Grant Marwolaeth
Gall grant marwolaeth fod yn daladwy ar eich marwolaeth, yn dibynnu ar pryd y gwnaethoch adael y CPLlL a pha mor hir rydych wedi bod yn derbyn eich pensiwn.
Dewiswch y cyfnod perthnasol isod i weld sut mae'r grant marwolaeth yn cael ei gyfrifo.
Os wedi gadael cyn 01/04/2008
Os oeddech wedi bod yn derbyn pensiwn am lai na 5 mlynedd ar ddyddiad eich marwolaeth, bydd grant marwolaeth yn daladwy yn gyfystyr â 5 gwaith eich pensiwn blynyddol, llai’r cyfanswm pensiwn a dalwyd yn barod.
Gennym ni fydd y disgresiwn terfynol o ran pwy fydd yn derbyn y lwmp swm, ond byddwn yn ystyried eich dymuniadau chi bob amser.
Pe nad oes derbynnydd wedi’i enwebu, telir y lwmp swm grant marwolaeth i’ch ystâd neu i’ch priod hysbys.
Os nad oes priod / partner sifil, bydd angen profi’r ewyllys neu lythyrau gweinyddu cyn y gellir talu’r grant marwolaeth.
Os wedi gadael rhwng 01/04/2008 a 31 Mawrth 2014
Os oeddech wedi bod yn derbyn pensiwn am lai na 10 mlynedd ar ddyddiad eich marwolaeth, bydd grant marwolaeth yn daladwy sydd gyfystyr â 10 gwaith eich pensiwn blynyddol, llai’r cyfanswm pensiwn a dalwyd yn barod.
Gennym ni fydd y disgresiwn terfynol o ran pwy fydd yn derbyn y lwmp swm, ond byddwn yn ystyried eich dymuniadau chi bob amser.
Pe nad oes derbynnydd wedi’i enwebu, telir y lwmp swm grant marwolaeth i’ch ystâd neu i’ch priod hysbys, partner sifil, neu bartner enwebedig sy’n cyd-fyw â chi.
Os nad oes priod / partner sifil, bydd angen profi’r ewyllys neu lythyrau gweinyddu cyn y gellir talu’r grant marwolaeth.
Os gwnaethoch adael ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014
Bydd y grant marwolaeth sy’n daladwy yn hafal i ddeg gwaith gwerth eich pensiwn blynyddol llai'r pensiwn sydd eisoes wedi’i dalu i chi ac unrhyw lwmp swm a gymerir drwy ildio rywfaint o’ch pensiwn CARE.
Os ydych hefyd yn aelod gweithredol pan fyddech yn marw, y grant marwolaeth sy’n daladwy yw’r uchaf o:
- Y swm a gyfrifir fel uchod; neu
- Tair gwaith eich Tal Pensiynadwy Tybiedig yn eich cyflogaeth weithredol.
Os byddwch yn marw ar neu ar ôl 75 oed, ni ellir talu lwmp swm.
Pensiwn Goroeswyr
Efallai y bydd pensiwn tymor hir yn daladwy i briod, partner sifil neu bartner cymwys sy'n cyd-fyw wedi eich marwolaeth.
Mae'r rheolau a'r cyfrifiadau'n dibynnu ar ba bryd y gwnaethoch adael y CPLlL.
Os wedi gadael cyn 01/04/2008
Pensiwn goroeswr i wraig weddw, gwr gweddw neu partner sifil:
Wedi’ch marwolaeth, bydd eich goroeswr yn derbyn pensiwn byrdymor sydd gyfystyr â’r pensiwn yr oeddech yn ei dderbyn cyn eich marwolaeth, am gyfnod o 3 mis, neu am 6 mis os oes plentyn cymwys yng ngofal eich goroeswr.
Unwaith y daw’r pensiwn byrdymor i ben, bydd pensiwn hirdymor yn daladwy. Bydd pensiwn goroeswr cyfwerth ag 1 / 160ain o’ch tâl terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael.
