Os ydych yn marw
Efallai y bydd buddion marwolaeth yn daladwy i'ch teulu neu ddibynyddion os byddwch yn marw.
✓ Gall buddion gynnwys pensiwn goroeswr, pensiwn plant a lwmp swm mewn rhai amgylchiadau.
✓ Dylech gadw eich manylion enwebiad a'ch manylion cyswllt yn gyfredol.
✓ Dylid rhoi gwybod i'r Adran Bensiynau am farwolaeth cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi gordaliadau ac i ganiatáu i fuddion gael eu cyfrifo.
Dywedwch Wrthym Unwaith
Yn y rhan fwyaf o achosion, os defnyddir gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, bydd yr wybodaeth berthnasol yn cael ei darparu i ni'n awtomatig.
Lwmp Swm Grant Marwolaeth
Gall grant marwolaeth fod yn daladwy ar eich marwolaeth, yn dibynnu ar pryd y gwnaethoch adael y CPLlL a pha mor hir rydych wedi bod yn derbyn eich pensiwn.
Dewiswch y cyfnod perthnasol isod i weld sut mae'r grant marwolaeth yn cael ei gyfrifo.
Os wedi gadael cyn 01/04/2008
Os oeddech wedi bod yn derbyn pensiwn am lai na 5 mlynedd ar ddyddiad eich marwolaeth, ar yr amod eich bod o dan 75 oed, bydd grant marwolaeth yn daladwy yn gyfystyr â 5 gwaith eich pensiwn blynyddol, llai’r cyfanswm pensiwn a dalwyd yn barod.
Gennym ni fydd y disgresiwn terfynol o ran pwy fydd yn derbyn y lwmp swm, ond byddwn yn ystyried eich dymuniadau chi bob amser.
Pe nad oes derbynnydd wedi’i enwebu, telir y lwmp swm grant marwolaeth i’ch ystâd neu i’ch priod hysbys.
Os nad oes priod / partner sifil, bydd angen profi’r ewyllys neu lythyrau gweinyddu cyn y gellir talu’r grant marwolaeth.
Os wedi gadael rhwng 01/04/2008 a 31 Mawrth 2014
Os oeddech wedi bod yn derbyn pensiwn am lai na 10 mlynedd ar ddyddiad eich marwolaeth, ar yr amod eich bod o dan 75 oed, bydd grant marwolaeth yn daladwy sydd gyfystyr â 10 gwaith eich pensiwn blynyddol, llai’r cyfanswm pensiwn a dalwyd yn barod.
Gennym ni fydd y disgresiwn terfynol o ran pwy fydd yn derbyn y lwmp swm, ond byddwn yn ystyried eich dymuniadau chi bob amser.
Pe nad oes derbynnydd wedi’i enwebu, telir y lwmp swm grant marwolaeth i’ch ystâd neu i’ch priod hysbys, partner sifil, neu bartner enwebedig sy’n cyd-fyw â chi.
Os nad oes priod / partner sifil, bydd angen profi’r ewyllys neu lythyrau gweinyddu cyn y gellir talu’r grant marwolaeth.
Os gwnaethoch adael ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014
Bydd y grant marwolaeth sy’n daladwy yn hafal i ddeg gwaith gwerth eich pensiwn blynyddol llai'r pensiwn sydd eisoes wedi’i dalu i chi ac unrhyw lwmp swm a gymerir drwy ildio rywfaint o’ch pensiwn CARE ar yr amod eich bod o dan 75 oed ar ddyddiad eich marwolaeth.
Os ydych hefyd yn aelod gweithredol pan fyddech yn marw, y grant marwolaeth sy’n daladwy yw’r uchaf o:
- Y swm a gyfrifir fel uchod; neu
- Tair gwaith eich Tal Pensiynadwy Tybiedig yn eich cyflogaeth weithredol.
Os byddwch yn marw ar neu ar ôl 75 oed, ni ellir talu lwmp swm.
Pensiwn Goroeswr
Efallai y bydd pensiwn tymor hir yn daladwy i briod, partner sifil neu bartner cymwys sy'n cyd-fyw wedi eich marwolaeth.
Mae'r rheolau a'r cyfrifiadau'n dibynnu ar ba bryd y gwnaethoch adael y CPLlL.
Os wedi gadael cyn 01/04/2008
Pensiwn gwraig weddw
Wedi’ch marwolaeth, bydd eich gwraig weddw’n derbyn pensiwn byrdymor sydd gyfystyr â’r pensiwn yr oeddech yn ei dderbyn cyn eich marwolaeth, am gyfnod o 3 mis, neu am 6 mis os oes plentyn cymwys yng ngofal eich gweddw.
