Cyflwyniad

Cyngor Gwynedd yw’r Awdurdod Gweinyddol ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd (y Gronfa). Mae’r Gronfa yn gweinyddu’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar gyfer oddeutu 49,600 o aelodau sydd yn cynnwys Cynghorau Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Cartrefi Conwy, Adra, nifer o gynghorau cymuned a thref, a chyrff eraill ar yr atodlen ac a ganiateir.

O fewn ei Gyfansoddiad, mae Cyngor Gwynedd wedi dirprwyo cyfrifoldeb gweinydd y CPLlL i’r Pwyllgor Pensiynau o aelodau etholedig. Mae’r Pwyllgor Pensiynau yn gorff gwneud penderfyniadau dros y Gronfa, sy’n cael ei gynghori gan swyddogion y Gronfa yn eu rôl fel gweinyddwyr y cynllun. Mae’r swyddogion a Pwyllgor Pensiynau yn cael cymorth gan Fwrdd Pensiwn Lleol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o aelodau CPLlL a sefydliadau cyflogi CPLlL.

Mae’r gwaith o reoli buddsoddiadau’r Gronfa o ddydd i ddydd yn cael ei ddirprwyo i gwmnïau rheoli asedau proffesiynol. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda rheolwyr y Gronfa, lle disgwylir iddynt ddarparu crynodeb o’r camau y maent wedi’u cymryd, neu wrthi’n eu cymryd, i ystyried buddsoddi cyfrifol o ddydd i ddydd.

↑ Yn ôl i'r brig

Buddsoddi Cyfrifol

Nod Cronfa Bensiwn Gwynedd yw sicrhau enillion buddsoddi cryf dros y tymor hir, gan ddiogelu buddiannau ein rhanddeiliaid trwy gyfrannu at system ariannol fwy cynaliadwy a gwydn, sy’n cefnogi twf economaidd cynaliadwy a chymdeithas lewyrchus.

Pwrpas Cronfa Bensiwn Gwynedd wrth wneud hyn yw rheoli risg yn well a chynhyrchu enillion cynaliadwy, hirdymor. Mae pob cam gweithredu yn seiliedig ar gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol craidd – ein ‘dyletswydd ymddiriedol’ – i’r cyflogwyr ac aelodau’r cynllun.

Mae’r Gronfa’n cydnabod y gall materion llywodraethu amgylcheddol, cymdeithasol a chorfforaethol (‘ESG’) gynrychioli risg ariannol sylweddol i’w rhanddeiliaid a dylanwadu ar elw ac enw da hirdymor y Gronfa. O ystyried hyn, nod y Pwyllgor yw bod yn ymwybodol o ffactorau ESG sy'n berthnasol yn ariannol, a'u monitro. Mae Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Buddsoddiad Cyfrifol yn disgrifio’r rhain fel:

  • Materion amgylcheddol: newid yn yr hinsawdd – gan gynnwys risg ffisegol a risg trawsnewid; disbyddiad adnoddau, gan gynnwys dŵr; gwastraff a llygredd; dadgoedwigo.
  • Materion cymdeithasol: amodau gwaith, gan gynnwys caethwasiaeth a llafur plant; cymunedau lleol, gan gynnwys cymunedau brodorol; gwrthdaro; iechyd a diogelwch; cysylltiadau gweithwyr ac amrywiaeth.
  • Materion llywodraethu: tâl swyddogion gweithredol; llwgrwobrwyo a llygredd; lobïo gwleidyddol a rhoddion; amrywiaeth a strwythur y bwrdd; strategaeth dreth.

Mae’r Pwyllgor yn ystyried agwedd y Gronfa at stiwardiaeth hefyd fel maes allweddol drwy weithredu fel buddsoddwr cyfrifol a gweithredol, drwy gomisiynu pleidleisio ystyriol ar ran y Gronfa fel cyfranddalwyr, a thrwy ymgysylltu’n anuniongyrchol â rheolwyr y cwmnïau y buddsoddir ynddynt fel rhan o’r broses fuddsoddi.

↑ Yn ôl i'r brig

Canllawiau Cyfreithiol

Yn 2014, eglurodd Comisiwn y Gyfraith y gyfraith bresennol ar benderfyniadau dadfuddsoddi a ddaeth i’r casgliad bod gan ymddiriedolwyr ac awdurdodau gweinyddol y pŵer i wneud penderfyniadau buddsoddi yn seiliedig ar ffactorau anariannol. Fodd bynnag, dywedodd fod angen “rheswm da i awdurdodau gweinyddol feddwl bod aelodau’r cynllun yn rhannu’r pryder” ac nad oes “risg o niwed ariannol sylweddol i’r gronfa.

