Pensiwn Plant
Yn ychwanegol at fudd-dal y goroeswyr uchod, mae’r cynllun hefyd yn darparu pensiwn ar gyfer plant sy’n gymwys. Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid i’r plentyn fod yn:
- Iau na 18 mlwydd oed.
- Rhwng 18 a 23 mlwydd oed ac mewn addysg llawn amser.
- Yn gyfan gwbl neu’n bennaf ddibynnol arnoch.
- Wedi’u geni o fewn deuddeg mis i’ch marwolaeth.
- Mae’n bosibl y bydd budd-daliadau ar gyfer plant gydag anableddau yn cael eu talu am gyfnod penagored.
Mae cyfanswm y pensiwn plant sy’n daladwy yn ddibynnol ar nifer y plant cymwys sydd gennych a hefyd os yw pensiwn goroeswyr yn daladwy i’ch priod, partner sifil neu bartner sy’n cyd-fyw â chi ac wedi eu henwebu.
Hawl Pensiwn Plant pan fo pensiwn goroeswr yn daladwy.
Un plentyn: Bydd y pensiwn cyfwerth â 1 / 320ain o’ch Cyflog Terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at ddyddiad eich marwolaeth, yn ogystal â’r aelodaeth y gallech fod wedi’i gronni o ddyddiad eich marwolaeth hyd at y dyddiad y buasech yn 65 mlwydd oed.
Dau neu fwy o blant: Byddent yn derbyn pensiwn blynyddol cyfwerth â 1 / 160ain o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi a chyfanswm eich aelodaeth hyd at ddyddiad eich marwolaeth, yn ogystal â’r aelodaeth y gallech fod wedi’i gronni o ddyddiad eich marwolaeth hyd at y dyddiad y buasech yn 65 mlwydd oed. Bydd hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob plentyn.
Hawl Pensiwn Plant os nad yw pensiwn goroeswr yn daladwy.
Un plentyn: Byddai’r pensiwn yn gyfwerth â 1 / 240ain o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at ddyddiad eich marwolaeth, yn ogystal â’r aelodaeth y gallech fod wedi’i gronni o ddyddiad eich marwolaeth hyd at y dyddiad y buasech yn 65 mlwydd oed.
Dau neu fwy o blant: Byddent yn derbyn pensiwn blynyddol cyfwerth â 1 / 120ain o’ch Cyflog Terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at ddyddiad eich marwolaeth, yn ogystal â’r aelodaeth y gallech fod wedi’i gronni o ddyddiad eich marwolaeth hyd at y dyddiad y buasech yn 65 mlwydd oed. Bydd hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob plentyn.