Os gwnaethoch briodi neu cynhaliwyd y partneriaeth sifil ar ôl i chi orffen eich aelodaeth weithredol, dim ond eich aelodaeth ar ôl 5 Ebrill 1978 fydd yn cael ei ddefnyddio.
Os wedi gadael ar ôl 01/04/2008
Pensiwn goroeswr i wraig weddw, gwr gweddw neu partner sifil:
Wedi’ch marwolaeth, bydd eich goroeswr yn derbyn pensiwn sydd gyfwerth ag 1 / 160ain o’ch tâl terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael.
Os gwnaethoch briodi neu cynhaliwyd y partneriaeth sifil ar ôl i chi orffen eich aelodaeth weithredol, dim ond eich aelodaeth ar ôl 5 Ebrill 1978 fydd yn cael ei ddefnyddio.
Pensiwn goroeswr i bartner sy’n cyd-fyw:
Wedi’ch marwolaeth, bydd eich partner sy’n cyd-fyw cymwys â chi’n derbyn pensiwn sydd gyfwerth ag 1 / 160ain o’ch tâl terfynol wedi’i luosi â chyfanswm yr aelodaeth a gronnoch o 6 Ebrill 1988, hyd at y dyddiad gadael.
Pwy sy’n bartner cyd-fyw cymwys?
Efallai y bydd eich partner yn gallu cael pensiwn goroeswr os:
- Buoch yn byw gyda'ch gilydd fel cwpl am o leiaf 2 flynedd cyn eich marwolaeth.
- Roeddech ill dau yn rhydd i briodi neu ffurfio partneriaeth sifil.
- Nid oedd yr un ohonoch yn byw fel cwpl gyda rhywun arall.
- Roeddech yn gysylltiedig yn ariannol, naill ai oherwydd:
- bod eich partner yn dibynnu ar eich incwm, neu
- eich bod yn rhannu cyllid ac yn dibynnu arno gyda'ch gilydd.
Bydd angen i'ch partner ddarparu tystiolaeth fod yr amodau hyn wedi'u bodloni am y 2 flynedd yn union cyn eich marwolaeth.
Does dim rhaid i chi enwi eich partner cyd-fyw yn swyddogol.
Ond mae'n syniad da rhoi manylion eich partner i Gronfa Bensiwn Gwynedd ymlaen llaw.
Pensiwn Plant
Yn ogystal â buddion partner neu briod, efallai y bydd pensiwn yn daladwy i blant cymwys, sef plant sydd:
- Yn iau na 18 mlwydd oed ac sy’n gwbl, neu’n bennaf ddibynnol arnoch chi, neu
- Yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ond yn iau na 21 mlwydd oed, sy’n ddibynnol arnoch chi ac sydd mewn addysg llawn amser neu sy’n ymgymryd â hyfforddiant galwedigaethol (er y gall plentyn dibynnol sy’n dechrau mewn addysg llawn amser neu hyfforddiant galwedigaethol ar ôl dyddiad eich marwolaeth, gael ei drin fel plentyn cymwys hyd nes ei fod yn 23 mlwydd oed), neu
- Mewn rhai achosion, gellir dosbarthu plentyn dibynnol gydag anableddau, o unrhyw oedran, fel plentyn cymwys.
- Ym mhob achos, rhaid i’r plant fod wedi’u geni o fewn blwyddyn o’ch marwolaeth.
Mae'r swm y pensiwn sy'n daladwy yn dibynnu ar y rheolau oedd mewn grym pan adawsoch y cynllun ac os oes pensiwn priod neu partner cymwys yn daladwy.
Mae cyfanswm y pensiwn plant sy’n daladwy yn ddibynnol ar nifer y plant cymwys sydd gennych a hefyd os yw pensiwn goroeswr yn daladwy i’ch priod, partner sifil neu bartner sy’n cyd-fyw â chi.

