Beth sy'n digwydd i'ch pensiwn os byddwch yn gadael?

Os oes gennych 2 flynedd neu fwy o aelodaeth, bydd eich buddion fel arfer yn dod yn fuddion gohiriedig a gallwch eu gadael yn y CPLlL nes eich bod yn barod i'w cymryd.

✓ Bydd eich pensiwn yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant (CPI).

✓ Gallwch adael eich buddion yn y CPLlL nes eich bod yn barod i ymddeol.

✓ Efallai y gallwch drosglwyddo neu gyfuno eich buddion yn y dyfodol.

Defnyddiwch ein cyfrifiannell buddion gohiriedig i weld gwerth eich pensiwn os fyddech yn gadael ar ddyddiad penodol.

Cyfrifo Eich Buddion Gohiriedig

Bydd angen mewngofnodi i Fy Mhensiwn Ar-lein.