Ar Gip

✓ Nid yw absenoldeb salwch fel arfer yn lleihau'r pensiwn rydych yn ei gronni.

✓ Mae rheolau arbennig yn berthnasol i absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu.

✓ Gall absenoldeb di-dâl effeithio ar eich pensiwn.

✓ Efallai y gallwch brynu'n ôl pensiwn coll mewn rhai amgylchiadau.

Gall cyfnodau o absenoldeb o'r gwaith effeithio ar eich pensiwn mewn gwahanol ffyrdd, yn dibynnu ar y math o absenoldeb a pha mor hir y bydd yn para.

Beth yw APP?

Mae APP (Tâl Pensiynadwy Tybiedig) yn amcangyfrif o'r tâl y byddech wedi'i ennill pe baech wedi gweithio fel arfer. Pan fo APP yn berthnasol, defnyddir y tâl tybiedig hwn wrth gyfrifo eich pensiwn fel nad ydych yn colli buddion pensiwn oherwydd rhai mathau o absenoldeb. Er enghraifft, os ydych ar gyfnod cymwys o absenoldeb salwch neu absenoldeb sy'n gysylltiedig â phlant, gall APP gael ei ddefnyddio yn lle'r tâl is a gawsoch yn ystod y cyfnod hwnnw.

Trosolwg cyflym

Math o absenoldeb A yw pensiwn yn parhau? A ddefnyddir APP? A ellir prynu pensiwn coll?
Absenoldeb salwch ✔ Oes ✔ Oes Dim angen
Absenoldeb sy'n gysylltiedig â phlant ✔ Oes ✔ Oes Dim angen
Absenoldeb di-dâl o lai na 15 diwrnod ✔ Oes ✔ Oes Dim angen
Absenoldeb di-dâl o 15 diwrnod neu fwy ✖ Nid yn awtomatig ✖ Na ✔ QAPA
Mathau eraill o absenoldeb di-dâl ✖ Nac ydi ✖ Na ✔ APC
Absenoldeb Salwch
Nid yw'ch pensiwn yn cael ei effeithio pan fyddwch ar absenoldeb salwch. Byddwch yn talu'r gyfradd gyfrannu arferol ar unrhyw dâl y byddwch yn ei dderbyn.

Am unrhyw gyfnod lle byddwch yn derbyn llai o gyflog neu ddim cyflog, byddwn yn defnyddio Tâl Pensiynadwy Tybiedig (APP), sef y cyflog y byddech wedi'i dderbyn pe baech yn gweithio fel arfer. Hwn yw'r tâl a ddefnyddir i gyfrifo'ch pensiwn am y cyfnod hwnnw.

Absenoldeb sy'n gysylltiedig â phlant
Mae rheolau gwahanol ar gyfer absenoldeb perthnasol sy'n gysylltiedig â phlant ac absenoldeb di-dâl sy'n gysylltiedig â phlant. Mae absenoldeb perthnasol sy'n gysylltiedig â phlant yn cynnwys:

  • Absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu cyffredin.
  • Absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu ychwanegol â thâl.
  • Absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu ychwanegol di-dâl os dechreuodd y cyfnod ar neu ar ôl 1 Ebrill 2026.
  • Absenoldeb â thâl rhiant a rennir.
  • Absenoldeb di-dâl rhiant a rennir os dechreuodd y cyfnod ar neu ar ôl 1 Ebrill 2026.
  • Absenoldeb tadolaeth.
  • Absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth.
  • Absenoldeb â thâl profedigaeth rhiant.
  • Absenoldeb â thâl gofal newydd-anedig.

Yn ystod y cyfnodau hyn byddwch yn talu eich cyfradd gyfrannu arferol ar unrhyw dâl pensiynadwy a gewch. Caiff eich pensiwn ei gyfrifo gan ddefnyddio Tâl Pensiynadwy Tybiedig (APP), sef y tâl y byddech wedi'i gael pe baech wedi gweithio fel arfer.

