Hysbysiad Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd Cyflawn ar gyfer Aelodau a Buddiolwyr Cronfa Bensiwn Gwynedd
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn ar gyfer buddiolwyr ac aelodau (y cyfeirir atynt fel “chi”) Cronfa Bensiwn Gwynedd (y “Gronfa”). Fe'i paratowyd gan Gyngor Gwynedd (yr “Awdurdod Gweinyddu”, neu “ni”) yn ei rinwedd fel awdurdod gweinyddu'r Gronfa. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut yr ydym yn casglu ac yn defnyddio data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.
Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw hysbysiad preifatrwydd neu bolisi prosesu teg arall y gallwn eu darparu ar achlysuron penodol pan fyddwn yn casglu neu'n prosesu data personol amdanoch.
Pam Rydym yn Darparu'r Hysbysiad Hwn i Chi
Fel Awdurdod Gweinyddu'r Gronfa, rydym yn cadw gwybodaeth benodol amdanoch, y byddai modd eich hadnabod ohoni (“data personol”) ac a ddefnyddir gennym i weinyddu'r Gronfa ac i dalu buddion ohoni.
Yn unol â deddfwriaeth diogelu data, mae'n ofynnol i ni roi gwybodaeth benodol i chi am y data personol sydd gennym amdanoch, sut y caiff ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â'r data a'r mesurau diogelu sydd ar waith i'w ddiogelu.
Y Rhan Technegol
Mae'r Awdurdod Gweinyddu yn cadw data personol amdanoch chi yn rhinwedd ei rôl fel rheolydd data er mwyn sicrhau yr ymdrinnir yn briodol â phob mater sy'n ymwneud â'r Gronfa, gan gynnwys ei gweinyddu a'i rheoli.
Mae hyn yn cynnwys prosesu'ch data i gysylltu â chi, cyfrifo, sicrhau a thalu buddion, gwneud gwaith modelu ystadegol ac ariannol, ac at ddibenion cyfeirio a rheoli'r Gronfa.
Sail Gyfreithiol y Prosesu
Fel arfer, y sail gyfreithiol i’n defnydd o’ch data personol fydd yr angen i brosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Gweinyddu'r Gronfa.
- Mae angen i ni brosesu eich data personol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol.
- Mae angen i ni brosesu eich data personol at ddibenion dilys gweinyddu a rheoli'r Gronfa.
- Mae angen i ni brosesu eich data personol i gyflawni rhwymedigaethau cytundebol.
Pa Ddata Personol Rydym yn ei Gadw, a Sut Rydym yn ei Gael
Mae’r mathau o ddata personol rydyn ni’n ei gadw ac yn ei brosesu amdanoch yn gallu cynnwys:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost.
- Manylion adnabod megis dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol a rhifau aelodaeth.
- Gwybodaeth am gyflog a gwasanaeth a ddefnyddir i gyfrifo buddion.
- Gwybodaeth ariannol megis manylion banc a threth.
- Gwybodaeth am deulu, dibynyddion neu amgylchiadau personol.
- Gwybodaeth am iechyd lle bo hynny'n berthnasol.
- Gwybodaeth am euogfarnau troseddol lle bo hynny'n berthnasol.
- Gwybodaeth am aelodaeth flaenorol o gynlluniau pensiwn eraill.
Rydym yn cael rhywfaint o'r data hwn yn uniongyrchol gennych chi ac o ffynonellau eraill megis cyflogwyr, cronfeydd data cyhoeddus, dangosfyrddau pensiynau, cynghorwyr a chyrff llywodraethol.
Sut Fyddwn yn Defnyddio Eich Data Personol
Byddwn yn defnyddio eich data personol at ddibenion gweinyddu a rheoli'r Gronfa.
- I gysylltu â chi.
- I asesu cymhwyster am fuddion, eu cyfrifo a'u talu.
- I nodi a gweithredu opsiynau buddion.
- I hwyluso mynediad drwy ddangosfwrdd pensiynau.
- At ddibenion modelu ystadegol ac ariannol.
- I weithredu trosglwyddiadau buddion.
- I gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol.
- I ymateb i ymholiadau ac anghydfodau.
- I reoli rhwymedigaethau a buddsoddiadau'r Gronfa.
- Mewn cysylltiad ag uno, gwerthu neu ad-drefnu cyflogwyr sy'n rhan o'r Gronfa.
- I benderfynu a ydych yn gymwys i gael gwarchodaeth danategol.
Sefydliadau y Gallwn Rannu Eich Data Personol  Hwy
O bryd i'w gilydd byddwn yn rhannu data personol gyda chynghorwyr a darparwyr gwasanaeth sy'n ein helpu i weinyddu'r Gronfa.
Proseswyr
- Gweinyddwr y Gronfa.