↑ Yn ôl i'r brig

Credoau Buddsoddi

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno ar y credoau buddsoddi canlynol mewn perthynas â
Buddsoddiad Cyfrifol:

  • Yn unol â dyletswydd ymddiriedol y Pwyllgor, dylai ystyriaethau ariannol fod â mwy o bwysau nag ystyriaethau anariannol wrth wneud penderfyniadau buddsoddi, er y gall materion ESG effeithio'n sylweddol ar risg ac adenillion. Felly, dylai ffactorau ESG gael eu gwreiddio ym mhrosesau buddsoddi ac ym mhrosesau penderfynu rheolwyr asedau a benodir gan y Gronfa / Partneriaeth Pensiwn Cymru.
  • Bydd Pwyllgor y Gronfa yn ceisio buddsoddi mewn asedau cynaliadwy, gan gynnwys buddsoddi o fewn ardal yng Nghymru pan all buddsoddiadau anariannol ddeillio o hyn, ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion y ddyletswydd ymddiriedol.
  • Mae'r Pwyllgor yn derbyn bod ganddo ddyletswydd i fod yn fuddsoddwr cyfrifol. Disgwylir y bydd ymgynghori â chwmnïau, yn hytrach nag osgoi buddsoddi, yn fwy effeithiol o ran newid ymddygiad corfforaethol a lleihau risg. Lle bynnag y bo'n bosibl, gweithredu ar y cyd (fel yr hyn a gymerir drwy aelodaeth Fforwm Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol (LAPFF) ac a gomisiynwyd gan Robeco ochr yn ochr â phartneriaid WPP) yw'r llwybr mwyaf llwyddiannus i ddylanwadu ar allbynnau.
  • Fel buddsoddwr hirdymor, mae'r Gronfa yn agored i risgiau systemig megis newid yn yr hinsawdd a'r disgwyliad o drosglwyddo i economi carbon isel. Gellir gwella canlyniadau ariannol drwy reoli pa mor agored i risgiau o'r fath yw'r Gronfa.
  • Gellir gwella dealltwriaeth a chanlyniadau cyfranddalwyr trwy ddarparu tryloywder ar bob cam o'r gadwyn ychwanegu gwerth.
  • Mae hyfforddiant ac addysg yn debygol o fod yn elfen allweddol wrth ddatblygu'r Gronfa a safbwynt y Pwyllgor ar faterion sy'n ymwneud â'r ESG.

↑ Yn ôl i'r brig

Ymgysylltu

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod y gall ymgysylltu llwyddiannus ddiogelu a gwella gwerth hirdymor buddsoddiadau’r Gronfa. Mae’r Pwyllgor yn annog rheolwyr asedau’r Gronfa i ymgysylltu â’r cwmnïau y maent yn buddsoddi ynddynt, lle maent yn credu y gellir ychwanegu gwerth, neu y gellir lleihau risg.

Gall yr ymgysylltiad fod yn berthnasol ar draws ystod o asedau. Mae’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r egwyddorion sydd wedi’u hymgorffori yng Nghod Stiwardiaeth y DU ac mae’n bwriadu gwneud cais i fod yn llofnodwr i God Stiwardiaeth wedi’i ddiweddaru y DU 2020. Mae'r Pwyllgor yn disgwyl i Bartneriaeth Pensiwn Cymru ac unrhyw reolwyr asedau a benodir yn uniongyrchol fod yn llofnodwyr i God Stiwardiaeth y DU 2020. Yn ogystal, mae'r Gronfa'n credu mewn ymgysylltu ar y cyd ac mae'n aelod o LAPFF, a thrwy hynny mae'n rhoi llais ar y cyd ar draws ystod o faterion llywodraethu corfforaethol.

Mae’r Pwyllgor yn cefnogi gweithgareddau ymgysylltu sydd yn ceisio:

  • Sicrhau bod mwy o wybodaeth yn cael ei datgelu am y risgiau sy'n ymwneud â'r ESG a allai effeithio ar werth buddsoddiad;
  • Sicrhau tryloywder o ran amlygiad carbon buddsoddiad a sut mae cwmnïau o'r fath yn paratoi ar gyfer y newid i economi carbon isel.
  • Annog ei reolwyr asedau i gymryd rhan weithredol mewn ymgysylltiadau cydweithredol â buddsoddwyr eraill lle bernir bod hyn er lles gorau'r Gronfa.

Mae’n ofynnol i ymgynghorydd buddsoddi’r Pwyllgor ddarparu mewnbwn a dadansoddiad i gynorthwyo’r Pwyllgor i asesu perfformiad rheolwyr asedau’r Gronfa o safbwynt ymgysylltu â’r ESG, ac mae hyn hefyd yn ystyriaeth allweddol pan fydd y Pwyllgor yn dyrannu arian i gronfa newydd, neu pan fydd Partneriaeth Pensiwn Cymru yn penodi rheolwr asedau newydd. Mae rôl yr ymgynghorydd buddsoddi hefyd yn cynnwys gweithio’n agos gyda’r swyddogion i ddatblygu trefniadau hyfforddi priodol.

