Cyflogwyr Eraill

Mae Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) yn ffordd o gynilo arian tuag at eich pensiwn. Unwaith y bydd wedi’i ddechrau, ni ellir rhyddhau unrhyw werth o’r gronfa hyd nes y byddwch yn cymryd prif fuddion eich cynllun.

Mae gan bob cronfa bensiwn llywodraeth leol gynllun CGY mewnol. Mae cyfraniadau’n cael eu didynnu o’ch cyflog cyn treth, felly maent yn gymwys ar gyfer gostyngiad yn y dreth ar eich graddfa treth (e.e. 20% neu 40%). Bydd yr arian sy’n cael ei ddidynnu yn cael ei fuddsoddi mewn cronfa o’ch dewis gyda darparwr CGY Gwynedd, sef Clerical Medical.

Gallwch dalu hyd at 100% o’ch cyflog tuag at CGY, ar ôl caniatáu ar gyfer unrhyw atebolrwydd treth ac Yswiriant Cenedlaethol neu unrhyw ddidyniadau eraill sy’n bodoli eisoes a allai fod gennych.

Nid oes cyfyngiad o ran yr isafswm y gallwch ei dalu bob mis.

Yn yr un modd â phob math o fuddsoddiad, gall y cronfeydd fynd i fyny ac i lawr.

Pan fyddwch yn ymddeol, mae sawl opsiwn ar gael o ran cymryd y buddion o’r gronfa Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol. Rhoddir yr wybodaeth lawn i chi er mwyn eich galluogi i wneud penderfyniad deallus.

Yr opsiynau ymddeol sydd ar gael ar hyn o bryd yw:

  1. Cymryd blwydd-dal gan Clerical Medical gyda 25% o lwmp swm di-dreth, neu hebddo.
  2. Cymryd blwydd-dal gan ddarparwr arall – yr opsiwn marchnad agored (byddai unrhyw lwmp swm di-dreth yn dibynnu ar bolisi’r darparwr newydd).
  3. Cymryd lwmp swm di-dreth o hyd at 100% o’ch cronfa Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol, os nad yw’r cyfyngiadau a ganiateir wedi’u pasio. Bydd y ffigwr hwn yn newid wrth i’ch cyflog a’ch cronfa gynyddu.
  4. Cymryd blwydd-dal gan Gyngor Gwynedd, trwy arnewid pob £100 o’r gronfa CGY am bensiwn gyda Chyngor Gwynedd gyda 25% o lwmp di-dreth, neu hebddo.
  5. Gohirio eich pensiwn CGY hyd at unrhyw bryd cyn i chi fod yn 75 mlwydd oed.

Sut ydw i’n ymuno?

Cwblhewch y Ffurflen Gais Feddygol Clerigol a’i dychwelyd i Gronfa Bensiwn Gwynedd. Mae’r ffurflen i’w chael yn yr adran ‘Atodiadau’ isod.

Bydd angen i chi benderfynu faint o gyfraniad yr hoffech ei dalu bob mis a ble i fuddsoddi eich arian. Mae gwybodaeth am y cronfeydd buddsoddi sydd ar gael hefyd i’w chael yn yr adran ‘Atodiadau’ isod.

Rhai pethau pwysig i’w nodi:

Gallwch amrywio’r taliadau neu roi’r gorau iddynt unrhyw bryd pan fyddwch yn cyfrannu at y CPLlL.

Os fyddwch yn gadael cyflogaeth llywodraeth leol ac yn trosglwyddo eich buddion CPLlL i gynllun arall nad yw’n GPLlL, fel arfer gallwch drosglwyddo eich cronfa CGY yn ogystal. Dylech ofyn wrth eich cyflogwr newydd am fanylion.

Os fyddwch yn trosglwyddo eich buddion prif gynllun CPLlL i gyflogwr CPLlL arall, gallwch ddewis trosglwyddo eich cronfa CGY, neu ddewis ei rhewi yn y gronfa honno. Os fyddwch yn gwneud hyn, chi sy’n gyfrifol am roi gwybod i’ch cyflogwr blaenorol am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.

Nid oes angen am archwiliad meddygol cyn dechrau cyfrannu at y gronfa CGY.

Gallwch newid eich dewis o fuddsoddiad unrhyw bryd trwy wneud cais ysgrifenedig i’r adain Bensiynau.

Os fyddwch yn marw mewn gwasanaeth, telir gwerth llawn y gronfa i’ch dibynyddion / person(au) enwebedig.

Os fyddwch yn cymryd eich buddion CGY sydd wedi’u gohirio ar yr un pryd â’ch buddion prif gynllun wedi’u gohirio, bydd gennych dal ddewis, o fewn y cyfyngiadau sydd wedi’u gosod, i gymryd hyd at 100% o lwmp swm di-dreth o ran yr CGY.

Os fyddwch yn penderfynu gohirio eich buddion CGY hyd at unrhyw adeg cyn i chi fod yn 75 mlwydd oed ar ôl cymryd eich prif fuddion pensiwn, yna pan fyddwch yn barod i gymryd eich buddion CGY, dim ond yr opsiynau yn rhannau 1 a 2 uchod fydd ar gael i chi, gyda lwmp swm di-dreth o 25%, neu hebddo.

Atodiadau

Ffurflen Gais Clerical Medical

Llyfryn Buddsoddi

Prif Nodweddion

Cronfeydd ar gael