Ysgariad

Fel arfer, mewn achosion ysgariad, bydd yn rhaid i chi ddatgelu pob buddiant ariannol sydd gennych i’r Llys. Pan fyddwch yn gwneud hyn, bydd yn rhaid i chi neu’ch twrnai ofyn am Werth Cyfwerth ag Arian eich hawliau pensiwn o Gronfa Bensiwn Gwynedd.

Wedyn, bydd y Llys yn penderfynu os yw Gorchymyn Clustnodi neu Orchymyn Rhannu pensiwn yn cael ei roi ar eich pensiwn Llywodraeth Leol.

Rhaid nodi na fydd yr un o’r Gorchmynion hyn yn cael unrhyw effaith ar unrhyw bensiwn i blentyn a fyddai’n daladwy ar ôl i  chi farw.

Gorchymyn Clustnodi      

Mae Gorchymyn Clustnodi yn rhoi hawl i’ch cyn-briod dderbyn cyfran o’ch buddiannau pan fyddwch yn ymddeol. Gall y gyfradd hon gynnwys:

  • Rhan o’ch pensiwn    
  • Rhan o’ch lwmp-swm ymddeol  
  • Rhan o unrhyw lwmp-swm a delir ar ôl i chi farw
  • Os yr ymunoch â’r cynllun pensiwn cyn 17/03/1987, gallai’r Gorchymyn Clustnodi olygu y bydd peth o’ch pensiwn yn cael ei gyfnewid am lwmp-swm ymddeol ychwanegol.

Os bydd eich cyn-briod yn ail-briodi, bydd y Gorchymyn Clustnodi yn erbyn eich pensiwn yn cael ei ddileu yn awtomatig.

Bydd y taliadau pensiwn i’ch cyn-briod yn dod i ben ar ôl i chi farw.

Gorchymyn Rhannu Pensiwn

Mewn achosion ysgariad a gychwynnwyd ar 1af Rhagfyr 2000 neu’n ddiweddarach, fe all y Llys roi Gorchymyn Rhannu Pensiwn. Bydd eich cyn-briod yn cael canran o’ch buddion pensiwn ac o’r herwydd bydd ganddi/ganddo fuddion pensiwn ar wahân i’ch buddion chi. 

Bydd y canran hwn yn cael ei dynnu o’ch pensiwn gohiriedig, y lwmp-swm ymddeol ac unrhyw bensiwn i’ch priod newydd pe byddech yn ail-briodi, a’i roi i’ch cyn-briod fel Credyd Pensiwn.

Fel aelod Credyd Pensiwn o’r CPLlL, bydd eich cyn briod yn derbyn eu buddion pensiwn ar ôl cyrraedd 55 oed gyda gostyngiad, neu heb ostyngiad ar unai Oedran Pensiwn Y Wladwriaeth (os gadawsoch gyflogaeth ar ôl 01/04/2014), neu 65 oed (os gadawsoch gyflogaeth cyn 01/04/2014), a bydd y pensiwn yn daladwy am oes. Gallai’r buddion pensiwn gael eu rhyddhau’n gynt os ydynt yn dioddef waeledd difrifol. Bydd ganddynt hefyd yr opsiwn i drosglwyddo’r Credyd Pensiwn hwn i drefniant pensiwn arall, heblaw CPLlL, os dymunant.

A fyddech gystal â chysylltu â ni yn ysgrifenedig os byddwch angen cyfrifo Gwerth Cyfwerth ag Arian eich hawliau pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer achos ysgariad.