Ar Gip
✓ Cyfraniadau fel arfer yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth.
✓ Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) yn eich galluogi i adeiladu cronfa fuddsoddi ychwanegol.
✓ Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY) yn caniatáu i chi brynu pensiwn CPLlL ychwanegol gwarantedig.
✓ Gall CGY Cost a Rennir gynnig arbedion ychwanegol os yw eich cyflogwr yn ei gynnig.
Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)
Mae CGY yn eich galluogi i adeiladu buddion pensiwn ychwanegol drwy dalu cyfraniadau ychwanegol. Gallwch gynyddu, lleihau neu atal eich cyfraniadau yn unol â'ch amgylchiadau.
A yw CGY Cost a Rennir ar gael i mi?
Os yw eich cyflogwr yn cynnig y trefniant cost a rennir, mae'n gweithredu drwy aberthu cyflog, sy'n golygu nad ydych yn talu treth nac Yswiriant Gwladol ar y cyfraniadau hyn.
Y cyflogwyr sy'n cynnig hyn ar hyn o bryd:
- Cyngor Gwynedd
- Cyngor Conwy
- Byw'n Iach
- NMWTRA
- Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd
- Addysg Oedolion Cymru
Beth sy'n digwydd i'm CGY wrth ymddeol?
Ni allwch gymryd eich buddion CGY ar wahân i'ch buddion CPLlL. Rhaid cymryd eich CGY ar yr un pryd ag y byddwch yn cymryd eich pensiwn CPLlL. Yn yr un modd, ni allwch gyfrannu i CGY oni bai eich bod hefyd yn cyfrannu i'r CPLlL.
Wrth gymryd eich buddion CGY, efallai y bydd gennych un neu fwy o'r opsiynau canlynol:
- Cymryd y gronfa fel lwmp swm di-dreth, cyn belled nad yw cyfanswm eich lwmp symiau o'r CPLlL yn fwy na 25% o werth cyfunol eich buddion CPLlL a CGY.
- Prynu pensiwn CPLlL ychwanegol gan ddefnyddio gwerth eich cronfa CGY.
- Trosglwyddo'r CGY i gynllun pensiwn cofrestredig arall, yn ddarostyngedig i reolau a gofynion y cynllun sy'n derbyn y trosglwyddiad.
Eisiau dechrau CGY?
Mae'r holl ffurflenni, canllawiau a dogfennau sy'n ymwneud â CGY ar gael mewn un lle.
Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY)
Mae CPY yn eich galluogi i brynu pensiwn CPLlL ychwanegol gwarantedig drwy gyfraniadau rheolaidd neu gyfandaliad. Mae'r gost yn dibynnu ar faint o bensiwn ychwanegol rydych am ei brynu, eich oedran a hyd y cyfnod talu.
Gwneud cais am CPY
Defnyddiwch gyfrifiannell CPY y CPLlL i weld faint o bensiwn ychwanegol y gallech ei brynu a faint y gallai gostio.
Saesneg yn unig.
Pwysig: Os ydych yn ystyried gwneud cyfraniadau pensiwn ychwanegol, dylech sicrhau nad ydych yn mynd dros derfynau treth y Lwfans Blynyddol.
- Darllenwch ein tudalen Treth a Phensiynau.
- Defnyddiwch Gwiriwr Cyflym y Lwfans Blynyddol y CPLlL i wirio a allai'r Lwfans Blynyddol effeithio chi. Saesneg yn unig.

