Newid Mewn Amgylchiadau
Newid cyfeiriad
Byddwn angen gwybod am eich cyfeiriad newydd er mwyn gallu cadw mewn cysylltiad ac anfon P60 atoch ynghyd â llythyrau Codiad Pensiwn pob blwyddyn.
Newid enw
Bydd angen i chwi roi gwybod i ni am unrhyw newid i’ch enw er mwyn i ni allu diweddaru’n cofnodion.
Newid yn eich statws priodasol
Mae’n bosib y bydd Grant Marwolaeth a Buddion Pensiwn Blynyddol yn daladwy i’r sawl sy’n ddibynnol arnoch wedi’ch marwolaeth, felly mae’n bwysig fod gennym y wybodaeth gywir o ran eich statws priodasol.
Os y bu i chi ymddeol o Gronfa Bensiwn Gwynedd ar ôl 1 Ebrill 2008, a dechrau cyd-fyw gyda partner o’r un rhyw neu fel arall, bydd modd i chwi enwebu eich partner i dderbyn budd-daliadau goroeswyr yn ddibynnol ar gyrraedd rhai meini prawf.
Gweler yr adran Buddion Marwolaeth am fwy o wybodaeth am y buddion sy’n daladwy i ddibynyddion.
Defnyddiwch y ffurflen newid mewn amgylchiadau sydd ar gael yn yr adran Atodiadau isod er mwyn rhoi gwybod i ni am unrhyw un o’r newidiadau uchod, gan sicrhau eich bod yn amgáu’r holl ddogfennau priodol.
Newid yn eich manylion banc
I sicrhau fod eich pensiwn yn parhau i gael ei dalu, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn eich manylion banc neu gymdeithas adeiladu o leiaf 10 diwrnod cyn y dyddiad talu misol. Defnyddiwch y ffurflen Gorchymyn Banc sydd ar gael yn yr adran Atodiadau isod i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn eich manylion talu os gwelwch yn dda.
Nodwch oherwydd rheoliadau diogelu data, ni allwn dderbyn unrhyw fanylion o newid newidiadau i’ch manylion dros y ffôn.
Atodiadau