Diswyddiadau neu Effeithlonrwydd
Os ydych yn terfynu eich swydd ar sail diswyddiad neu effeithlonrwydd, rydych yn gymwys i ymddeol a derbyn eich buddion pensiwn ar unwaith os ydych yn 55 oed neu hŷn.
Er ei bod yn bosib y bydd hyn cyn eich oed ymddeol arferol, ni fydd y pensiwn na’r lwmp swm yn cael eu gostwng. Bydd y buddion yn seiliedig ar y buddion yr ydych wedi eu cronni i’r dyddiad gadael yn unig.
Ar eich ymddeoliad bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen ymddeol cyn y gallwn dalu eich buddion.