Pensiwn Goroeswyr
Pe byddech yn marw gan adael priod, partner sifil neu bartner yr ydych yn byw ag hwy, byddai ganddynt yr hawl i dderbyn pensiwn tymor hir. Mae’r pensiwn hwn yn daladwy am oes, a bydd yn cael ei dalu yn syth wedi’ch marwolaeth. Bydd yn cynyddu’n flynyddol yn unol â chostau byw.
Pensiwn eich priod neu bartner sifil
Bydd pensiwn eich priod neu bartner sifil yn gyfwerth â 1 / 160ain o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at ddyddiad eich marwolaeth, yn ogystal â’r aelodaeth y gallech fod wedi ei gronni rhwng dyddiad eich marwolaeth a’r dyddiad y buasech wedi bod yn 65 mlwydd oed.
Partner sy’n cyd-fyw â chwi
Bydd pensiwn partner cymwys sy’n cyd-fyw â chi yn gyfwerth a 1 / 160ain eich cyflog pensiynadwy wedi’i luosi â chyfanswm yr aelodaeth yr ydych chwi wedi ei gronni o 6ed Ebrill 1988 hyd at ddyddiad eich marwolaeth, ynghyd â’r aelodaeth y gallech chwi fod wedi ei gronni o ddyddiad eich marwolaeth hyd at y dyddiad y buasech wedi bod yn 65 mlwydd oed.
Bydd aelodaeth yn y cynllun cyn 6ed Ebrill 1988, yn cael ei ddefnyddio yn y cyfrifiad os ydych wedi optio i dalu cyfraniadau ychwanegol er mwyn iddo gael ei gynnwys yng nghyfrifiad pensiwn goroeswr ar gyfer eich partner cyd-fyw.
O Ebrill 2014, bydd pensiwn goroeswr yn daladwy i bartner sy’n cyd-fyw yn awtomatig heb yr angen i’r aelod o’r cynllun fod wedi cwblhau ffurflen enwebu i dderbyn pensiwn goroeswr.