Treth a Chodau Treth
! Ni all Cronfa Bensiwn Gwynedd newid eich cod treth.
✓ Cyllid a Thollau EF (CThEF) sy'n gyfrifol am eich cod treth.
✓ Os oes gennych gwestiwn am eich treth neu'ch cod treth, cysylltwch â CThEF yn uniongyrchol.
✓ Wrth gysylltu â CThEF, dylech sicrhau bod eich Rhif Yswiriant Gwladol a chyfeirnod PAYE Cronfa Bensiwn Gwynedd 914/B11081 wrth law.
Ffôn: 0300 200 1900
A fydd Treth Incwm yn cael ei didynnu o'm pensiwn?
Mae eich pensiwn CPLlL yn drethadwy a bydd Treth Incwm yn cael ei didynnu o'ch taliadau pensiwn yn unol â chyfarwyddiadau CThEF.
Sut mae fy nghod treth yn cael ei bennu?
Os byddwn yn derbyn P45 cyfredol gennych cyn i'ch pensiwn gael ei sefydlu, byddwn yn defnyddio'r cod treth sydd wedi'i nodi arno.
Os nad ydym yn derbyn P45, byddwn yn gweithredu cod treth dros dro nes bydd CThEF yn darparu'r cod cywir.

