Cynnwys
Cefndir
Mae hwn yn ddisgrifiad byr o amodau aelodaeth y cynllun, ynghyd â’r prif fuddion sy’n berthnasol os ydych yn cyfrannu i’r CPLlL ar Ebrill 1, 2024 neu ar ôl hynny.
Pa fath o gynllun ydyw?
Mae’r CPLlL yn gynllun pensiwn galwedigaethol, yn dreth gymeradwyedig, ddiffiniedig a sefydlwyd dan Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013. Seilir buddion y cynllun o 1 Ebrill 2014 ar eich Cyfartaledd Cyflog Gyrfa Wedi’i Adbrisio. Mae’n ddiogel iawn oherwydd fe drefnir y buddion yn unol â’r gyfraith.
Pwy all ymuno?
Mae’r CPLlL yn cynnwys Llywodraeth Leol a sefydliadau eraill sydd wedi dewis cyfranogi ynddo.
Byddwch yn cael eich dwyn i mewn i'r cynllun yn awtomatig os oes gennych gontract cyflogaeth am o leiaf 3 mis ac rydych o dan oed 75.
Fel arall, os oes gennych gontract cyflogaeth o lai na 3 mis ond rydych o dan oed 75, NI fyddwch yn dod i mewn i'r cynllun yn awtomatig, ond byddwch yn cael y dewis i ymuno gan eich Cyflogwr.
Os ydych yn Swyddog yr Heddlu, Diffoddwyr Tân neu Athro, ni fyddwch yn cael caniatâd i ymuno â'r CPLlL.
Sut ydwyf yn sicrhau fy mod yn dod yn aelod o’r CPLlL?
I sicrhau eich hawl i fuddion y Cynllun, mae’n bwysig eich bod yn cwblhau a dychwelyd y ffurflenni ymuno.
Wedi derbyn eich ffurflenni, fe ddarperir cofnodion perthnasol ac fe anfonir hysbysiad swyddogol o’ch aelodaeth o’r CPLlL i chi.
Dylech wirio eich slip cyflog hefyd i sicrhau fod eich cyfraniadau pensiwn yn cael eu didynnu.
Alla i optio allan o’r CPLlL ac ail ymuno yn ddiweddarach?
Gallwch adael y CPLlL ar unrhyw adeg drwy ofyn i’r Adran Bensiynau am ffurflen optio allan a’i dychwelyd at eich Cyflogwr.
Efallai fydd wedyn hawl gennych i ad-daliad o gyfraniadau pe baech yn gadael y cynllun o fewn 2 mlynedd o ymaelodi.
Os byddwch yn optio allan, gallwch optio yn ôl i mewn i'r cynllun ar unrhyw adeg, ar yr amod eich bod o dan oed 75 ar y pryd.
Fodd bynnag, bydd eich Cyflogwr yn gyfrifol am ddod â chi yn ôl i fewn i’r CPLlL o dan ofynion Cofrestru Awtomatig. Bydd gennych yr opsiwn i optio allan eto pryd hynny.
Efallai y byddwch yn dymuno cael Cyngor Ariannol Annibynol cyn i chi wneud y penderfyniad i adael y CPLlL.
Nodwch: NI ddylech gwblhau datganiad optio allan cyn cychwyn eich cyflogaeth.
Faint byddaf yn ei dalu?
Bydd graddfa eich cyfraniad yn dibynnu ar faint ydych yn cael eich talu, ond bydd rhwng 5.5% a 12.5% o’ch cyflog pensiynadwy. Bydd y raddfa y byddwch yn ei thalu yn dibynnu ar eich band cyflog.
Dyma’r Bandiau Cyfraniadau o 1 Ebrill 2025.
| Cyflog Pensiynadwy Blynyddol | Graddfa Cyfrannu |
|---|---|
| Hyd at £17,800 | 5.5% |
| £17,801 i £28,000 | 5.8% |
| £28,001 i £45,600 | 6.5% |
| £45,601 i £57,700 | 6.8% |
| £57,701 i £81,000 | 8.5% |
| £81,001 i £114,800 | 9.9% |
| £114,801 i £135,300 | 10.5% |
| £135,301 i £203,000 | 11.4% |
| Mwy na £203,001 | 12.5% |
Fel aelod o’r CPLlL, bydd eich cyfraniadau yn rhoi rhyddhad treth ar yr amser y byddant yn cael eu didynnu o’ch cyflog.
Mae cyfyngiadau ar y swm o ryddhad treth sydd ar gael ar gyfraniadau pensiwn. Os yw gwerth eich cynilion pensiwn yn cynyddu o fwy na’r lwfans blynyddol o £60,000 mewn unrhyw un flwyddyn, efallai bydd rhaid i chi dalu treth ychwanegol. Ni fydd y lwfans blynyddol yn effeithio’r mwyafrif o bobl.
Ydy fy Nghyflogwr yn cyfrannu?
Mae eich Cyflogwr yn talu gweddill y gost o ddarparu eich buddion yn y CPLlL.
Pob 3 blynedd fe ymgymerir ag arolwg annibynnol i gyfrifo faint y dylai eich Cyflogwr gyfrannu i’r Cynllun.
Nodwch yn y dyfodol, efallai y bydd angen i gynyddiadau neu ostyngiadau yn y gost o ddarparu’r cynllun gael eu rhannu rhwng aelodau a chyflogwyr, yn unol â chyfarwyddyd y Llywodraeth.
A allaf dalu mwy i gynyddu fy muddion?
Gallwch dalu ychwaneg o dan CPLlL i gynyddu eich buddion ymddeol.
Gallwch wneud hyn trwy unai dalu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY) i brynu pensiwn CPLlL ychwanegol, neu trwy wneud taliadau i drefniant Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) y cynllun.
Am ragor o wybodaeth ar yr opsiynau yma, cysylltwch â’r Adran Bensiynau.
