwn yn cael eu galw’n ‘ddeiliaid swyddi cymwys’. Mae deiliad swydd cymwys yn:
- rhwng 22 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth
- gweithio neu fel arfer yn gweithio yn y DU
- ennill mwy na £ 7,475 (bydd y swm hwn yn cael ei adolygu bob blwyddyn)
Bydd angen i chi asesu pwy yn eich gweithlu sydd yn ddeiliad swydd cymwys. Mae’n rhaid i chi gofrestru deiliaid swyddi cymwys yn awtomatig i mewn i gynllun pensiwn cymwys a gwneud cyfraniadau ar eu rhan i’r cynllun pensiwn. Bydd gweithwyr nad ydynt yn ddeiliaid swyddi cymwys dal i fod â hawl i ddewis i optio i mewn i gynllun pensiwn neu hawl i ymuno ag un.
3. Adolygu eich trefniadau pensiwn
Mae Cofrestru Awtomatig yn golygu bod yn rhaid i bob cyflogwr wneud trefniadau ar gyfer holl weithwyr cymwys i ymuno â chynllun pensiwn cymwys sy’n bodloni gofynion sylfaenol. Rhaid i gyflogwyr hefyd wneud cyfraniadau priodol ar ran y rhai sy’n dewis aros yn aelodau o’r cynllun cymwys.
Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn bodloni’r meini prawf o gynllun cymhwyso gan ei fod yn gynllun buddion diffiniedig wedi ei gofrestru ar gyfer treth yn y DU, sy’n cael ei gontractio allan ar sail gysylltiedig â chyflog.
4. Cyfathrebu’r newidiadau
Rhaid i gyflogwyr roi gwybod i’w holl weithwyr yn ysgrifennu am y newidiadau gan fanylu ar sut y maent yn cael eu heffeithio gan y newidiadau. Rhaid i hyn gael ei ddarparu drwy gyfathrebu yn ysgrifenedig (Mae ei anfon drwy e-bost yn dderbyniol) a rhaid iddo fod yn benodol i’r unigolyn. Mae dyletswydd ar y cyflogwr i ddarparu’r wybodaeth gywir i’r unigolyn cywir, ar yr adeg gywir.
5. Cofrestru’n awtomatig
Mae yna broses y bydd angen i gyflogwyr eu dilyn er mwyn gwneud deiliad swydd cymwys yn aelod o gynllun pensiwn cofrestru awtomatig. Bydd angen i wybodaeth benodol am eich deiliaid swyddi cymwys hefyd yn cael ei darparu i reolwyr cynllun pensiwn ar adegau penodol yn y broses.
6. Cofrestru gyda’r RhP
Mae’n ofynnol i chi roi gwybod i’r Rheoleiddiwr Pensiynau sut rydych wedi cyflawni eich dyletswyddau cofrestru awtomatig newydd drwy gofrestru wybodaeth hon ar-lein gyda hwy yn fuan ar ôl eich dyddiad llwyfannu. Bydd angen i chi hefyd gynnal cofnodion am y gweithwyr sydd wedi ymrestru, eu statws o fewn y cynllun, y cyfraniadau sydd wedi eu talu ac manylion am y cynllun cymhwyso ei hun. Bydd hefyd angen cynnal cofnodion ar gyfer y gweithwyr sydd wedi eu cofrestru ond wedi optio allan o’r cynllun pensiwn. Bydd angen i chi fonitro oedran ac enillion yr holl weithwyr nad ydynt yn ddeiliaid swyddi cymwys ac nad ydynt eisoes mewn cynllun cymwys ar sail barhaus. Os bydd amgylchiadau unrhyw weithiwr yn newid mewn cyfnod tâl fel eu bod yn dod yn ddeiliad y swydd cymwys, bydd angen iddynt gael eu cofrestru’n awtomatig.
7. Cyfrannu i’r pensiwn
Ar ôl eich dyddiad llwyfannu, rhaid i chi gyfrannu at y cynllun pensiwn ar ran eich gweithwyr. Gweler yr adran Cyfraniadau y wefan hon i ddarganfod beth yw eich cyfradd gyfrannu bresennol.
Mwy o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am Gofrestru Awtomatig, cysylltwch â’r Rheoleiddiwr Pensiynau.
Cyfeiriad y wefan yw: www.tpr.gov.uk