Newid eich manylion banc

Os ydych wedi newid eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, cwblhewch ffurflen Gorchymyn Banc newydd a'i dychwelyd atom cyn gynted â phosibl.

✓ Rhowch wybod i ni o leiaf 10 diwrnod cyn eich taliad pensiwn nesaf os ydych yn newid manylion banc

✓ Ni allwn dderbyn newidiadau i fanylion banc dros y ffôn

Agor y Ffurflen

Beth os byddaf yn symud dramor?

Os hoffech i'ch pensiwn gael ei dalu i gyfrif banc tramor, cysylltwch â ni i ofyn am y ffurflen berthnasol.

Ar ôl i chi ddychwelyd y ffurflen, byddwn yn cyfarwyddo Crown Agents Bank i drefnu'r taliadau. Mae Crown Agents Bank yn fanc yn y DU a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a'r Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA), gyda phrofiad helaeth o brosesu taliadau pensiwn rhyngwladol.

Tystysgrif Oes - Os ydych yn byw dramor, efallai y bydd angen i chi gwblhau tystysgrif oes o bryd i'w gilydd. Gall methu â dychwelyd y ffurflen arwain at atal taliadau pensiwn nes bydd wedi'i derbyn.