Newid Mewn Amgylchiadau

Dylech roi gwybod i’r gronfa yn ysgrifenedig os yw eich amgylchiadau yn newid fel a ganlyn:

Newid cyfeiriad

Byddwn angen gwybod am eich cyfeiriad newydd er mwyn medru cadw mewn cysylltiad.

Newid enw

Bydd angen i chwi roi gwybod i ni am unrhyw newid i’ch enw er mwyn i ni fedru diweddaru’n cofnodion.

Newid yn eich statws priodasol

Bydd Grant Marwolaeth a Buddion Pensiwn Blynyddol yn daladwy i’r sawl sy’n ddibynnol arnoch wedi’ch marwolaeth, felly mae’n bwysig fod gennym y wybodaeth gywir o ran eich statws priodasol.   Os ydych yn cyd-fyw gyda partner o’r un rhyw neu fel arall, mae modd i chwi enwebu eich partner i dderbyn budd-daliadau goroeswyr yn ddibynnol ar gyrraedd rhai meini prawf. Unwaith y byddwn yn derbyn yr wybodaeth, byddwn yn anfon copi atoch o ffurflen datganiad partner sy’n cyd-fyw â chi.

Sut i hysbysu’r Adran Bensiynau?

Defnyddiwch y ffurflen newid mewn amgylchiadau yn y rhan atodiadau er mwyn rhoi gwybod i ni am unrhyw un o’r newidiadau uchod, gan sicrhau eich bod yn amgáu’r holl ddogfennau priodol.

Atodiadau

Ffurflen Newid Mewn Amgylchiadau