Unwaith y daw’r pensiwn byrdymor i ben, bydd pensiwn gwraig weddw hirdymor yn daladwy. Bydd pensiwn gwraig weddw gyfwerth ag 1 / 160ain o’ch tâl terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael.
Os priodoch ar ôl i chi orffen eich aelodaeth weithredol, dim ond eich aelodaeth ar ôl 5 Ebrill 1978 fydd yn cael ei ddefnyddio.
Pensiwn gŵr gweddw
Wedi’ch marwolaeth, bydd eich gŵr gweddw’n derbyn pensiwn byrdymor sydd gyfystyr â’r pensiwn yr oeddech yn ei dderbyn cyn eich marwolaeth, am gyfnod o 3 mis, neu am 6 mis os oes plentyn cymwys yng ngofal eich gweddw.
Unwaith y daw’r pensiwn byrdymor i ben, bydd pensiwn gŵr gweddw hirdymor yn daladwy. Bydd pensiwn gŵr gweddw cyfwerth ag 1 / 160ain o’ch tâl terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael.
Os priodoch ar ôl i chi orffen eich aelodaeth weithredol, dim ond eich aelodaeth ar ôl 5 Ebrill 1978 fydd yn cael ei ddefnyddio.
Pensiwn partner sifil
Wedi’ch marwolaeth, bydd eich Partner Sifil yn derbyn pensiwn byrdymor sydd gyfystyr â’r pensiwn yr oeddech yn ei dderbyn cyn eich marwolaeth, am gyfnod o 3 mis, neu am 6 mis os oes plentyn cymwys yng ngofal eich partner.
Unwaith y daw’r pensiwn byrdymor i ben, bydd pensiwn Partner Sifil hirdymor yn daladwy. Bydd hwn gyfwerth ag 1 / 160ain o’ch tâl terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth rhwng 6 Ebrill 1988 a’r dyddiad gadael aelodaeth weithredol.
Os wedi gadael ar ôl 01/04/2008
Pensiwn gwraig weddw
Wedi’ch marwolaeth, bydd eich gwraig weddw’n derbyn pensiwn sydd gyfwerth ag 1 / 160ain o’ch tâl terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael.
Os priodoch ar ôl i chi orffen eich aelodaeth weithredol, dim ond eich aelodaeth ar ôl 5 Ebrill 1978 fydd yn cael ei ddefnyddio.
Pensiwn gŵr gweddw
Wedi’ch marwolaeth, bydd eich gŵr gweddw’n derbyn pensiwn sydd gyfwerth ag 1 / 160ain o’ch tâl terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael.
Os priodoch ar ôl i chi orffen eich aelodaeth weithredol, dim ond eich aelodaeth ar ôl 5 Ebrill 1978 fydd yn cael ei ddefnyddio.
Pensiwn Partner sifil neu bartner sy’n cyd-fyw
Wedi’ch marwolaeth, bydd eich partner sifil neu bartner sy’n cyd-fyw â chi’n derbyn pensiwn sydd gyfwerth ag 1 / 160ain o’ch tâl terfynol wedi’i luosi â chyfanswm yr aelodaeth a gronnoch o 6 Ebrill 1988, hyd at y dyddiad gadael.
Pensiwn Plant
Yn ogystal â buddion partner neu briod, efallai y bydd pensiwn yn daladwy i blant cymwys.
Mae'r diffiniad o blentyn cymwys a swm y pensiwn sy'n daladwy yn dibynnu ar y rheolau oedd mewn grym pan adawsoch y cynllun.
Os wedi gadael cyn 01/04/2008
Yn ogystal, mae Cronfa Bensiwn Gwynedd yn darparu buddion pensiwn i blant cymwys. Mae’r diffiniad o blentyn cymwys yn wahanol ar gyfer pensiynwyr ble y bu i’w pensiwn neu bensiwn gohiriedig ddechrau cyn 6 Ebrill 2006, o’i gymharu â’r rhai ble y dechreuodd eu pensiwn neu bensiwn gohiriedig rhwng 6 Ebrill 2006 a 31 Mawrth 2008.
