Cymudiad Pitw
Beth yw Taliad Cymudiad Pitw?
Cymudiad Pitw yw opsiwn ble y gall aelodau gymryd lwmp swm trethadwy o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn lle pensiwn bach. O dan amgylchiadau penodol, mae’n bosib cymudo pensiwn i aelodau CPLlL, eu goroeswyr, plant cymwys neu aelodau â chredyd pensiwn ar yr amod bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni.
Ydw i’n gymwys am Gymudiad Pitw ?
Ar gyfer gwneud taliad cymudo pitw, mae’n RHAID i chi fodloni’r meini prawf canlynol:
- Bod yn 60 mlwydd oed neu’n hŷn (65 os ydych yn ddyn gydag aelodaeth cyn Ebrill 1997);
- Cymryd eich holl fuddion CPLlL fel lwmp swm;
- Rhaid i gyfanswm gwerth yr holl botiau pensiwn (CPLlL a di-CPLlL) fod yn llai na £30,000;
- Heb dderbyn lwmp swm cymudiad pitw yn flaenorol o unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig neu, os yw lwmp swm o’r fath wedi ei dalu, mae’n rhaid i’r lwmp swm cymudiad pitw gan y CPLlL cael ei dalu o fewn 12 mis o’r dyddiad y mae’r lwmp swm cymudiad pitw wedi ei dalu i’r aelod,
Mae’r pot pensiwn (Gwerth Cyfalaf) yn cael ei weithio allan drwy ddefnyddio’r hafaliad canlynol:
20 x Pensiwn Blynyddol + 10 x Lwmp Swm Awtomatig (os yn berthnasol) = Pot Pensiwn (Gwerth Cyfalaf eich Buddion)
Sut mae’r Lwmp Swm Cymudiad Pitw yn cael ei gyfrifo?
Mae’r lwmp swm Cymudiad Pitw yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio ffactorau a gyhoeddwyd gan Adran Actwari’r Llywodraeth (GAD). Mae swm o lwmp swm sy’n daladwy yn cael ei bennu gan eich rhyw ac oedran ar eich pen-blwydd diwethaf. Mae’r enghraifft ar y dde yn dangos sut mae’r Taliad Cymudiad Pitw yn cael ei gyfrifo.
A yw’r lwmp swm Cymudiad Pitw yn drethadwy?
Yn wahanol i’ch lwmp swm CPLlL safonol, mae’r lwmp swm Cymudiad Pitw YN drethadwy. Byddai treth yn cael ei dynnu yn awtomatig ar y gyfradd safonol o 20%.
Enghraifft
Rhyw: Gwryw
Dyddiad geni: 15 Mawrth 1952
Dyddiad Cymudo: 29 Mehefin 2015
Oedran ar ddyddiad y Cymudo: 63
Cyfanswm pensiwn yr aelod: £500 y flwyddyn (yf)
Pensiwn dibynnol ar farwolaeth yr aelod: £180 yf
Ffactor Aelod: 17.13 (Fac1)
Ffactor Dibynnol: 3.31 (Fac2)
Lwmp Swm Cymudiad Pitw sy’n daladwy:
(Pensiwn yr aelod x Fac1) + (Pensiwn dibynnol x Fac2)
(£500 x 17.13) + (£180 x 3.31) = £9,160.80 – 20% Treth = £7,328.64
Noder
Mae taliad Lwmp Swm Cymudiad Pitw yn diffodd eich hawliau pensiwn ac unrhyw hawliau i’ch dibynyddion yn y cynllun ; mae hyn yn golygu ar ol i’r taliad Cymudiad Pitw cael ei wneud, bydd DIM Taliadau pellach yn ddyledus i chi neu unrhyw ddibynyddion ar unrhyw adeg yn y dyfodol.
Nid yw’r Gronfa Pensiwn yn gallu rhoi unrhyw gyngor ariannol, felly dylech ystyried ceisio Cyngor Ariannol Annibynnol pan fyddwch yn ymddeol i sicrhau bod y dewis mwyaf priodol yn cael ei gymryd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cysylltwch â ni os hoffech gael manylion pellach ynghylch yr opsiwn hwn. Mae’r opsiwn hwn yn cael ei ganiatáu ar yr adeg gymryd eich buddion pensiwn neu os ydych eisoes yn derbyn pensiwn.