Ar Gip
✓ Gall lleihau oriau neu gyflog leihau'r pensiwn a gronnwch yn y dyfodol
✓ Ni fydd lleihau oriau gwaith yn lleihau buddion cyflog terfynol a gronnwyd cyn 1 Ebrill 2014
✓ Gall rhai buddion salwch a marwolaeth gael eu heffeithio gan ostyngiad mewn cyflog
✓ Gall rhai cynlluniau aberthu cyflog effeithio ar eich buddion CPLlL
Beth os ydw i yn lleihau oriau gwaith?
Ers 1 Ebrill 2014, mae'r CPLlL yn gynllun CARE. Mae hyn yn golygu bod maint y pensiwn rydych yn ei gronni bob blwyddyn yn seiliedig ar eich cyflog pensiynadwy gwirioneddol.
Os byddwch yn gweithio llai o oriau, bydd eich cyflog pensiynadwy fel arfer yn gostwng. O ganlyniad, byddwch yn cronni llai o bensiwn yn y dyfodol.
Enghraifft
Cyflog llawn amser: £18,000
1/49 × £18,000 = £367.35 y flwyddyn
Cyflog ar ôl lleihau oriau: £14,400
1/49 × £14,400 = £293.88 y flwyddyn
Gwahaniaeth: £73.47 y flwyddyn o bensiwn CARE a gronnwyd yn ystod y flwyddyn honno.
Buddion cyflog terfynol
Os oeddech yn aelod o'r CPLlL ar neu cyn 31 Mawrth 2014, ni fydd lleihau eich oriau gwaith rŵan yn lleihau'r buddion cyflog terfynol rydych eisoes wedi'u cronni. Wrth gyfrifo'r buddion hyn, defnyddir cyflog cyfwerth ag amser llawn, nid eich cyflog rhan-amser.
Gall lleihau eich oriau gwaith hefyd effeithio ar fuddion eraill y cynllun. Er enghraifft, gallai gwerth unrhyw fuddion salwch yn y dyfodol fod yn is. Gall grant marwolaeth mewn gwasanaeth hefyd fod yn is oherwydd ei fod yn seiliedig ar eich cyflog pensiynadwy.
Beth os ydw i yn symud i swydd sy'n talu llai?
Os byddwch yn symud i swydd sy'n talu llai, bydd y pensiwn rydych yn ei gronni o'r dyddiad hwnnw ymlaen fel arfer yn seiliedig ar eich cyflog newydd.
Mae hyn yn golygu y byddwch yn cronni llai o bensiwn yn y dyfodol nag y byddech wedi ei wneud pe baech wedi aros yn eich swydd flaenorol.
Buddion cyflog terfynol
Os byddwch yn symud i swydd sy'n talu llai, gallai hyn effeithio ar y cyflog a ddefnyddir i gyfrifo rhai buddion cyflog terfynol. Os oes gennych fuddion cyflog terfynol, efallai y byddwch am ystyried yr effaith cyn gwneud penderfyniad.
Gall symud i swydd sy'n talu llai hefyd effeithio ar fuddion eraill y cynllun. Er enghraifft, gallai gwerth unrhyw fuddion salwch yn y dyfodol fod yn is. Gall grant marwolaeth mewn gwasanaeth hefyd fod yn is oherwydd ei fod yn seiliedig ar eich cyflog pensiynadwy.
A all aberthu cyflog effeithio ar fy mhensiwn?
Gall rhai cynlluniau aberthu cyflog effeithio ar eich cyflog pensiynadwy ac felly ar eich buddion CPLlL.
Mae hyn yn cynnwys:
- Cynllun Green Car
- Prynu gwyliau blynyddol ychwanegol
Fel arfer ni fydd cynlluniau megis Cycle to Work, CGY Cost a Rennir na Thalebau Gofal Plant yn effeithio ar eich pensiwn CPLlL.
Pwysig: Ni all Cronfa Bensiwn Gwynedd ddarparu cyngor ariannol. Efallai y byddwch am geisio cyngor ariannol annibynnol cyn gwneud penderfyniad.