A allaf dalu llai i mewn i’r CPLlL?
Cewch ddewis talu hanner eich cyfraniad arferol ac o ganlyniad cael hanner y pensiwn am y cyfnod hwn.
Fodd bynnag, byddwch yn cadw'r ddarpariaeth lawn o ran gwarchodaeth salwch a marwolaeth yn ystod y cyfnod hwn.
Os dymunwch ymuno â’r adran 50/50, bydd angen ichi ofyn am ffurflen ethol gan eich Cyflogwr. I ailymaelodi â'r Brif adran, bydd angen ichi lenwi ffurflen ethol arall.
A allaf drosglwyddo buddion pensiwn i’r CPLlL?
Gellir trosglwyddo buddion cronedig blaenorol yn y CPLlL neu drefniadau pensiwn eraill i mewn i’r CPLlL.
Rhaid dewis trosglwyddo cyn pen 12 mis i ymaelodi neu gyfnod hirach os bydd eich Cyflogwr yn caniatáu.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’ch Cyflogwr.
Ymddeoliad
Er mwyn fod yn gymwys i fuddion ymddeoliad y CPLlL, mae’n rhaid i chi fod yn aelod o’r cynllun am o leiaf 2 mlynedd neu wedi trosglwyddo hawliau pensiwn eraill i’r CPLlL, neu fod gennych fuddion gohiriedig yn y CPLlL yn Lloegr neu yng Nghymru.
Pryd gallaf ymddeol?
Gallwch ymddeol a derbyn buddion llawn y CPLlL unwaith y byddwch wedi cyrraedd eich Oedran Pensiwn Arferol (OPA), sy'n gysylltiedig ag Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (OPW) a all newid yn y dyfodol.
Fodd bynnag, mae’r Cynllun hefyd yn darparu ar gyfer taliadau cynnar o’ch buddion CPLlL.
Beth yw fy muddion ymddeol CPLlL?
Pan fyddwch yn ymddeol byddwch yn derbyn pensiwn blynyddol ac fe fydd gennych y dewis i gymryd rhan o’ch pensiwn fel lwmp swm yn rhydd o dreth.
Os ydych wedi ymuno â’r CPLlL cyn 1 Ebrill 2008, bydd eich pecyn buddion safonol yn cynnwys lwmp swm yn rhydd o dreth awtomatig, fel y disgrifir yn yr adran Y Buddion.
Alla i ymddeol yn gynnar?
Gallwch ddewis yn wirfoddol i ymddeol yn gynnar a derbyn eich buddion CPLlL ar unrhyw oed rhwng 55 a 75 mlwydd oed, ond efallai y bydd eich buddion yn cael eu lleihau yn actiwaraidd i gymryd i ystyriaeth eu bod yn cael eu talu'n gynnar cyn eich OPA.
A oes unrhyw gosbedigaethau am ymddeol yn gynnar a chymryd buddion yn syth?
Os ydych yn ymddeol yn wirfoddol cyn eich OPA, bydd eich buddion CPLlL yn cael eu lleihau i gymryd i ystyriaeth eu bod yn cael eu talu yn gynnar a’r ffaith y bydd eich pensiwn yn daladwy am gyfnod hwy.
Fodd bynnag, os ymunoch â’r CPLlL ar neu cyn 30 Medi 2006 mae’n bosib eich bod wedi cael eich gwarchod yn erbyn y gostyngiadau posibl ar ran neu’r cyfan o’ch buddion.
Os ydych yn ymddeol yn wirfoddol cyn eich OPA neu yn ymddeol ar neu ar ôl eich OPA, gallwch ohirio derbyn eich buddion, ond rhaid i chi eu derbyn cyn 75 mlwydd oed.
Os ydych yn derbyn eich pensiwn ar ôl eich OPA, bydd eich buddion yn cael eu talu ar raddfa uwch i adlewyrchu’r taliad hwyr.
Beth wnaiff ddigwydd os rwyf yn derbyn pensiwn CPLlL ac yn cael fy ail-gyflogi?
Os ydych yn cael eich ail-gyflogi o fewn Lywodraeth Leol neu gan Gyflogwr sydd yn cynnig aelodaeth o’r CPLlL, yna mae rhaid datgan wrth y Gronfa Bensiwn (ble derbynnir eich pensiwn), eich bod wedi dyfod yn ail-gyflogedig, difater os ydych eisiau ymuno â’r cynllun ai peidio.
Yn y sefyllfa yma, buasai gwiriad yn digwydd i weld os fyddai’r pensiwn yn gostwng neu hyd yn oed yn cael ei stopio.
Beth os yw fy Nghyflogwr yn fy ymddeol ar sail ddiswyddiad neu effeithlonrwydd busnes?
Os ydych yn 55 mlwydd oed neu’n hŷn, bydd gennych hawl i daliad o’ch buddion CPLlL yn syth, heb ostyngiad.
Beth fydd yn digwydd os bydd yn rhaid i mi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch?
Os bydd yn rhaid i chi adael gwaith ar unrhyw oedran oherwydd gwaeledd iechyd parhaol, sydd angen ei ardystio gan feddyg iechyd galwedigaethol annibynnol a benodir gan eich Cyflogwr, mae’r cynllun yn darparu pecyn ymddeol haenog ar sail gwaeledd.
Gallai hyn olygu y telir buddion i chi’n syth, ac os yw’n annhebygol y byddwch yn gallu ymgymryd â gwaith cyflogedig cyn pen 3 blynedd ar ôl i chi adael, mae’n bosibl y bydd y buddion hyn yn cynyddu.
Mae gwaith cyflogedig yn golygu gwaith cyflogedig am ddim llai na 30 awr yr wythnos am gyfnod o ddim llai na 12 mis.
