A allaf drosglwyddo pensiwn i'r CPLlL?

Na.

Nid yw rheolau'r cynllun yn caniatáu trosglwyddo buddion pensiwn i adran Cynghorwyr y CPLlL o gynllun pensiwn arall nac o gronfa CPLlL arall.

Fodd bynnag, os oes gennych fuddion o gyfnod blaenorol fel Cynghorydd yn yr un gronfa CPLlL, efallai y gallwch gyfuno'r buddion hynny â'ch aelodaeth gyfredol.

Fel arfer, rhaid gwneud cais i gyfuno'ch buddion o fewn 12 mis i ail-ymuno â'r cynllun, oni bai bod eich Cyngor yn caniatáu cyfnod hirach.