Lwmp Swm Grant Marwolaeth
O ddydd cyntaf eich aelodaeth o’r cynllun pensiwn, mae lwmp swm grant marwolaeth sy’n cyfateb i 3 gwaith eich cyflog blynyddol yn daladwy os yr ydych yn marw mewn gwasanaeth, ac yn iau na 75 oed.
Dylai pob aelod o’r cynllun lenwi ffurflen mynegi dymuniad grant marwolaeth. Mae hyn yn eich galluogi i enwebu un neu fwy o unigolion neu sefydliad i dderbyn y taliad grant marwolaeth berthnasol, ac mewn rhai achosion gall hyn olygu fod modd osgoi taliadau treth etifeddiant. Gallwch lawr lwytho ffurflen i ddatgan eich manylion mynegi dymuniad grant marwolaeth isod neu gellir enwebu drwy’r system Pensiwn Ar-lein.
Gan Gronfa Bensiwn Gwynedd fydd y penderfyniad terfynol o ran pwy fyddai’n derbyn y lwmp swm, ond byddwn yn ystyried eich dymuniadau chi pob amser.
Pe byddech yn penderfynu newid eich buddiolwr, bydd pob ffurflen newydd yr ydym ni’n ei derbyn yn cymryd lle’r un blaenorol.
Os nad oes yna ffurflen mynegi dymuniad, bydd y lwmp swm grant marwolaeth yn cael ei dalu i’ch ystâd neu i briod hysbys.
Sut i enwebu?
Er mwyn enwebu unigolion, neu sefydliad, i dderbyn y grant marwolaeth sy’n daladwy ar achlysur eich marwolaeth, dylech logio i mewn i’ch cofnod Pensiwn Ar-lein neu argraffwch a chwblhau ffurflen mynegi dymuniad grant marwolaeth yn yr adran atodiadau isod.
Atodiadau