Beth os ydwyf yn dymuno symud yn raddol i ymddeoliad?
Gelwir hyn yn ymddeoliad Hyblyg.
O 55 mlwydd oed ymlaen, os ydych yn cwtogi ar eich oriau neu’n ymgymryd â swydd â llai o gyfrifoldeb, ac os yw eich Cyflogwr yn cytuno, gallwch gymryd eich holl fuddion neu rai ohonynt. Bydd hyn yn eich cynorthwyo i ymddeol wrth eich pwysau.
Os ydych yn cymryd ymddeoliad hyblyg cyn eich OPA, gall eich buddion gael eu lleihau er mwyn cymryd i ystyriaeth y ffaith eu bod yn cael eu talu’n gynnar oni bai bod eich Cyflogwr yn cytuno i hepgor y gostyngiad yn gyfan neu’n rhannol.
Gallwch barhau i dalu i mewn i’r CPLlL ar eich oriau llai neu yn eich swydd newydd, gan adeiladu rhagor o fuddion yn y Cynllun.
Mae ymddeoliad Hyblyg yn dibynnu ar ddisgresiwn eich Cyflogwr a bydd yn rhaid iddynt drefnu eu polisi ynglŷn â hyn mewn datganiad cyhoeddedig.
Beth os wyf yn parhau i weithio ar ôl fy Oedran Pensiwn Arferol?
Os ydych yn parhau i weithio ar ôl eich OPA, byddwch yn parhau i dalu i mewn i’r cynllun, gan ychwanegu rhagor o fuddion.
Byddwn yn talu eich pensiwn ar ôl i chi ymddeol, neu pan fyddwch yn cyrraedd noswyl eich pen-blwydd yn 75, neu os ydych yn cymryd ymddeoliad hyblyg gyda chaniatâd eich Cyflogwr, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.
Os ydych yn cymryd eich pensiwn ar ôl eich OPA, bydd yn cael ei gynyddu i adlewyrchu'r ffaith y bydd yn cael ei dalu dros gyfnod llai.
Bydd yn rhaid talu eich pensiwn cyn eich penblwydd yn 75.
Y Buddion
Sut y caiff fy mhensiwn ei gyfrifo?
Pan fyddwch yn ymddeol, byddwch yn derbyn pensiwn sy’n cynyddu’n flynyddol yn unol â mynegai cysylltiedig, sy'n daladwy am eich oes, a dewis i gyfnewid rhan o'ch pensiwn (yn amodol ar gyfyngiadau CThEM) am lwmp swm di-dreth, sy’n daladwy i chi pan fyddwch yn tynnu eich buddion.
Bob blwyddyn, byddwch yn cronni pensiwn sy'n gyfwerth â 1/49fed o'r tâl pensiynadwy yr ydych wedi ei dderbyn yn y flwyddyn gynllun (o 1 Ebrill i 31 Mawrth).
Eich cyflog pensiynadwy yw’r elfen o dâl ble rydych yn talu cyfraniadau pensiwn arno.
Os ydych wedi dewis ymuno â'r adran 50/50 y cynllun, bydd y gyfradd y mae eich pensiwn yn adeiladu yn hanner y gyfradd yma, h.y. 1/98fed o'ch cyflog pensiynadwy.
Bydd y pensiwn yr ydych yn adeiladu i fyny o 1 Ebrill i 31 Mawrth wedyn yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif pensiwn ac yn cael ei hailbrisio yn unol â mynegai costau byw priodol bob mis Ebrill.
Mae'r enghraifft isod yn dangos sut y mae eich pensiwn yn cael ei gyfrifo.
Enghraifft
O 1 Ebrill hyd at 31 Mawrth (Blwyddyn Gynllun 1), mae cyflog pensiynadwy Sian wedi cael ei asesu fel £15,000.
Mae’r pensiwn sydd wedi cael ei ychwanegu at ei chyfrif mewn perthynas â’r flwyddyn yma wedi ei gyfrifo fel a ganlyn:
1/49 × £15,000 = £306.12
Wedi ychwanegu £306.12 i gyfrif pensiwn Sian, mae yna yn cael ei adbrisio i gymryd ystyriaeth cynyddiad chwyddiant tybiedig o 2%:
£306.12 + 2% = £312.24
Yn Flwyddyn Gynllun 2, aseswyd cyflog pensiynadwy Sian fel £15,150:
1/49 × £15,150 = £309.18
Mae £309.18 yn cael ei ychwanegu i’w chyfrif pensiwn:
£312.24 + £309.18 = £621.42
Bydd ei chyfrif wedyn yn cael ei adbrisio i gymryd i ystyriaeth cynyddiad chwyddiant tybiedig o 2.5%.
Gwerth ei chyfrif pensiwn ar ôl Blwyddyn Gynllun 2 fydd £636.96.
Fodd bynnag, os yw Sian yn ethol i gyfrannu i'r adran 50/50 y cynllun ar gyfer y cyfan o’r flwyddyn gyntaf, bydd ei phensiwn yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:
1/98 × £15,000 = £153.06
+ 2% cynyddiad chwyddiant tybiedig = £156.12
Nodwch y gwahaniaeth mewn adeiladaeth pensiwn Sian wrth gyfrannu yn yr Adran 50/50 o’r Cynllun:
£312.24 − £156.12 = £156.12
Cyfnewid rhan o fy mhensiwn i dderbyn lwmp swm di-dreth
O dan reoliadau CThEM, gallwch gyfnewid rhan o’ch pensiwn blynyddol am daliad unigol rhydd o dreth.
Gallwch gymryd hyd at 25% o werth cyfalaf eich buddion pensiwn fel lwmp swm ac fe fyddwch yn derbyn £12 lwmp swm ar gyfer pob £1 o bensiwn a roddir i fyny, ar yr amod nad yw’r lwmp swm cyfan yn fwy na £268,275 llai gwerth unrhyw hawliau pensiwn arall sydd gennych.
A allaf gymryd fy nghynllun Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) mewnol fel arian parod?
Os ydych yn talu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (CGY) trwy’r CPLlL, bydd gennych opsiynau amrywiol ynghylch ei dalu.
I gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau hyn, cysylltwch â’r Adran Bensiynau.
Beth os wyf wedi ymuno â'r CPLlL cyn 1 Ebrill 2014?
Newidiodd y CPLlL o fod yn gynllun cyflog terfynol i Gynllun Cyfartaledd Gyrfa Wedi’i Adbrisio ar 1 Ebrill 2014.
Fodd bynnag, os ydych wedi ymuno â'r cynllun ar neu cyn 31 Mawrth 2014, byddwch hefyd wedi adeiladu i fyny buddion yn y cynllun cyflog terfynol, a fydd yn parhau i fod yn seiliedig ar eich cyflog terfynol pan fyddwch yn gadael y cynllun neu'n dewis ymddeol.
Ar gyfer aelodaeth a adeiladwyd hyd at 31 Mawrth 2008, byddwch yn derbyn pensiwn sy'n gyfartal i 1/80fed o'ch cyflog terfynol, yn ogystal â lwmp swm di-dreth awtomatig o dair gwaith gwerth y pensiwn hwn.
Mae'r cyfrifiad hwn hefyd yn seiliedig ar eich aelodaeth o'r cynllun, sy'n cael ei gymesur os ydych yn gweithio'n rhan amser.
Ar gyfer aelodaeth a adeiladwyd i fyny rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014, byddwch yn derbyn pensiwn sy'n gyfartal i 1/60fed o'ch cyflog terfynol, ond heb hawl i lwmp swm di-dreth awtomatig.
Fodd bynnag, byddwch yn cael y dewis i gyfnewid rhan o'ch pensiwn am lwmp swm di-dreth pan fyddwch yn ymddeol.
Wrth ei ychwanegu at eich buddion Cyfartaledd Gyrfa, bydd hyn wedyn yn rhoi cyfanswm gwerth eich buddion CPLlL i chi.
Mae'r enghraifft isod yn dangos sut y bydd eich buddion cyflog terfynol yn cael eu cyfrifo.
Enghraifft
Mae gan Sian 10 mlynedd o aelodaeth yn y cynllun hyd at 31 Mawrth 2008 a 6 mlynedd o aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014.
Mae hi wastad wedi gweithio’n llawn amser ac mae ei chyflog terfynol wedi cael ei gyfrifo fel £15,000.
Mae ei buddion cyflog terfynol yn cael eu cyfrifo fel a ganlyn:
Aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2008
10 mlynedd × 1/80 × £15,000 = £1,875
Pensiwn Blynyddol
10 mlynedd × 3/80 × £15,000 = £5,625
Lwmp Swm Di-dreth Awtomatig
Aelodaeth o 1 Ebrill 2008 hyd at 31 Mawrth 2014
6 mlynedd × 1/60 × £15,000 = £1,500
Pensiwn Blynyddol
Dim hawl i Lwmp Swm Di-dreth Awtomatig.
Cyfanswm gwerth buddion Cyflog Terfynol
£1,875 + £1,500 = £3,375
Pensiwn Blynyddol
£5,625
Lwmp Swm Di-dreth Awtomatig
Pa gyflog fydd yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo fy muddion cyflog terfynol?
Fel arfer, fe gyfrifir eich buddion ar gyflog pensiynadwy eich blwyddyn olaf.
Os ydych yn rhan amser, fe gynyddir eich cyflog olaf i’r hyn a fuasech wedi ei dderbyn pe buasech yn llawn amser.
Fodd bynnag, gellir cyfrifo eich buddion ar gyflog un o’r ddwy flynedd flaenorol os yw hynny’n fwy ffafriol.
Os yw eich cyflog yn gostwng, neu os yw’r cynnydd i’ch cyflog wedi ei gyfyngu yn eich 10 mlynedd diwethaf o wasanaeth di-dôr gyda’ch Cyflogwr, yna mae’n bosibl i chi gael yr opsiwn i dderbyn eich buddion yn seiliedig ar gyfartaledd o unrhyw 3 blynedd olynol yn y 13 mlynedd ddiwethaf (yn diweddu ar 31 Mawrth).
Rhaid i chi nodi eich dymuniad i wneud hynny yn ysgrifenedig i’ch Adran Bensiynau ddim hwyrach na mis cyn gadael.
A fydd fy mhensiwn yn cynyddu yn ystod fy ymddeoliad?
Mae’r CPLlL yn darparu cynyddiadau pensiwn statudol.
Mae hyn yn golygu os ydych yn ymddeol ar neu ar ôl i chi gyrraedd 55 mlwydd oed, y bydd eich pensiwn yn cael ei gynyddu'n flynyddol yn unol â’r mynegai costau byw priodol.
Cynyddir pensiynau gwaeledd iechyd yn flynyddol yn unol â’r mynegai costau byw priodol waeth beth fo’ch oedran.
Diogelwch ar gyfer fy nheulu
Pa fuddion a delir ar fy marwolaeth?
Os ydych yn marw tra mewn gwaith, fel aelod o’r CPLlL telir y buddion a ddangosir isod.
- Lwmp swm grant marwolaeth o gyflog 3 blynedd neu gyflog rhan-amser o 3 flynedd os ydych yn gweithio’n rhan-amser.Os ydych wedi gostwng eich oriau o ganlyniad cyflwr neu salwch, sydd wedyn, ym marn meddyg iechyd galwedigaethol annibynnol, yn arwain at eich marwolaeth, yna bydd y gostyngiad yn eich oriau yn cael ei ddiystyru wrth gyfrifo’r cyflog i’w ddefnyddio ar gyfer lwmp swm grant marwolaeth ac wrth gyfrifo’r pensiwn goroeswr sy’n daladwy i’ch priod, partner sifil cofrestredig neu bartner cyd-fyw cymwys.
