Strategaeth Weinyddol

Prif amcanion y strategaeth hon yw sicrhau:

  • Mae’r Gronfa a Chyflogwyr yn ymwybodol ac yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau o dan y Rheoliadau CPLlL ac wrth gyflawni swyddogaethau gweinyddol
  • Mae’r Gronfa’n gweithredu’n unol â rheoliadau’r CPLlL ac yn cyd-fynd â’r Rheoleiddiwr Pensiynau o ran dangos cydymffurfiaeth a llywodraethu’r cynllun.
  • Mae prosesau cyfathrebu ar waith i alluogi’r Gronfa a Chyflogwyr i ymgysylltu’n rhagweithiol ac yn ymatebol â’i gilydd a phartneriaid eraill.
  • Cedwir cofnodion cywir at ddiben cyfrifo hawliau pensiwn a rhwymedigaethau Cyflogwr, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth a data yn cael eu cyfathrebu’n gywir, yn amserol ac mewn modd diogel sy’n cydymffurfio.
  • Bod gan y Gronfa a chyflogwyr y cynllun sgiliau priodol a bod arweiniad/hyfforddiant yn ei le i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel a chyfrannu’n effeithiol at yr agenda pensiynau sy’n newid.
  • Safonau’n cael eu gosod a’u monitro ar gyfer cyflawni gweithgareddau penodol yn unol â’r Rheoliadau.

Gweler gopi o Strategaeth Weinyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd yn y rhan atodiadau isod.

Atodiadau                                                                                                                                                                                                        

Strategaeth Weinyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd