Disgresiwn y Cyflogwr
Mae’n ofynnol i bob cyflogwr lunio, cyhoeddi ac adolygu datganiad polisi ar nifer o ddisgresiynau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), fel a ganlyn:
- I ariannu Pensiwn Ychwanegol yn wirfoddol trwy bolisi Cyfraniad Pensiwn Ychwanegol Cost a Rennir, trwy gyfandaliad untro neu gyfraniad parhaus rheolaidd.
- Ymddeoliad Hyblyg.
- Hepgor y cyfan neu ran o unrhyw Ostyngiad Actiwaraidd.
- Dyfarnu Pensiwn Ychwanegol i aelodau, ar gost gyfan i’r Cyflogwr.
- Cymhwyso’r rheol 85 mlynedd ar Ymddeoliadau Gwirfoddol rhwng 55 a 60 oed, ar gost lawn i’r Cyflogwr.