- Pensiwn goroeswr yn daladwy yn awtomatig i naill ai eich priod, partner sifil cofrestredig neu, yn ddarostyngedig i amodau cymhwyso penodol, eich partner sy'n cyd-fyw cymwys.Mae'r pensiwn yn daladwy yn syth ar ôl i chi farw am eu hoes a bydd yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â mynegai costau byw priodol.Ar gyfer aelodaeth a adeiladwyd i fyny o 1 Ebrill 2014 hyd at eich dyddiad marwolaeth, mae’r pensiwn sy'n daladwy yn hafal i:
- 1/160ain o'ch cyflog pensiynadwy wedi ei luosi gydag eich aelodaeth yn y cynllun ar ôl 31 Mawrth 2014;
- 49/160ain o swm unrhyw bensiwn sydd wedi ei gredydu i'ch cyfrif pensiwn yn dilyn trosglwyddo hawliau pensiwn; ac
- 1/160ain o'ch cyflog pensiynadwy tybiedig ar gyfer pob blwyddyn o aelodaeth y byddech wedi adeiladu i fyny o ddyddiad eich marwolaeth hyd at eich Oedran Pensiwn Arferol (OPA).
- Pensiynau i blant cymwysedig.
Os byddwch yn marw ar ôl ymddeol, bydd pensiwn goroeswr yn daladwy yn awtomatig i'ch priod, partner sifil cofrestredig neu, yn ddarostyngedig i amodau cymhwyso penodol, eich partner sy'n cyd-fyw cymwys ac unrhyw blant cymwys sydd gennych.
Mae grant marwolaeth yn daladwy os yw llai na 10 mlynedd o bensiwn wedi ei dalu ac eich bod o dan 75 mlwydd oed ar ddyddiad marwolaeth. Yn yr achos hwn, telir gweddill 10 mlynedd o bensiwn fel lwmp swm.
Mae’r CPLlL hefyd yn caniatáu i chi ddweud pwy y buasech yn hoffi ei dderbyn y grant marwolaeth drwy gwblhau ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth, sydd ar gael ar wefan y Gronfa Bensiwn.
Fodd bynnag, mae awdurdod gweinyddu’r Cynllun yn cadw disgresiwn llwyr wrth benderfynu pwy i dalu’r grant marwolaeth iddynt.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd eich Partner sy'n Cyd-fyw, neu ar gyfrifo pensiynau Plant, cysylltwch â'r Adran Bensiynau.
Rhai sy’n gadael heb hawl di-oed i fuddion
Ad-dalu Cyfraniadau
Os ydych yn gadael gyda llai na 2 flynedd o aelodaeth, heb ddod â throsglwyddiad i’r CPLlL a heb unrhyw fuddion gohiriedig CPLlL arall yng Nghymru neu Loegr, gallwch gymryd ad-daliad o’ch cyfraniadau, llai unrhyw gostyngiadau treth (a’r gost o’ch prynu yn ôl i'r Ail Gynllun Pensiwn Gwladwriaethol (S2P), os yn berthnasol).
Buddion gohiriedig
Os ydych yn gadael cyn eich Oedran Pensiwn Arferol (OPA) a bod cyfanswm eich aelodaeth yn 2 flynedd neu fwy, neu os ydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn eraill i’r CPLlL, neu os oes gennych fudd gohiriedig yn y CPLlL yng Nghymru neu Loegr, bydd gennych hawl i fuddion gohiriedig oddi mewn i’r CPLlL.
Fe gyfrifir eich buddion gohiriedig CPLlL fel y disgrifir yn adran y buddion.
Yn ystod y cyfnod mae’r buddion wedi eu gohirio, bydd eich buddion yn cynyddu’n flynyddol yn unol â mynegai costau byw priodol.
Oni bai eich bod yn penderfynu trosglwyddo eich buddion gohiriedig i gynllun pensiwn arall, fe fyddant fel rheol yn cael eu talu pan fyddwch yn cyrraedd eich OPA, ond:
- Gallant ddod yn daladwy yn gynt, ac yn gyflawn os oherwydd salwch yr ydych yn barhaol analluog o wneud y swydd yr oeddech yn gweithio ynddi pan adawsoch y CPLlL a’i fod yn annhebygol, oherwydd eich analluogrwydd, y cewch unrhyw gyflogaeth gyflogedig o fewn tair blynedd o wneud cais am y buddion neu erbyn eich OPA, pa un bynnag yw’r cynharaf.
- Gallwch, os ydych yn dymuno, ddewis derbyn eich buddion gohiriedig yn gynnar o 55 mlwydd oed ymlaen.
- Os dymunir, mae’n bosibl i chi ethol i beidio â derbyn eich buddion gohiriedig ar eich OPA a gohirio eu derbyn nes amser yn y dyfodol, ond rhaid talu’r buddion gohiriedig erbyn i chi gyrraedd 75 mlwydd oed.
Gall buddion a delir yn gynnar, heb gynnwys buddion a delir ar sail gwaeledd iechyd parhaol, gael eu gostwng i gymryd i ystyriaeth eu bod wedi eu talu'n gynnar a’r ffaith y byddech yn derbyn y pensiwn am gyfnod hwy.
I’r gwrthwyneb, bydd buddion a delir ar ôl eich OPA yn cael eu cynyddu.
Os byddwch yn marw cyn bod eich buddion gohiriedig yn cael eu talu, telir lwmp swm grant marwolaeth a fydd yn cyfateb i 5 mlynedd o bensiwn.
Mae’r CPLlL yn eich galluogi i ddweud pwy hoffech gael unrhyw grant marwolaeth drwy gwblhau ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth, sydd ar gael ar wefan y Gronfa Bensiwn.
