Pensiwn Plant
Os wedi gadael cyn 01/04/2008
Yn ogystal, mae Cronfa Bensiwn Gwynedd yn darparu buddion pensiwn i blant cymwys. Mae’r diffiniad o blentyn cymwys yn wahanol ar gyfer pensiynwyr ble y bu i’w pensiwn neu bensiwn gohiriedig ddechrau cyn 6 Ebrill 2006, o’i gymharu â’r rhai ble y dechreuodd eu pensiwn neu bensiwn gohiriedig rhwng 6 Ebrill 2006 a 31 Mawrth 2008.
Os ddechreuodd y pensiwn cyn 6 Ebrill 2006, mae plant cymwys yn cynnwys eich plant cyfreithlon, mabwysiedig neu ddibynnol sy’n:
- blant iau na 17 mlwydd oed, neu
- ers cyn iddynt fod yn 17 mlwydd oed, eu bod wedi bod mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser ar gyfer crefft, proffesiwn neu alwedigaeth; neu’n
- ddibynnol oherwydd analluogrwydd.
Os ddechreuodd y pensiwn rhwng 6 Ebrill 2006 a 31 Mawrth 2008, mae plant cymwys yn cynnwys eich plant cyfreithlon, mabwysiedig neu ddibynnol sy’n:
- Iau na 17 mlwydd oed, neu
- Yn iau na 23 mlwydd oed ac ers cyn iddynt fod yn 17 mlwydd oed, eu bod wedi bod mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser ar gyfer crefft, proffesiwn neu alwedigaeth, neu’n
- Ddibynnydd oherwydd analluogrwydd a ddechreuodd tra bod plentyn o fewn diffiniad (1) neu (2) uchod.
Ym mhob achos, rhaid i’r plant fod wedi’u geni o fewn 12 mis o’ch marwolaeth.
Mae cyfanswm y pensiwn plant sy’n daladwy yn ddibynnol ar nifer y plant cymwys sydd gennych ac os yw pensiwn priod/partner sifil yn daladwy hefyd.
Hawl Pensiwn Plant pan fo pensiwn goroeswr yn daladwy:
1 plentyn: Byddai’r pensiwn gyfwerth ag 1 / 320fed o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad ymddeol.
2 blentyn neu fwy: Byddent yn derbyn pensiwn blynyddol gyfwerth ag 1 / 160ain o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad ymddeol. Byddai hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob plentyn.
Hawl Pensiwn Plant pan nad oes pensiwn goroeswr yn daladwy:
Wedi’ch marwolaeth, bydd eich plant yn derbyn pensiwn byrdymor sydd gyfwerth â’r pensiwn yr oeddech yn ei dderbyn cyn eich marwolaeth, am gyfnod o 6 mis. Bydd hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng eich plant cymwys.
Unwaith y daw’r pensiwn byrdymor i ben, bydd pensiwn hirdymor yn daladwy, fel a ganlyn:
1 plentyn: Byddai’r pensiwn gyfwerth ag 1 / 240fed o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael.
2 blentyn neu fwy: Byddent yn derbyn pensiwn blynyddol gyfwerth ag 1 / 120fed o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael. Byddai hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob plentyn.
Os wedi gadael ar ôl 01/04/2008
Plant cymwys yw rhai sydd:
- Yn iau na 18 mlwydd oed ac sy’n gwbl, neu’n bennaf ddibynnol arnoch chi, neu
- Yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ond yn iau na 21 mlwydd oed, sy’n ddibynnol arnoch chi ac sydd mewn addysg llawn amser neu sy’n ymgymryd â hyfforddiant galwedigaethol (er y gall plentyn dibynnol sy’n dechrau mewn addysg llawn amser neu hyfforddiant galwedigaethol ar ôl dyddiad eich marwolaeth, gael ei drin fel plentyn cymwys hyd nes ei fod yn 23 mlwydd oed), neu
- Mewn rhai achosion, gellir dosbarthu plentyn dibynnol gydag anableddau, o unrhyw oedran, fel plentyn cymwys.
Ym mhob achos, rhaid i’r plant fod wedi’u geni o fewn blwyddyn o’ch marwolaeth.
Mae cyfanswm y pensiwn plant sy’n daladwy yn ddibynnol ar nifer y plant cymwys sydd gennych ac hefyd os yw pensiwn goroeswr yn daladwy i’ch priod, partner sifil neu bartner sy’n cyd-fyw â chi ac wedi’u henwebu.
Hawl Pensiwn Plant pan fo pensiwn goroeswr yn daladwy:
1 plentyn: Byddai’r pensiwn gyfwerth ag 1 / 320fed o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad ymddeol.
2 blentyn neu fwy: Byddent yn derbyn pensiwn blynyddol gyfwerth ag 1 / 160ain o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael. Byddai hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob plentyn.
Hawl Pensiwn Plant pan nad oes pensiwn goroeswr yn daladwy:
1 plentyn: Byddai’r pensiwn gyfwerth ag 1 / 240fed o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael.
2 blentyn neu fwy: Byddent yn derbyn pensiwn blynyddol gyfwerth ag 1 / 120fed o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael. Byddai hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob plentyn.