Os ddechreuodd y pensiwn cyn 6 Ebrill 2006, mae plant cymwys yn cynnwys eich plant cyfreithlon, mabwysiedig neu ddibynnol sy’n:
- blant iau na 17 mlwydd oed, neu
- ers cyn iddynt fod yn 17 mlwydd oed, eu bod wedi bod mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser ar gyfer crefft, proffesiwn neu alwedigaeth; neu'n
- ddibynnol oherwydd analluogrwydd.
Os ddechreuodd y pensiwn rhwng 6 Ebrill 2006 a 31 Mawrth 2008, mae plant cymwys yn cynnwys eich plant cyfreithlon, mabwysiedig neu ddibynnol sy’n:
- Iau na 17 mlwydd oed, neu
- Yn iau na 23 mlwydd oed ac ers cyn iddynt fod yn 17 mlwydd oed, eu bod wedi bod mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser ar gyfer crefft, proffesiwn neu alwedigaeth, neu’n
- Ddibynnydd oherwydd analluogrwydd a ddechreuodd tra bod plentyn o fewn diffiniad (1) neu (2) uchod.
Ym mhob achos, rhaid i’r plant fod wedi’u geni o fewn 12 mis o’ch marwolaeth.
Mae cyfanswm y pensiwn plant sy’n daladwy yn ddibynnol ar nifer y plant cymwys sydd gennych ac os yw pensiwn priod/partner sifil yn daladwy hefyd.
Hawl Pensiwn Plant pan fo pensiwn goroeswr yn daladwy:
1 plentyn: Byddai’r pensiwn cyfwerth ag 1 / 320fed o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad ymddeol.
2 blentyn neu fwy: Byddent yn derbyn pensiwn blynyddol cyfwerth ag 1 / 160ain o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad ymddeol. Byddai hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob plentyn.
Hawl Pensiwn Plant pan nad oes pensiwn goroeswr yn daladwy:
Wedi’ch marwolaeth, bydd eich plant yn derbyn pensiwn byrdymor sydd gyfwerth â’r pensiwn yr oeddech yn ei dderbyn cyn eich marwolaeth, am gyfnod o 6 mis. Bydd hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng eich plant cymwys.
Unwaith y daw’r pensiwn byrdymor i ben, bydd pensiwn hirdymor yn daladwy, fel a ganlyn:
1 plentyn: Byddai’r pensiwn cyfwerth ag 1 / 240fed o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael.
2 blentyn neu fwy: Byddent yn derbyn pensiwn blynyddol cyfwerth ag 1 / 120fed o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael. Byddai hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob plentyn.
Os wedi gadael ar ôl 01/04/2008
Plant cymwys yw rhai sydd:
- Yn iau na 18 mlwydd oed ac sy’n gwbl, neu’n bennaf ddibynnol arnoch chi, neu
- Yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ond yn iau na 21 mlwydd oed, sy’n ddibynnol arnoch chi ac sydd mewn addysg llawn amser neu sy’n ymgymryd â hyfforddiant galwedigaethol (er y gall plentyn dibynnol sy’n dechrau mewn addysg llawn amser neu hyfforddiant galwedigaethol ar ôl dyddiad eich marwolaeth, gael ei drin fel plentyn cymwys hyd nes ei fod yn 23 mlwydd oed), neu
- Mewn rhai achosion, gellir dosbarthu plentyn dibynnol gydag anableddau, o unrhyw oedran, fel plentyn cymwys.
Ym mhob achos, rhaid i’r plant fod wedi’u geni o fewn blwyddyn o’ch marwolaeth.
Mae cyfanswm y pensiwn plant sy’n daladwy yn ddibynnol ar nifer y plant cymwys sydd gennych a hefyd os yw pensiwn goroeswr yn daladwy i’ch priod, partner sifil neu bartner sy’n cyd-fyw â chi ac wedi’u henwebu.
Hawl Pensiwn Plant pan fo pensiwn goroeswr yn daladwy:
1 plentyn: Byddai’r pensiwn cyfwerth ag 1 / 320fed o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad ymddeol.
2 blentyn neu fwy: Byddent yn derbyn pensiwn blynyddol cyfwerth ag 1 / 160ain o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael. Byddai hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob plentyn.
Hawl Pensiwn Plant pan nad oes pensiwn goroeswr yn daladwy:
1 plentyn: Byddai’r pensiwn cyfwerth ag 1 / 240fed o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael.
2 blentyn neu fwy: Byddent yn derbyn pensiwn blynyddol cyfwerth ag 1 / 120fed o’ch cyflog terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael. Byddai hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob plentyn.

