Staff Cyngor Gwynedd
Mae CGY arferol yn bot o arian y gallwch chi gyfrannu ato a’i adeiladu i roi buddion ychwanegol i chi ochr yn ochr â’ch buddion CPLlL. Caiff y cyfraniadau eu didynnu o’ch tâl cyn i’r dreth cael ei chyfrifo. Felly, os ydych yn drethdalwr 20% ac yn dymuno rhoi £100 i mewn i’ch pot CGY pob mis, dim ond £80 sydd angen i chi ei dalu, gan fod yr £20 sy’n weddill yn dod o’r rhyddhad treth.
Mae eich cyflogwr hefyd yn cynnig CGY Cost a Rennir (CGY cost a rennir) sy’n rhoi cyfle i chi dalu CGY mewn ffordd gost-effeithiol. Gyda’r CGY cost a rennir gallwch arbed arian mewn Cyfraniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol, sy’n ei gwneud yn fwy buddiol i chi o’i gymharu â thalu CGY mewn ffordd safonol. Gyda’r CGY cost a rennir, rydych chi a’ch cyflogwr yn cyfrannu at eich cronfa CGY. Rydych chi’n talu £1 y mis i’ch cronfa CGY fel eich cyfraniad gyda gweddill eich cyfanswm cyfraniad misol yn cael ei dalu gan eich cyflogwr, trwy drefniant aberthu cyflog. Fel hyn rydych chi’n gwneud arbedion nid yn unig ar eich Treth Incwm ond hefyd ar Gyfraniadau Yswiriant Gwladol (NIC’s) ar y cyflog rydych chi wedi’i aberthu.
Mae gennych gyfrif CGY/(CGY cost a rennir) eich hun a gallwch ddewis sut mae eich pot o arian chi yn cael ei fuddsoddi gyda’r darparwr CGY. Mae’r CGY/(CGY cost a rennir) yn ffordd hyblyg o gynyddu eich buddion pensiwn. Gallwch dalu hyd at 100% o’ch tâl pensiynadwy (llai didyniadau statudol fel Yswiriant Gwladol a Chyfraniadau Pensiwn) i mewn i’ch cronfa CGY. Gallwch hefyd gynyddu neu leihau’r cyfraniadau yr ydych yn dymuno eu talu, ynghyd â newid sut mae’r arian yn eich cronfa CGY yn cael ei fuddsoddi.
Os byddwch yn marw tra eich bod dal yn gweithio, bydd eich cronfa CGY yn cael ei defnyddio fel grant marwolaeth ychwanegol ac yn cael ei thalu allan i’ch buddiolwr / buddiolwyr, yn unol â’ch Ffurflen Enwebiad Grant Marwolaeth. Os nad ydych wedi gwneud Dymuniad Grant Marwolaeth, bydd yr arian yn cael ei dalu i’ch Ystâd.
Sut ydw i’n ymuno?
Cwblhewch y Ffurflen Gais Clerical Medical a’i dychwelyd i Gronfa Bensiwn Gwynedd. Mae’r ffurflen i’w chael yn yr adran ‘Atodiadau’ isod.
Bydd angen i chi benderfynu faint o gyfraniad yr hoffech ei dalu bob mis a ble i fuddsoddi eich arian. Mae gwybodaeth am y cronfeydd buddsoddi sydd ar gael hefyd i’w chael yn yr adran ‘Atodiadau’ isod.
Opsiynau pan fyddwch yn ymddeol o’r CPLlL
- Pan ychwanegir at y Gwerth Cyfalaf o’ch buddion CPLlL, mae’n bosib tynnu hyd at 100% o’ch cronfa CGY fel arian parod di-dreth os nad yw’r gwerth cyfun yn fwy na 25% o derfyn Gwerth Cyfalaf CThEM.
Os yw’r gwerth cyfun yn uwch na’r terfyn yma, mae’n golygu na allwch gymryd 100% o’ch cynllun CGY fel arian parod di-dreth. Bydd y swm sy’n weddill wedyn yn cael ei ddefnyddio i brynu swm ychwanegol o bensiwn blynyddol yn y CPLlL neu mewn man arall.
- Gallwch ddefnyddio eich cynllun CGY i brynu pensiwn blynyddol ychwanegol yn y CPLlL.
- Mae’n bosib defnyddio eich cronfa CGY i brynu pensiwn blwydd-dâl gan y darparwr mewnol (os yw’r opsiwn yma ar gael) neu gan unrhyw ddarparwr arall o’ch dewis chi (pensiwn sydd yn swm sefydlog o arian a delir pob blwyddyn tan ddigwyddiad penodol, fel marwolaeth).
Atodiadau