Faint Ydwyf yn Talu?
Fel aelod actif o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, rydych yn gwneud cyfraniadau i’r cynllun. Mae’r cyfraniadau hyn yn denu gostyngiad yn y dreth y byddwch yn dalu.
Mae’r raddfa cyfrannu yr ydych yn ei thalu yn dibynnu ar eich cyflog. Mae’r bandiau cyflog o 1af o Ebrill 2024 wedi’u hamlinellu isod. Mi fydd yr amrediad cyflog ar gyfer pob band cyfraniadau yn newid bob mis Ebrill, yn unol â chostau byw:
Band |
Gwir dal cyflogaeth |
Prif adran |
Adran 50/50 |
1 |
Hyd at £17,600 |
5.50% |
2.75% |
2 |
£17,601 i £27,600 |
5.80% |
2.90% |
3 |
£27,601 i £44,900 |
6.50% |
3.25% |
4 |
£44,901 i £56,800 |
6.80% |
3.40% |
5 |
£56,801 i £79,700 |
8.50% |
4.25% |
6 |
£79,701 i £112,900 |
9.90% |
4.95% |
7 |
£112,901 i £133,100 |
10.50% |
5.25% |
8 |
£133,101 i £199,700 |
11.40% |
5.70% |
9 |
£199,701 neu fwy |
12.50% |
6.25% |
Mae’n ddyletswydd ar eich cyflogwr i roi gwybod i chi pa fand cyfrannu yr ydych yn ei dalu. Os ydych yn credu eich bod wedi’ch gosod yn y band anghywir, cysylltwch â’ch cyflogwr.
Cyfraniadau gan y cyflogwr
Mae eich cyflogwr yn talu balans y costau o ddarparu eich buddion yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Pob tair blynedd, bydd prisiant gan yr Actiwari yn cael ei gwblhau er mwyn cyfrifo faint ddylai eich cyflogwr fod yn ei gyfrannu at y cynllun. Gallwch ganfod faint mae eich cyflogwr yn ei dalu yma: Prisiant 2022.