- Darparwyr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol.
- Cyfrifwyr.
- Canolfannau olrhain aelodau a buddiolwyr.
- Darparwyr taliadau tramor.
- Darparwyr gwasanaethau dangosfyrddau pensiynau.
- Cwmnïau argraffu.
- Darparwyr meddalwedd pensiynau.
- Cyflenwyr gwasanaethau TG.
Rheolyddion
- Ymgynghorwyr actiwaraidd.
- Cynghorwyr buddion a buddsoddi.
- Darparwyr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol.
- Cynghorwyr cyfreithiol.
- Archwilwyr.
- Cwmnïau yswiriant.
- Awdurdodau gweinyddu CPLlL eraill.
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau.
- Adran Actiwari'r Llywodraeth.
- Swyddfa'r Cabinet.
- CThEF.
- Llysoedd Cymru a Lloegr.
- Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.
Trosglwyddo Gwybodaeth y Tu Allan i'r Deyrnas Unedig
Mewn rhai achosion gall data personol gael ei drosglwyddo y tu allan i'r DU. Lle bydd hyn yn digwydd, bydd mesurau diogelu priodol yn cael eu rhoi ar waith.
Pa Mor Hir y Byddwn yn Cadw Eich Data Personol
Byddwn yn cadw eich data personol dim ond cyhyd ag sydd ei angen i gyflawni'r dibenion y cafodd ei gasglu ar eu cyfer ac i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol.
- Fel rheol, cedwir data am gyfnod eich hawl i fuddion ac am 15 mlynedd wedi i'r buddion hynny ddod i ben.
- Bydd data sy'n ymwneud â dangosfyrddau pensiynau yn cael ei gadw yn unol â'r rheoliadau perthnasol.
Eich Hawliau
Mae gennych yr hawl i:
- Gael mynediad at eich data personol.
- Ofyn am gywiro data anghywir neu anghyflawn.
- Ofyn am gyfyngu prosesu mewn rhai amgylchiadau.
- Ofyn am drosglwyddo eich data lle bo hynny'n berthnasol.
- Ofyn am ddileu data mewn amgylchiadau cyfyngedig.
- Gwrthwynebu prosesu mewn rhai amgylchiadau.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Ffôn: 0303 123 1113.
Diweddariadau
Efallai y byddwn yn diweddaru'r hysbysiad hwn o bryd i'w gilydd. Lle bydd hyn yn digwydd, byddwn yn hysbysu aelodau a buddiolwyr o'r newidiadau a dyddiad eu gweithredu.
Cysylltu â Ni
Cysylltwch â gweinyddwr y Gronfa, Cyngor Gwynedd, am ragor o wybodaeth.
Swyddog Diogelu Data
Gallwch hefyd gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data am ragor o wybodaeth neu os oes gennych gŵyn am sut rydym wedi ymdrin â'ch data personol.
Cwcis
Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan byddwn yn gofyn i chi dderbyn cwcis oddi ar y wefan hon. Os ydych yn dewis peidio â derbyn cwcis, mae’n bosibl na fydd gwefan Cronfa Bensiwn Gwynedd yn gweithio mewn modd mor soffistigedig.
Ni chedwir gwybodaeth sensitif megis rhifau ffôn neu gyfeiriadau e-bost yn y cwcis. Maent yn cael eu defnyddio i roi gwybodaeth i ni am ymddygiad defnyddwyr ar ein gwefan, pa rannau sydd o ddiddordeb iddynt a pha wasanaethau sy’n cael eu defnyddio amlaf. Gellir eu defnyddio hefyd i gofio manylion mewngofnodi ar gyfer rhai gwasanaethau.
Mae'r tabl isod yn egluro pa gwcis yr ydym yn eu defnyddio a pham:
| Categori | Enw | Pwrpas |
|---|---|---|
| Ystadegau SiteImprove SiteAnalyze | ASP.NET_SessionId | Pwrpas y cwci hwn yw cofnodi’r drefn y byddwch yn edrych ar dudalennau yn ystod eich ymweliad â’r wefan. Gall yr wybodaeth gael ei defnyddio er mwyn ceisio lleihau eich siwrnai fel cwsmer o fewn y safle, a’ch helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth berthnasol yn gynt. |
| Cwci Cyngor Gwynedd | dangos-neges-cwcis | Pwrpas y cwci hwn yw cofnodi a ydych wedi derbyn cwcis oddi ar y wefan hon ai peidio. Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chadw yn y cwci hwn. |
Diweddariadau i'r Telerau hyn
Gall Cronfa Bensiwn Gwynedd ddiweddaru’r telerau hyn ar unrhyw adeg. Dylech ymweld â’r dudalen hon yn achlysurol er mwyn adolygu’r wybodaeth sydd arni fel defnyddiwr.