Fodd bynnag, mae awdurdod gweinyddu’r Cynllun yn cadw disgresiwn llwyr wrth benderfynu pwy y telir grant marwolaeth iddo.
Mae pensiwn goroeswr yn daladwy yn awtomatig i weddw, gŵr gweddw, partner sifil cofrestredig neu, yn ddarostyngedig i amodau cymhwyso penodol, eich partner sy'n cyd-fyw cymwys.
Mae'r pensiwn yn daladwy yn syth ar ôl i chi farw am eu hoes a bydd yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â mynegai costau byw priodol.
Efallai y bydd pensiwn hefyd yn daladwy i unrhyw blant cymwys sydd gennych, ar yr amod bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni.
Ar gyfer aelodaeth a adeiladwyd i fyny o 1 Ebrill 2014, mae’r pensiwn sy'n daladwy yn hafal i:
- 1/160ain o'ch cyflog a ddefnyddiwyd i gyfrifo eich buddion gohiriedig wedi ei luosi gydag eich aelodaeth yn y cynllun ar ôl 31 Mawrth 2014; a
- 49/160ain o swm unrhyw bensiwn sydd wedi ei gredydu i'ch cyfrif pensiwn yn dilyn trosglwyddo hawliau pensiwn.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas â chymhwysedd eich Partner sy'n Cyd-fyw, neu ar gyfrifo pensiynau Plant, cysylltwch â'r Adran Bensiynau.
A allaf drosglwyddo fy muddion i rywle arall?
Os byddwch yn gadael y cynllun a bod gennych hawl i fuddion gohiriedig neu ad-daliad, fel arfer gallwch drosglwyddo'r swm o arian sy'n cyfateb i'ch buddion pensiwn i drefniant pensiwn arall neu i gynllun pensiwn cyflogwr newydd.
Gallai hyn hyd yn oed fod yn gynllun pensiwn tramor neu'n drefniant sy'n bodloni amodau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM).
Ni allwch drosglwyddo eich buddion os byddwch yn gadael â llai na thri mis o aelodaeth neu, ac eithrio mewn perthynas â Chyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY), os bydd llai na blwyddyn cyn eich Oedran Pensiwn Arferol.
Mae'n rhaid dewis trosglwyddo, ac eithrio mewn perthynas â CGY, o leiaf 12 mis cyn eich Oedran Pensiwn Arferol.
Bydd angen dyfynbris o’r gwerth a drosglwyddir ar eich darparwr pensiwn newydd a fydd yn cael ei warantu gan eich cronfa bensiwn, o dan ddarpariaethau Deddf Pensiynau 1995, am gyfnod o dri mis o'r dyddiad y cafodd ei gyfrifo.
A gaf i drosglwyddo fy muddion i rywle arall?
Os ydych yn dychwelyd i'r gwaith gyda chyflogwr sy'n cymryd rhan yn y CPLlL ac yn ailymuno â'r CPLlL ar ôl cronni hawliau pensiwn CPLlL yn flaenorol, hynny yw, roeddech wedi gadael cyflogaeth CPLlL yn flaenorol â buddion gohiriedig, yna bydd y buddion gohiriedig hyn fel arfer yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig i'r cyfrif pensiwn gweithredol ar gyfer eich swydd newydd, oni bai y byddwch yn dewis eu cadw ar wahân.
Yn achos buddion sydd fel arfer yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig, os ydych yn dymuno cadw eich buddion gohiriedig ar wahân mae'n rhaid i chi ddewis gwneud hynny o fewn 12 mis o ailymuno â'r CPLlL, oni bai bod eich cyflogwr yn caniatáu mwy o amser.
Os ydych yn ailymuno â'r CPLlL ar ôl gadael cyflogaeth CPLlL yn flaenorol heb gronni hawliau pensiwn ond eich bod wedi gohirio cymryd ad-daliad o gyfraniadau, fel arfer lle mae gennych lai na dwy flynedd o aelodaeth, yna bydd yn rhaid i'r ad-daliad gohiriedig hwn gael ei gyfuno â'ch cyfrif pensiwn gweithredol newydd yn y cynllun.
Trosglwyddo fy muddion i gynllun cyfraniadau diffiniedig
Cyflwynwyd buddion hyblyg gan y Llywodraeth ar 6 Ebrill 2015 i ganiatáu mwy o ryddid i aelodau cynlluniau cyfraniadau diffiniedig sydd dros 55 oed mewn perthynas â sut y maent yn tynnu arian o'u pot pensiwn.
Nid yw'r CPLlL yn gynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig, mae'n gynllun buddion diffiniedig, ac felly nid yw'r newidiadau hyn yn effeithio'n uniongyrchol arno.
Fodd bynnag, os byddwch yn rhoi'r gorau i gyfrannu at y CPLlL a bod gennych dri mis neu ragor o aelodaeth, yna oni bai eich bod yn ymddeol ar unwaith yn sgil dileu swydd, effeithlonrwydd busnes neu salwch, bydd gennych yr hawl i drosglwyddo eich pensiwn CPLlL i gynllun cyfraniadau diffiniedig sy'n darparu buddion hyblyg.
Nodwch y bydd yn ofynnol ichi, dan y gyfraith, gael cyngor ariannol annibynnol os yw gwerth eich buddion pensiwn yn y CPLlL (ac eithrio CGY) yn fwy na £30,000.
Ni fydd yn ofynnol ichi gael cyngor ariannol annibynnol os yw gwerth eich buddion yn llai na £30,000.
Fodd bynnag, nid yw trosglwyddo eich hawliau pensiwn bob amser yn benderfyniad hawdd ei wneud a gallai ceisio cymorth gan ymgynghorydd ariannol annibynnol eich helpu i wneud penderfyniad priodol.
