Polisi Gwrthdaro Buddion

Mae’n rhaid i bob cronfa gynhyrchu a chyhoeddi polisi gwrthdaro buddion sy’n cynnwys manylion ynghylch sut yr eir i’r afael â gwrthdaro gwirioneddol, posibl a chanfyddedig o fewn llywodraethu’r gronfa.

Mae’r polisi gwrthdaro buddion yn nodi ein proses ar gyfer nodi, monitro a rheoli gwrthdaro buddiannau wrth lywodraethu a rheoli’r gronfa.

Mae’n bosibl y bydd gan bobl sydd â chyfrifoldebau am weinyddu’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), yn ogystal â chynghorwyr i’r gronfa, rolau a chyfrifoldebau eraill. Gallai hyn fod er enghraifft:

  • fel aelod etholedig o gyflogwr sy’n cymryd rhan yn y gronfa
  • fel cynghorydd i awdurdodau gweinyddu CPLlL eraill
  • person sydd â buddiannau personol, busnes neu eraill a allai wrthdaro â’i rôl yn rheoli neu’n cynghori’r gronfa

Mae’r polisi’n ymwneud â:

  • aelodau Bwrdd Pensiwn Gwynedd
  • aelodau’r Pwyllgor Pensiynau
  • uwch swyddogion sy’n ymwneud â llywodraethu a rheoli’r gronfa
  • cynghorwyr a chyflenwyr i’r gronfa

Mae ein polisi’n cael ei baratoi ar hyn o bryd a bydd yn ymddangos ar y dudalen hon unwaith y bydd yn barod i’w gyhoeddi.