Ymddeoliad Hyblyg
O dan ymddeoliad hyblyg, pe byddwch yn lleihau eich oriau gwaith yn eich swydd gyfredol , neu’n symud i swydd ar raddfa is, mae’n bosib i chi dderbyn yr holl fuddion pensiwn yr ydych wedi eu cronni hyd at y dyddiad y newidiwyd eich oriau neu eich graddfa, a pharhau i weithio yn eich swydd.
Gallwch gymryd ymddeoliad hyblyg o oed 55 ymlaen os ydych yn bodloni’r meini prawf canlynol:
- Rydych wedi bod yn y cynllun am o leiaf 2 flynedd (neu wedi trosglwyddo hawliau blaenorol i mewn i’r cynllun)
- Bod eich cyflogwr wedi rhoi caniatâd i chi gymryd ymddeoliad hyblyg
- Bod eich cyflogwr wedi rhoi caniatâd i chi leihau eich oriau gwaith neu newid i swydd ar raddfa is.
Gostyngiadau pe byddech yn cymryd ymddeoliad hyblyg
Wrth gymryd ymddeoliad hyblyg, bydd y pensiwn a’r lwmp swm ymddeol y byddwch yn eu derbyn yn seiliedig ar y buddion yr ydych wedi’u cronni hyd ar ddyddiad newid eich oriau neu’ch graddfa.
Pe byddech yn dewis ymddeol cyn eich oed ymddeol arferol, byddai eich pensiwn a’ch lwmp swm ymddeol yn cael eu gostwng gan eu bod yn cael eu talu’n gynnar, ac o bosib, am gyfnod hirach. Bydd y gostyngiad yn cael ei weithredu fel canran o’ch pensiwn a’ch lwmp swm. Po agosaf ydych at eich oed ymddeol arferol pan fyddwch yn ymddeol, y lleiaf y bydd y gostyngiad.
Os oeddech chi yn aelod o’r cynllun ar 30ain o Fedi 2006 ac y byddech wedi bodloni’r rheol 85 mlynedd wrth ymddeol, gallai’ch buddion i gyd, neu ran ohonynt, fod wedi’u gwarchod rhag y gostyngiad.
Mae gofyn i bob cyflogwr o fewn Cronfa Bensiwn Gwynedd gael polisi sy’n nodi pa un a ydynt yn caniatáu i weithiwyr gymryd ymddeoliad hyblyg. Dylech gysylltu ag adran bersonél eich cyflogwr er mwyn cael gwybod mwy ynghylch eu polisi ymddeoliad hyblyg.
Ar eich ymddeoliad bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen ymddeol cyn y gallwn dalu eich buddion.