Yr Hanfodion

  • ✓ Yn seiliedig ar eich cyflog pensiynadwy.
  • ✓ Rhyddhad treth ar eich cyfraniadau.
  • ✓ Bandiau'n cael eu hadolygu bob Ebrill.
  • ✓ Mae eich cyflogwr hefyd yn cyfrannu.

Ddim yn siŵr faint fyddwch yn ei gyfrannu?

Agor y Cyfrifiannell →

Noder: Mae'r cyfrifiannell ar gael yn Saesneg yn unig.

Faint fyddwch yn ei gyfrannu?

Cyfraddau cyfraniadau aelodau CPLlL
Os yw eich tâl pensiynadwy gwirioneddol: Y gyfradd gyfrannu a delir gennych:
Hyd at £18,400 5.5%
£18,401 i £29,000 5.8%
£29,001 i £47,300 6.5%
£47,301 i £59,800 6.8%
£59,801 i £84,000 8.5%
£84,001 i £119,100 9.9%
£119,101 i £140,400 10.5%
£140,401 i £210,700 11.4%
£210,701 neu fwy 12.5%

A yw fy nghyflogwr hefyd yn cyfrannu?

Ydi.

Yn ogystal â'ch cyfraniadau chi, mae eich cyflogwr yn talu cyfraniadau at gost darparu buddion y CPLlL. Gallwch weld swm cyfraniad eich cyflogwr ar eich slip cyflog misol.

Caiff y gyfradd hon ei hadolygu bob tair blynedd gan Actiwari'r Cynllun.

Sut mae rhyddhad treth yn gweithio?

Caiff eich cyfraniadau CPLlL eu tynnu o'ch cyflog cyn cyfrifo treth incwm. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o aelodau sy'n talu treth yn elwa o ryddhad treth ar eu cyfraniadau pensiwn.

Mewn geiriau syml, mae cyfrannu at eich pensiwn yn costio llai i chi nag y mae'n ymddangos oherwydd bod eich bil treth yn cael ei leihau.

Er enghraifft:

  • Os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol, am bob £100 a delir i'r CPLlL, byddwch yn arbed £20 mewn treth.
  • Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch, am bob £100 a delir i'r CPLlL, byddwch yn arbed £40 mewn treth.