Os ydych yn marw

Mae'r CPLlL yn darparu amddiffyniad ariannol gwerthfawr i'ch teulu os byddwch yn marw.

✓ Gall buddion gynnwys grant marwolaeth, pensiwn goroeswr a phensiwn plant.

✓ Mae grant marwolaeth o 3 gwaith eich cyflog pensiynadwy yn daladwy os byddwch yn marw mewn gwasanaeth.

✓ Dylech gadw eich manylion enwebiad grant marwolaeth yn gyfredol.

Sicrhewch fod eich mynegiad grant marwolaeth yn gyfredol fel y gallwn ystyried eich dymuniadau wrth benderfynu pwy ddylai dderbyn unrhyw grant marwolaeth sy'n daladwy.

Diweddaru Enwebiad

Lwmp Swm Grant Marwolaeth

O ddydd cyntaf eich aelodaeth o'r CPLlL, mae lwmp swm grant marwolaeth sy'n cyfateb i 3 gwaith eich cyflog pensiynadwy blynyddol yn daladwy os byddwch yn marw mewn gwasanaeth ac yn iau na 75 oed.

Dylai pob aelod lenwi ffurflen mynegi dymuniad grant marwolaeth. Mae hyn yn eich galluogi i enwebu un neu fwy o unigolion neu sefydliad i dderbyn y taliad grant marwolaeth perthnasol.

Gan Gronfa Bensiwn Gwynedd fydd y penderfyniad terfynol ynghylch pwy fydd yn derbyn y lwmp swm, ond byddwn yn ystyried eich dymuniadau bob amser.

Pe byddech yn penderfynu newid eich buddiolwr, bydd pob ffurflen newydd a dderbynnir yn disodli'r un flaenorol.

Os nad oes ffurflen mynegi dymuniad, gall y lwmp swm grant marwolaeth gael ei dalu i'ch ystâd neu i briod hysbys.

Pensiwn Goroeswr

Os byddwch yn marw gan adael priod, partner sifil neu bartner cymwys sy'n cyd-fyw â chi, efallai y bydd ganddynt hawl i dderbyn pensiwn goroeswr.

Mae'r pensiwn hwn yn daladwy am oes a bydd yn cynyddu'n flynyddol yn unol â chostau byw.

Sut mae'r pensiwn goroeswr yn cael ei gyfrifo?

Pensiwn eich priod neu bartner sifil

Bydd y pensiwn yn gyfwerth â 1/160 o'ch cyflog pensiynadwy wedi'i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at ddyddiad eich marwolaeth, ynghyd â'r aelodaeth y gallech fod wedi'i chrynhoi rhwng dyddiad eich marwolaeth a'r dyddiad y buasech wedi cyrraedd 65 oed.

Partner sy'n cyd-fyw â chi

Bydd y pensiwn yn gyfwerth â 1/160 o'ch cyflog pensiynadwy wedi'i luosi â chyfanswm yr aelodaeth a gronnwyd ers 6 Ebrill 1988 hyd at ddyddiad eich marwolaeth, ynghyd â'r aelodaeth y gallech fod wedi'i chrynhoi rhwng dyddiad eich marwolaeth a'r dyddiad y buasech wedi cyrraedd 65 oed.

Bydd aelodaeth cyn 6 Ebrill 1988 hefyd yn cael ei defnyddio os ydych wedi talu'r cyfraniadau ychwanegol perthnasol i gynnwys y gwasanaeth hwnnw wrth gyfrifo pensiwn partner sy'n cyd-fyw.

Pensiwn Plant

Yn ychwanegol at y buddion goroeswyr uchod, gall pensiwn fod yn daladwy i blant cymwys.

Fel arfer, bydd plentyn yn gymwys os yw:

  • Iau na 18 oed.
  • Rhwng 18 a 23 oed ac mewn addysg amser llawn.
  • Wedi'i eni o fewn 12 mis i'ch marwolaeth.
  • Yn gyfan gwbl neu'n bennaf ddibynnol arnoch.
  • O unrhyw oedran ac yn methu gweithio oherwydd nam corfforol neu feddyliol parhaol.

At y diben hwn, mae gwaith yn golygu cyflogaeth â thâl am o leiaf 30 awr yr wythnos dros gyfnod o leiaf 12 mis.

Mae cyfanswm y pensiwn plant sy'n daladwy yn dibynnu ar nifer y plant cymwys ac a oes pensiwn goroeswr yn daladwy i briod, partner sifil neu bartner sy'n cyd-fyw.

Sut mae pensiwn plant yn cael ei gyfrifo?

Os oes pensiwn goroeswr yn daladwy

Un plentyn: 1/320 o'ch cyflog terfynol wedi'i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at ddyddiad eich marwolaeth, ynghyd â'r aelodaeth y gallech fod wedi'i chronni hyd at eich OPA.

Dau neu fwy o blant: 1/160 o'ch cyflog terfynol wedi'i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at ddyddiad eich marwolaeth, ynghyd â'r aelodaeth y gallech fod wedi'i chronni hyd at eich OPA. Bydd y swm yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng y plant.

Os nad oes pensiwn goroeswr yn daladwy

Un plentyn: 1/240 o'ch cyflog terfynol wedi'i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at ddyddiad eich marwolaeth, ynghyd â'r aelodaeth y gallech fod wedi'i chronni hyd at eich OPA.

Dau neu fwy o blant: 1/120 o'ch cyflog terfynol wedi'i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at ddyddiad eich marwolaeth, ynghyd â'r aelodaeth y gallech fod wedi'i chronni hyd at eich OPA. Bydd y swm yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng y plant.