Ymddeoliad Hwyr
Pe byddech yn dewis parhau i weithio ar ôl eich oed ymddeol arferol, gallwch barhau i dalu i mewn i Gronfa Bensiwn Gwynedd ac adeiladu mwy o fuddion yn y cynllun.
Gallwch ddewis derbyn eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol neu’n hwyrach, ond rhaid i’ch buddion gael eu talu erbyn eich pen-blwydd yn 75 oed.
Os ydych yn penderfynu derbyn eich buddion ar ôl eich oed ymddeol arferol, bydd y pensiwn a’r lwmp swm ymddeol yn cael ei chwyddo pan fydd yn daladwy er mwyn ystyried ei fod yn cael ei dalu am gyfnod byrrach.
Ar eich ymddeoliad bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen ymddeol cyn y gallwn dalu eich buddion.