Bydd eich slipiau cyflog pensiynwr yn cael eu lanlwytho i’ch cyfrif Fy Mhensiwn Ar-lein ar ddiwedd pob mis. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch unwaith y bydd pob slip cyflog yn barod i’w weld. Sicrhewch eich bod wedi cofrestru ar gyfer y porth Fy Mhensiwn Ar-lein a’ch bod yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost personol.
Er mai ein gwasanaeth ar-lein yw’r dull a ffefrir gan lawer o’n haelodau, rydym hefyd yn gwybod nad yw pawb eisiau defnyddio gwasanaethau ar-lein. Os dymunwch dderbyn copi papur o’ch slip cyflog, yna cysylltwch â ni yn ysgrifenedig. Dim ond pan fydd gwahaniaeth o fwy na £10.00 o gymharu â’ch pensiwn mis blaenorol y caiff slip cyflog papur ei roi.
Mae eich P60 yn cael ei gyhoeddi fel rhan o’ch slip cyflog bob mis Mawrth. Y P60 yw eich tystysgrif o gyflog a threth ar gyfer y 12 mis diwethaf, felly cofiwch gadw mewn lle diogel. Fel arfer, bydd angen eich P60 fel prawf o faint o bensiwn yr ydych yn ei dderbyn os ydych yn hawlio budd-daliadau fel cymhorthdal incwm neu fudd-dal tai.