Mae pedwar prif opsiwn ar gyfer aelodau 55 oed a hŷn sy'n rhan o gynllun cyfraniadau diffiniedig sy'n darparu buddion hyblyg:
- Prynu blwydd-dal.
- Tynnu i lawr yn hyblyg.
- Cymryd nifer o symiau arian parod ar wahanol adegau.
- Cymryd eich cronfa bensiwn gyfan fel arian ar yr un pryd.
Os ydych yn aelod â Chredyd Pensiwn gohiriedig, mae'r CPLlL yn caniatáu i'ch hawliau wedi'u diogelu gael eu trosglwyddo, ar yr amod eich bod yn dewis y Gwerth Trosglwyddo sy'n Cyfateb i Arian Parod o leiaf 12 mis cyn eich Oedran Pensiwn Arferol ac nad ydych eisoes yn derbyn pensiwn gan Gredyd Pensiwn arall yn y cynllun.
Beth yw'r opsiynau mewn perthynas â'm cynllun Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) mewnol?
Ni allwch ddewis tynnu pensiwn i lawr o'ch CGY fel un o opsiynau'r cynllun. Gallwch dynnu pensiwn i lawr o'ch CGY dim ond os byddwch yn trosglwyddo eich cynllun CGY i gynllun sy'n caniatáu tynnu i lawr.
Nid oes unrhyw opsiwn yn y CPLlL ichi gymryd cyfandaliad cronfeydd pensiwn heb eu crisialu (UFPLS) o'ch CGY. Gallwch ddefnyddio'r opsiwn UFPLS dim ond drwy drosglwyddo eich cynllun CGY i gynllun sy'n caniatáu UFPLS.
Gallwch ddefnyddio eich CGY i:
- Brynu un neu ragor o flwydd-daliadau.
- Gymryd cyfandaliad cychwyn pensiwn.
- Brynu aelodaeth ychwanegol yn y CPLlL mewn rhai amgylchiadau.
- Brynu pensiwn CPLlL atodol mewn rhai amgylchiadau.
I gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau hyn, cysylltwch â'r Adain Bensiynau.
Mae'r CPLlL yn caniatáu trosglwyddo hawliau cronedig o ran CGY ar yr amod eich bod wedi rhoi'r gorau i dalu CGY ac na fu digwyddiad crisialu mewn perthynas â buddion CGY CPLlL yn y gronfa honno neu mewn unrhyw gronfa CPLlL arall yng Nghymru a Lloegr.
Nodwch fod digwyddiad crisialu, at y diben hwn, yn golygu talu pensiwn neu flwydd-dal sy'n deillio o CGY.
Hefyd, os oes gennych fwy nag un cynllun CGY, mae'n rhaid i chi eu trosglwyddo i gyd, hyd yn oed os yw'r cynlluniau CGY hynny mewn cronfeydd CPLlL gwahanol.
Nid yw'r CPLlL ei hun yn gosod unrhyw gost ar aelod sy'n arfer hawl i drosglwyddo, ond efallai y bydd y darparwr CGY yn addasu gwerth y gronfa CGY.
Cymorth gyda Phroblemau Pensiwn
Pwy all fy helpu os oes gennyf gwestiwn neu gŵyn?
Os oes gennych unrhyw amheuaeth am eich hawliau budd, neu os oes gennych broblem neu gwestiwn am eich aelodaeth CPLlL neu fuddion, cysylltwch â’ch Adran Bensiynau yn y cyfeiriad a ddangosir ar ddiwedd y canllaw byr hwn.
Byddant yn ceisio egluro neu gywiro unrhyw gamddealltwriaeth neu anghywirdeb mor fuan ac effeithlon â phosibl.
Os yw’r ymholiad ynghylch eich cyfradd cyfrannu, cysylltwch ag Adran Adnoddau Dynol neu Adran Gyflogau eich Cyflogwr.
Byddant yn gallu egluro sut mae eich cyfradd cyfrannu wedi ei chyfrifo.
Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon ag unrhyw benderfyniad a wneir mewn perthynas â’r Cynllun, mae gennych yr hawl i ofyn i’ch cwyn gael ei hadolygu’n annibynnol dan y Weithdrefn Datrys Anghydfod Mewnol.
Gan fod y cynllun wedi ei reoleiddio’n dda, mae nifer o gyrff rheoli eraill hefyd a all eich helpu.
Gweithdrefn Datrys Anghydfod Mewnol
Yn y lle cyntaf, dylech ysgrifennu at berson a enwebir gan y corff a wnaeth y penderfyniad yr ydych yn dymuno apelio yn ei erbyn.
Rhaid i chi wneud hyn o fewn 6 mis i ddyddiad hysbysiad y penderfyniad, gweithred neu esgeulustod yr ydych yn dymuno cwyno yn ei erbyn, neu o fewn cyfnod hirach os yw’r person enwebedig yn caniatáu hynny.
Bydd y person a enwebir yn ystyried eich cwyn ac yn eich hysbysu o'i benderfyniad.
Os nad ydych yn fodlon â'r penderfyniad hwnnw, neu os na wneir penderfyniad, gallwch wneud cais i awdurdod gweinyddu'r Cynllun er mwyn cael yr achos ei ailystyried.
Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS)
Os oes gennych geisiadau cyffredinol am wybodaeth neu arweiniad ynglŷn â’ch trefniadau pensiwn, cysylltwch â:
Cyfeiriad:
Money and Pensions Service
120 Holborn
London
EC1N 2TD
Ffôn:
0800 011 3797
Gwefan:
https://www.moneyhelper.org.uk/cyHelpwrArian
Ombwdsman Pensiynau
Mae gennych yr hawl i gyfeirio'ch cwyn at Yr Ombwdsman Pensiynau yn rhad ac am ddim.
