Cymryd Eich Pensiwn
Os oes gennych fuddion gohiriedig, gallwch ddechrau'r broses o gymryd eich pensiwn ar-lein a gweld amcangyfrif o'ch buddion cyn gwneud eich penderfyniad.
✓ Fel arfer, gallwch gymryd eich pensiwn rhwng 55 a 75 oed.
✓ Gallwch weld amcangyfrif o'ch buddion a dechrau'r broses ar-lein.
Bydd angen mewngofnodi i Fy Mhensiwn Ar-lein.
Beth yw'r Broses?
Os ydych yn bwriadu cymryd eich buddion gohiriedig, bydd y broses fel arfer yn cynnwys y camau canlynol:
Pryd gallaf gymryd fy muddion yn llawn?
Bydd eich buddion gohiriedig yn cael eu talu'n llawn os byddwch yn eu cymryd yn eich Oedran Pensiwn Arferol.
Ar gyfer buddion a gronnwyd o 1 Ebrill 2014 ymlaen, mae eich Oedran Pensiwn Arferol wedi'i gysylltu â'ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gyda lleiafswm o 65 oed.
Mae'r rhan fwyaf o fuddion a gronnwyd cyn 1 Ebrill 2014 yn parhau i fod ag Oedran Pensiwn Arferol gwarchodedig o 65 oed.
Beth os byddaf yn cymryd fy muddion yn gynnar?
Gallwch ddewis cymryd eich buddion gohiriedig o 55 oed ymlaen (57 oed o 6 Ebrill 2028).
Nid oes angen caniatâd eich cyn-gyflogwr er mwyn gwneud hyn.
Os byddwch yn cymryd eich buddion cyn eich Oedran Pensiwn Arferol, byddant fel arfer yn cael eu gostwng oherwydd eu bod yn cael eu talu am gyfnod hirach.
A all y Rheol 85 fod yn berthnasol i mi?
Os oeddech yn aelod o'r CPLlL rhwng 1 Ebrill 1998 a 30 Medi 2006, efallai y bydd gennych ddiogelwch o dan y Rheol 85. Mae'r rheolau'n gymhleth ac mae lefel y diogelwch yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.
Beth os byddaf yn gohirio cymryd fy muddion?
Nid oes rhaid i chi gymryd eich pensiwn ar eich Oedran Pensiwn Arferol.
Gallwch ddewis gohirio taliad eich buddion hyd at 75 oed.
Os byddwch yn cymryd eich buddion ar ôl eich Oedran Pensiwn Arferol, byddant fel arfer yn cynyddu gan eu bod yn cael eu talu am gyfnod byrrach.
A allaf gymryd rhan o'm pensiwn fel lwmp swm?
Pan fyddwch yn cymryd eich pensiwn, gallwch fel arfer gyfnewid rhan o'ch pensiwn blynyddol am lwmp swm un tro di-dreth.
Bydd cyfnewid pensiwn yn cynyddu'r lwmp swm a gewch wrth ymddeol, ond bydd yn lleihau'r pensiwn blynyddol a delir i chi am weddill eich oes.

