Datrys Anghydfod Mewnol
Trefn Apelio
Os yw aelod yn anghytuno gyda phenderfyniad a wnaethpwyd gan eu Cyflogwr neu Gronfa Pensiwn mae proses gwyno dau gam a adnabyddir fel Gweithdrefn Datrys Anghydfod Mewnol (GDAM) yn bodoli. Gobeithir yn y Gronfa Bensiwn Gwynedd y gall unrhyw gwyn yn cael eu trin mewn modd effeithlon heb orfod troi at y GDAM.
Cam 1: Cwyn Ffurfiol
Dylai’r aelod wneud eu cwyn yn ysgrifenedig i’r sawl y meant yn ystyried i fod ar fai, unai eu Cyflogwr neu’r Gronfa Bensiwn. Rhaid gwneud hyn o fewn 6 mis i’r broblem godi. Bydd ffeithiau’r achos yn cael eu harchwilio, ynghyd â’r rheolau’r cynllun a bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch y gŵyn. Rhaid i’r ateb cael ei wneud o fewn 2 fis neu dylid rhoi resymau am yr oedi cyn ateb.
Ar gyfer cwynion yn erbyn y Cyflogwr rhaid i’r aelod ysgrifennu’n uniongyrchol i’r Cyflogwr.
Ar gyfer cwynion yn erbyn y Gronfa Bensiwn, dylai’r aelod ysgrifennu at:
Rheolwr Pensiynau
Adain Bensiynau
Swyddfa’r Cyngor
Cyngor Gwynedd
CAERNARFON
Gwynedd
LL55 1SH
Cam 2: Apêl Pellach
Os yw’r aelod yn anfodlon a phenderfyniad Cam 1, mae ganddynt 6 mis i apelio yng Ngham 2. Mae’r cam hwn yn cael ei ddyfarnu gan swyddog a benodir gan y Gronfa Bensiwn. Unwaith eto, rhaid i’r apêl gael ei wneud yn ysgrifenedig a dylid anfon copi o’r penderfyniad o Gam 1 gyda’r apêl.
Gall aelod hefyd fynd yn syth i Gam 2 os:
- Ydynt wedi cwblhau Cam 1 a heb dderbyn ateb oddi fewn 3 mis o wneud yr apêl; neu
- Ydynt wedi cwblhau Cam 1 ond heb dderbyn penderfyniad oddi fewn mis i’r dyddiad y dwedwyd wrthynt y byddent yn ei dderbyn.
Mae Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi penodi Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol fel eu swyddog a benodwyd o dan Gam 2. Dylai pob cwyn cael eu hanfon i’r cyfeiriad canlynol:
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
Cyngor Gwynedd
Swyddfa’r Cyngor
CAERNARFON
Gwynedd
LL55 1SH
Unwaith eto, rhaid i ateb cael ei wneud o fewn 2 fis o dderbyn y cwyn.
Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau ar gael ar unrhyw adeg i gynorthwyo aelodau’r cynllun a buddiolwyr mewn cysylltiad ag ymholiadau neu anawsterau na allant eu datrys gyda gweinyddwr y cynllun.
Gellir cysylltu â’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau drwy fynd i’w gwefan: https://moneyandpensionsservice.org.uk , neu drwy ffonio 0800 138 7777.
Ombwdsman Pensiynau
Pan na fydd cwyn neu anghydfod wedi’i datrys yn foddhaol drwy’r Weithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol neu gyda chymorth y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, gellir gwneud cais i’r Ombwdsmon Pensiynau o fewn tair blynedd i’r digwyddiad a arweiniodd at y gŵyn neu’r anghydfod. Gall yr Ombwdsmon ymchwilio a phenderfynu ar unrhyw gŵyn neu anghydfod yn ymwneud â chamweinyddu neu faterion ffeithiol neu gyfraith.
Mae penderfyniad yr Ombwdsmon yn derfynol ac yn rhwymol (oni bai bod yr achos yn cael ei ddwyn i’r llys priodol ar bwynt cyfreithiol). Ni all yr Ombwdsmon ymchwilio i faterion lle mae achos cyfreithiol eisoes wedi dechrau. Eu cyfeiriad e-bost yw enquiries@pensions-ombudsman.org.uk neu eu rhif ffôn yw 0800 917 4487.
Y Rheolydd Pensiynau
Y Rheolydd Pensiynau yw gwarchotgi Pensiynau sy’n sicrhau bod cynlluniau yn cael eu rhedeg yn gywir, ac mae’n warchod aelodau rhag twill. Os yw aelod yn poeni am y cynllun yna gallant adrodd i’r Rheolydd Pensiynau.
Manylion cyswllt y Rheolydd yw:
Y Rheolydd Pensiynau
Telecom House
125-135 Preston Road
Brighton
BN1 6AF
Ffôn: 0345 600 0707