Mae'r Ombwdsman Pensiynau yn ymdrin â chwynion ac anghydfodau sy'n ymwneud â gweinyddu a/neu reoli cynlluniau pensiwn galwedigaethol a phersonol.
Rhaid cysylltu â'r Ombwdsman Pensiynau o fewn tair blynedd i’r digwyddiad yr ydych yn cwyno amdano neu, os yn ddiweddarach, o fewn tair blynedd o’r adeg y daethoch yn ymwybodol o’r digwyddiad am y tro cyntaf, neu y dylech fod wedi dod yn ymwybodol ohono.
Mae disgresiwn i ymestyn y terfynau amser hyn mewn rhai amgylchiadau.
Manylion cyswllt Yr Ombwdsman Pensiynau:
Cyfeiriad:
10 South Colonnade
Canary Wharf
London
E14 4PU
Ffôn:
0800 917 4487
E-bost:
enquiries@pensions-ombudsman.org.uk
Gwefan:
www.pensions-ombudsman.org.uk/cymraeg/
Y Rheolydd Pensiynau (TPR)
Dyma reoleiddiwr cynlluniau pensiwn gwaith.
Mae gan y Rheolydd Pensiynau bwerau i ddiogelu aelodau cynlluniau pensiwn gwaith ac ystod eang o bwerau i gynorthwyo i ddatrys materion pan fo angen.
Mewn achosion eithafol, gall y Rheolydd ddirwyo ymddiriedolwyr neu gyflogwyr a diswyddo ymddiriedolwyr o gynllun.
Manylion cyswllt Y Rheolydd Pensiynau:
Cyfeiriad:
Napier House
Trafalgar Place
Brighton
BN1 4DW
Ffôn:
0345 6000 707
Gwefan:
www.thepensionsregulator.gov.uk/cy
Sut y gallaf olrhain fy hawliau pensiwn?
Mae Gwasanaeth Olrhain Pensiynau yn cynnwys manylion cynlluniau pensiwn, gan gynnwys y CPLlL, ynghyd â chyfeiriadau cyswllt perthnasol.
Mae’n darparu gwasanaeth olrhain ar gyfer cyn-aelodau cynlluniau gyda hawliau pensiwn, a’u dibynyddion, sydd wedi colli cysylltiad â’u cynlluniau blaenorol.
Mae’n rhaid i bob cynllun galwedigaethol a phersonol gofrestru os oes gan y cynllun aelodau presennol sy’n cyfrannu at eu cynlluniau neu bobl sy’n disgwyl cael budd o’r cynllun.
Os ydych angen defnyddio'r gwasanaeth olrhain, cysylltwch â:
Cyfeiriad:
The Pension Service 9
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LU
Ffôn:
0800 731 0193
Gwefan:
www.gov.uk/find-pension-contact-details
Hefyd, peidiwch ag anghofio rhoi gwybod i’ch darparwyr pensiwn am unrhyw newid yn eich cyfeiriad cartref.
Gwybodaeth Bellach ac Ymwadiad
Nodiadau Pwysig
Mae’r canllaw hwn ar gyfer aelodau yng Nghymru a Lloegr ac mae’n adlewyrchu darpariaethau’r CPLlL a’r ddeddfwriaeth berthnasol ar adeg ei gyhoeddi, sef 1 Ebrill 2024.
Gall y Llywodraeth newid y ddeddfwriaeth berthnasol ac, yn dilyn ymgynghori â budd-ddeiliaid, gall wneud newidiadau i’r CPLlL yn y dyfodol.
Ni all y canllaw byr hwn gynnwys pob amgylchiad personol.
Er enghraifft, nid yw’n cynnwys buddion ymddeoliad salwch sydd heb eu cynyddu.
Yn ogystal, nid yw’n cynnwys yr hawliau sy’n berthnasol i nifer gyfyngedig o aelodau, megis:
- Y rhai hynny lle mae cyfanswm eu buddion pensiwn yn fwy na’r Lwfans Am Oes.
- Y rhai hynny lle mae eu buddion pensiwn yn cynyddu mwy na’r Lwfans Blynyddol (£60,000 o Ebrill 2023) mewn unrhyw flwyddyn dreth.
- Y rhai hynny sy’n destun tâl treth lwfans blynyddol arbennig.
- Y rhai hynny lle mae hawliau gwarchodedig yn berthnasol.
- Y rhai hynny sydd yn ddarostyngedig i Orchymyn Rhannu Pensiwn yn dilyn ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil.
Nodwch, os yw eich buddion pensiwn yn ddarostyngedig i Orchymyn Rhannu Pensiwn a gyhoeddwyd gan y Llys yn dilyn ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifil, bydd eich buddion yn cael eu lleihau yn unol â’r Gorchymyn Llys neu’r cytundeb perthnasol.
Os bydd unrhyw anghydfod ynglŷn â’ch buddion pensiwn, y ddeddfwriaeth berthnasol fydd yn drech.
Nid yw’r canllaw byr hwn yn rhoi unrhyw hawliau contractiol na statudol ac fe’i darperir at ddibenion gwybodaeth yn unig.
Preifatrwydd a Diogelu Data
Cyngor Gwynedd yw gweinyddwr Cronfa Bensiwn Gwynedd ac mae’n defnyddio eich data personol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data er mwyn darparu gwasanaethau gweinyddu pensiwn i chi.
Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich data, gyda phwy rydym yn ei rannu, a pha hawliau sydd gennych mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol, ewch i’r Hysbysiad Preifatrwydd ar wefan y Gronfa Bensiwn:
www.cronfabensiwngwynedd.cymru
Rhagor o Wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth am y CPLlL ar gael ar wefan Cronfa Bensiwn Gwynedd:
www.cronfabensiwngwynedd.cymru
Fel arall, gallwch anfon e-bost at y Gronfa:

