Gadael Cyn Ymddeol

Os fyddwch yn gadael, neu’n dewis rhoi’r gorau i gyfrannu at y CPLlL cyn eich ymddeoliad, mae sawl opsiwn ar gael i chi.

Os oes gennych gyfanswm aelodaeth sy’n llai na dwy flynedd, dim hawliau pensiwn CPLlL blaenorol ac nad ydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r CPLlL, gallwch:

  • dderbyn ad-daliad o’ch cyfraniadau, llai unrhyw ddidyniadau treth.
  • drosglwyddo eich buddion i drefniant newydd, megis cynllun eich cyflogwr newydd, neu gynllun pensiwn personol.
  • aros hyd nes i chi ailymuno â’r CPLlL a dewis cyfuno eich buddion.

Os oes gennych gyfanswm aelodaeth o fwy na dwy flynedd neu eich bod wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun, gallwch: 

  • adael eich buddion gyda Chronfa Bensiwn Gwynedd hyd at yr adeg yr ydych yn cael ymddeol. Cyfeirir at hyn fel buddion gohiriedig. Bydd eich hawliau pensiwn yn cael eu cyfrifo ar y dyddiad pan fyddwch yn gadael ond bydd y taliad yn cael ei ohirio hyd at eich oedran ymddeol arferol. 
  • drosglwyddo eich buddion i drefniant newydd, megis cynllun eich cyflogwr newydd, neu gynllun pensiwn personol.

Am ragor o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i chi fel aelod gyda buddion wedi’u gohirio, ewch draw i’r rhan Gohiriedig ar y wefan hon.