Ni fydd angen i chi brynu'n ôl unrhyw bensiwn coll ar gyfer cyfnodau cymwys o absenoldeb di-dâl sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2026. Byddwch yn parhau i gronni pensiwn fel pe baech yn derbyn eich cyflog arferol.

Absenoldeb di-dâl o lai na 15 diwrnod
O 1 Ebrill 2026, os yw eich cyflogwr yn caniatáu i chi gymryd absenoldeb di-dâl sy'n para llai na 15 diwrnod, bydd eich pensiwn yn parhau i gronni yn ystod y cyfnod hwn. Byddwch chi a'ch cyflogwr yn talu'r cyfraniadau pensiwn a fyddai wedi cael eu talu pe baech yn gweithio ac yn derbyn eich cyflog arferol.

Nid yw'r newid hwn yn berthnasol os oeddech yn ddi-dâl oherwydd eich bod ar streic. Nid yw cyfnod streic yn cyfrif yn awtomatig at ddibenion pensiwn, waeth beth fo'i hyd.

Absenoldeb di-dâl o 15 diwrnod neu fwy
Os yw eich cyflogwr yn caniatáu i chi gymryd absenoldeb di-dâl sy'n para 15 diwrnod neu fwy, ni fydd y seibiant yn cyfrif yn awtomatig at ddibenion pensiwn. Gallwch ddewis prynu rhywfaint neu'r cyfan o'r pensiwn a gollwyd yn ystod y cyfnod di-dâl drwy dalu cyfraniadau ychwanegol. Gellir talu'r cyfraniadau drwy gyfandaliad neu drwy ddidyniadau rheolaidd o'ch cyflog. Mae trefniant o'r enw Trefniant Pensiwn Ychwanegol Cymwys (QAPA) yn berthnasol i absenoldeb di-dâl sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2026.

  • Mwy o amser i benderfynu - mae'r terfyn amser wedi cynyddu o 30 diwrnod i flwyddyn ar ôl dychwelyd i'r gwaith, neu'r dyddiad y gadawsoch y gyflogaeth berthnasol, pa un bynnag sy'n gynharach.
  • Cyfraniadau'n seiliedig ar eich cyflog arferol - byddwch chi a'ch cyflogwr yn talu'r cyfraniadau a fyddai wedi cael eu talu pe baech wedi gweithio fel arfer.
  • Pensiwn llawn ar gyfer y cyfnod - mae'r pensiwn rydych yn ei brynu yn adlewyrchu'r pensiwn y byddech wedi'i gronni pe baech yn gweithio.
  • Dim angen adroddiad meddygol - ni all eich cronfa bensiwn na'ch cyflogwr ofyn am adroddiad meddygol cyn caniatáu QAPA.

Gweler y cyfrifiannell prynu pensiwn coll am wybodaeth am y rheolau a oedd yn berthnasol i seibiannau di-dâl awdurdodedig a ddechreuodd cyn 1 Ebrill 2026.

Mathau eraill o absenoldeb di-dâl
Os ydych wedi bod yn absennol o'r gwaith am un neu fwy o ddiwrnodau llawn am unrhyw reswm, gan gynnwys gweithrediad diwydiannol, gwasanaeth rheithgor neu wasanaeth lluoedd arfog wrth gefn, ni fyddwch yn cronni unrhyw bensiwn ar y dyddiau yr oeddech yn absennol. Os ydych am osgoi'r golled hon o bensiwn, gallwch brynu'r pensiwn coll yn ôl drwy wneud Cytundeb Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (APC).

Bydd y pensiwn coll yn cael ei gyfrifo fel 1/49 o'r APP ar gyfer y cyfnod o absenoldeb os oeddech yn y prif gynllun, neu 1/98 os oeddech yn yr adran 50/50.

Am brynu pensiwn coll?

Defnyddiwch y cyfrifiannell prynu pensiwn coll i amcangyfrif cost prynu'n ôl pensiwn a gollwyd yn ystod cyfnod o absenoldeb di-dâl a ddechreuodd ar ôl 1 Ebrill 2026.

Agor y Cyfrifiannell

Saesneg yn unig.