Mae Cymudiad Pitw yn opsiwn lle gall aelodau gymryd lwmp swm trethadwy o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn hytrach na phensiwn bach. O dan rai amgylchiadau, mae’n bosibl cymudo pensiwn ar gyfer aelod CPLlL, eu goroeswyr, plant cymwys neu aelodau credyd pensiwn ar yr amod bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni.
Er mwyn gwneud taliad Cymudiad Pitw, RHAID i chi fodloni’r meini prawf canlynol:
- Bod o leiaf 55 oed, neu 60 oed yn achos menyw sydd ag Isafswm Pensiwn Gwarantedig (GMP), neu 65 oed yn achos dyn sydd â GMP, heb derfyn oedran uchaf.
- Cymryd eich holl fuddion CPLlL yng Nghymru a Lloegr, nid Gwynedd yn unig fel lwmp swm untro;
- Heb dderbyn lwmp swm cymudiad pitw o’r blaen o unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig neu, os yw lwmp swm o’r fath wedi’i dalu, mae’n rhaid talu’r lwmp swm cymudiad pitw o’r CPLlL o fewn 12 mis i’r diwrnod y talwyd y lwmp swm cymudiad pitw cyntaf i’r aelod;
- Nid ydych yn ‘gyfarwyddwr rheoli’ nac yn rhywun sy’n gysylltiedig â ‘chyfarwyddwr rheoli’, cyflogwr CPLlL.
Os gwnaethoch roi'r gorau i dalu i'r cynllun ar ôl 1 Ebrill 2008
Mae’n rhaid i ni gyfrifo cyfanswm eich holl botiau pensiwn, CPLlL a rhai nad ydynt yn CPLlL. Os nad yw’r rhain yn fwy na £30,000, efallai y byddwn yn gallu talu cyfandaliad untro fel cymudiad pitw. Gwerth eich pensiwn yw cyfanswm gwerth cyfalaf ac nid swm blynyddol y pensiwn sy’n daladwy.
Er mwyn gwirio eich cymhwysedd, bydd angen manylion eich gwerthoedd pot pensiwn eraill a gedwir y tu allan i’r CPLlL. Bydd angen i chi ofyn am hyn yn uniongyrchol gan eich darparwyr pensiwn eraill.
Mae gennych opsiwn ychwanegol gan y gallwn gyfrifo eich buddion CPLlL yn unig. Ar yr amod nad yw gwerth cyfalaf y rhain yn fwy na £10,000, efallai y byddwn yn gallu talu lwmp swm untro. Gelwir hyn yn ‘de minimis’.
Y rheolau ‘de minimis’ yw:
- Rhaid i chi fod yn 55 oed neu’n hŷn neu’n oedran GMP
- Rhaid i’r taliad beidio â bod yn fwy na £10,000
- Rhaid i chi beidio â bod yn gyfarwyddwr rheoli’r cyflogwr sy’n noddi
- Bydd taliad yn dileu eich hawl i fuddion o dan y cynllun
- Ni ddylai bod unrhyw trosglwyddiad allan o’r cynllun yn y tair blynedd cyn dyddiad y taliad.
I benderfynu a ydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cymudo eich pensiwn yn bitw o fewn y CPLlL, bydd angen i chi gyfrifo gwerth eich cronfa pensiwn. Nid yw hyn yr un peth â’ch pensiwn blynyddol ac fe’i cyfrifir fel a ganlyn:
20 x pensiwn blynyddol + cyfandaliad awtomatig (os yw’n berthnasol) + gwerth eich cronfa CGY (os yw’n berthnasol)
Os dechreuoch dderbyn eich pensiwn cyn 6 Ebrill 2006, mae’r rhain fel arfer yn cael eu prisio 25 gwaith incwm pensiwn blynyddol ag yr oedd ar 5 Ebrill 2006, ac nid oes angen i chi ychwanegu at unrhyw lwmp swm blaenorol.
Mae cyfrifo’r taliad cymudiad pitw yn gymhleth. Rydym yn gweithio allan y taliad gan ddefnyddio ffactorau a gyhoeddir gan Adran Actiwari’r Llywodraeth (GAD) sy’n seiliedig ar eich oedran a gwerth eich pensiwn.
Bydd Treth Incwm hefyd yn cael ei ddidynnu o’r swm a dderbyniwch. Os nad ydych eto wedi derbyn taliad o’ch pensiwn, fel arfer byddwch yn gallu derbyn 25% o’r taliad cymudiad pitw yn ddi-dreth. Bydd y gweddill yn destun Treth Incwm.
Os gwnaethoch roi'r gorau i dalu i'r cynllun cyn 1 Ebrill 2008
Mae’n rhaid i ni gyfrifo cyfanswm eich holl botiau pensiwn, CPLlL a rhai nad ydynt yn CPLlL. Os nad yw’r rhain yn fwy na £30,000, efallai y byddwn yn gallu talu cyfandaliad untro fel cymudiad pitw. Gwerth eich pensiwn yw cyfanswm gwerth cyfalaf ac nid swm blynyddol y pensiwn sy’n daladwy.
Er mwyn gwirio eich cymhwysedd, bydd angen manylion eich gwerthoedd pot pensiwn eraill a gedwir y tu allan i’r CPLlL. Bydd angen i chi ofyn am hyn yn uniongyrchol gan eich darparwyr pensiwn eraill.
Pethau i'w hystyried
Cyn penderfynu a ddylid cymryd taliad cymudiad pitw, dylech ystyried ai hwn yw’r opsiwn ariannol gorau i chi.
Mae cymryd eich pensiwn fel Lwmp Swm untro yn golygu:
- Ni fyddwch yn derbyn taliadau pensiwn misol
- ni fydd gennym unrhyw atebolrwydd drosoch chi yn y CPLlL
- Pe baech chi’n marw cyn eich priod, partner sifil neu bartner cyd-fyw, ni fyddent yn derbyn pensiwn goroeswr
Gweler mwy o wybodaeth am gymudiad pitw ar wefan https://www.moneyhelper.org.uk/cy/pensions-and-retirement/taking-your-pension/taking-your-whole-pension-in-one-go
Dim ond os rydym yn meddwl y gallech fodloni’r meini prawf y darperir yr opsiwn i gymryd pensiwn bach fel lwmp swm. Os yw hyn yn berthnasol ac os oes gennych ddiddordeb yn yr opsiwn hwn, cysylltwch â ni, byddwn wedyn yn anfon rhagor o wybodaeth atoch.

