Ar Gip

✓ Efallai y byddwch yn gymwys i gael ad-daliad os oes gennych lai na 2 flynedd o aelodaeth.

✓ Rhaid bodloni nifer o amodau cyn y gellir talu ad-daliad.

✓ Mae didyniadau statudol, gan gynnwys treth, yn berthnasol i bob ad-daliad.

✓ Cysylltwch â ni os hoffech wneud cais am ad-daliad.

A allaf gael ad-daliad o'm cyfraniadau?

Os byddwch yn gadael y CPLlL gyda llai na 2 flynedd o aelodaeth gymwys, efallai y byddwch yn gymwys i gael ad-daliad o'ch cyfraniadau pensiwn.

Fodd bynnag, dim ond os yw'r amodau penodol isod yn cael eu bodloni y gellir talu ad-daliad.

Pwy sy'n gymwys i gael ad-daliad?

Fel arfer, rhaid:

  • Bod gennych lai na 2 flynedd o aelodaeth gymwys.
  • Peidio â throsglwyddo hawliau pensiwn blaenorol penodol i'r CPLlL.
  • Peidio ag ailymuno â'r CPLlL o fewn mis a diwrnod i adael y gyflogaeth berthnasol.
  • Peidio ag ailymuno â'r cynllun cyn i'r ad-daliad gael ei dalu.
  • Peidio â throsglwyddo buddion CPLlL dramor yn flaenorol.
  • Peidio â bod ag unrhyw fuddion CPLlL eraill yng Nghymru a Lloegr.

Pwysig: Os byddwch yn derbyn ad-daliad ar ôl methu datgelu buddion CPLlL eraill, gallai hyn ddileu eich hawl i'r buddion hynny.

Mae rheolau ychwanegol llai cyffredin hefyd yn berthnasol mewn rhai amgylchiadau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw unrhyw un o'r rhain yn effeithio ar eich hawl i gael ad-daliad.

Pa ddidyniadau fydd yn cael eu gwneud?

Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i rai didyniadau gael eu gwneud cyn talu ad-daliad.

  • Treth - Mae pob ad-daliad yn destun didyniad treth o 20% ar y balans sy'n weddill ar ôl unrhyw ddidyniadau statudol eraill.
  • Swm Ardystiedig - Mewn rhai achosion, gall swm gael ei ddidynnu mewn perthynas â hawliau pensiwn y wladwriaeth. Nid Treth Incwm yw'r didyniad hwn ac ni ellir ei adennill.

Sut gallaf hawlio ad-daliad?

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys i gael ad-daliad o'ch cyfraniadau, cysylltwch â ni a byddwn yn darparu'r ffurflenni a'r wybodaeth berthnasol.