Fel Cynghorydd sy’n aelod o’r CPLlL, byddwch yn cyfrannu 6% o’ch tal, y tal hwn fydd eich lwfans sylfaenol a’ch lwfans cyfrifoldeb arbennig. Nid ydych yn talu cyfraniadau ar unrhyw lwfans gofalwr dibynyddion, lwfans teithio a chynhaliaeth na lwfans cyfetholedig. Bydd y cyfraniadau hyn yn denu gostyngiad yn y dreth. Mae eich cyfraniadau yn ddiogel iawn gan fod y CPLlL wedi’i sefydlu gan Statud, mae talu buddion i aelodau wedi’i warantu gan y gyfraith.
Bydd eich cyngor yn talu balans y costau o ddarparu eich buddion yn y CPLlL. Pob tair blynedd, bydd prisiad gan yr Actwari yn cael ei wneud er mwyn cyfrifo faint ddylai eich Cyngor fod yn cyfrannu at y Cynllun. Bydd y swm yn amrywio, ond y dybiaeth sylfaenol bresennol yw eich bod chi’n cyfrannu tua thraean o gostau’r Cynllun a’r Cyngor yn cyfrannu’r gweddill.

