Sicrwydd Bywyd CGY
Yn ogystal, gallwch dalu fel bod yr CGY mewnol yn darparu Sicrwydd Bywyd ychwanegol i chi. Mae’ch aelodaeth CPLlL yn rhoi sicrwydd yn barod i chi o oddeutu 3 gwaith eich cyflog blynyddol os fyddwch yn marw mewn gwasanaeth, ond gallwch gynyddu’r sicrwydd hwn i ddarparu buddion ychwanegol i’ch rhai dibynnol pe baech yn marw mewn gwasanaeth, a hynny trwy gyfrannu at gynllun sicrwydd bywyd CGY mewnol. Bydd hwn yn amodol ar gwblhau holiadur meddygol yn llwyddiannus.
Mae gan Clerical Medical gyfres o dablau sydd wedi’u rhannu’n unol ag oedran a rhyw, a bydd unrhyw ddyfynbris yn seiliedig arnynt. Bydd y taliadau’n parhau yr un fath trwy gydol oes y polisi.
Os fyddwch yn gadael Cronfa Bensiwn Gwynedd, bydd y taliadau a’r rhwymedigaeth i Clerical Medical yn dod i ben.