Mae’r Pwyllgor yn cysylltu’n agos â Phartneriaeth Pensiwn Cymru i sicrhau eu bod hefyd yn mabwysiadu’r dulliau a nodir yn y polisi hwn. Anogir rheolwyr asedau’r Gronfa i ymrwymo i fentrau priodol y diwydiant, gan gynnwys Cod Stiwardiaeth y DU, Tryloywder Costau CPLlL, yr Egwyddorion Buddsoddiad Cyfrifol a gofynion TCFD sydd ar y gorwel.

↑ Yn ôl i'r brig

Datgelu ac Adrodd

Mae’r Gronfa’n cydnabod bod tryloywder a datgelu yn agwedd bwysig ar fod yn
fuddsoddwr Cyfrifol. Bydd y Gronfa yn:

  • sicrhau bod Polisi Buddsoddi Cyfrifol y Gronfa ar gael i aelodau, a’i ymgorffori’n llawn yn y ffordd y mae’r Gronfa’n cyfathrebu ac yn rhyngweithio â’i haelodau,
  • sicrhau bod Polisi Buddsoddi Cyfrifol y Gronfa ar gael i randdeiliaid ehangach, ar lein yn gyhoeddus, ac
  • adrodd ar gynnydd y Gronfa a datblygiadau yn y ffordd y mae'n ymdrin â materion Buddsoddi Cyfrifol.

↑ Yn ôl i'r brig

Lleihau Allyriadau Carbon y Gronfa ac Amcanion y Dyfodol

Lle bo'n briodol, mae'r Pwyllgor yn ystyried sut y mae'n dymuno mynd i'r afael â ffactorau ESG penodol yng nghyd-destun ei rôl wrth ddyrannu asedau a gosod strategaeth fuddsoddi. Gan ystyried cadarnhad Cytundeb Paris ym mis Hydref 2016, mae’r Pwyllgor o’r farn y gallai amlygiad sylweddol i gwmnïau a phrosiectau sy’n allyriadau carbon uchel o fewn portffolio’r Gronfa achosi risg ariannol sylweddol.

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod asedau’r Gronfa’n cael eu buddsoddi’n fyd-eang, ac ar draws llawer o sectorau, sy’n golygu bod lleihau allyriadau carbon y Gronfa yn fwy heriol nag y byddai i sefydliad unigol. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor wedi ymrwymo i osod nod i'r Gronfa fod yn sero net erbyn 2050, wedi'i gefnogi gan ymrwymiad i asesu dichonoldeb y Gronfa i gyrraedd sero net 5,10 neu 20 mlynedd ynghynt. Mae'r ffactorau a ystyriwyd gan y Pwyllgor wrth osod y nod hwn yn cael eu trafod isod.

Mae’r Pwyllgor o’r farn ei bod yn bwysig i gronfeydd CPLlL chwarae rhan arweiniol wrth lunio’r dyfodol, o ran cefnogi’r newid i economi carbon isel a chyflawni nodau ESG ehangach. Mae'r Pwyllgor yn gallu dylanwadu mewn dwy ffordd: drwy'r penderfyniadau buddsoddi y mae'n eu gwneud; a thrwy ymgysylltu'n barhaus â'r cwmnïau a'r prosiectau y mae'r Gronfa'n buddsoddi ynddynt. Yn erbyn y cefndir hwn, mae’r Pwyllgor yn credu ei bod yn briodol gosod nod realistig tra hefyd yn edrych ar ddichonoldeb cyflawni nod mwy uchelgeisiol.

Ar yr un pryd, mae’r Pwyllgor yn credu y dylid cyflawni’r gostyngiad yn allyriadau carbon y Gronfa mewn modd pwyllog. Rhaid i'r Gronfa ganolbwyntio o hyd ar ei phrif rwymedigaeth i dalu buddion i'w haelodau, gan gynnwys ystyried unrhyw risgiau cysylltiedig. Mae dull pwyllog yn galluogi’r Gronfa i ddal cyfleoedd buddsoddi sy’n deillio o’r newid i economi carbon isel, yn ogystal â lliniaru’r risgiau. At hynny, mae dull pwyllog yn cefnogi stiwardiaeth weithredol, gan roi mwy o amser a mwy o le i'r Pwyllgor roi newid ar waith a chyflawni trawsnewidiad cyfiawn trwy ymgysylltu parhaus.

↑ Yn ôl i'r brig

Fframwaith i gefnogi uchelgeisiau Hinsawdd y Gronfa

Mae’r Pwyllgor wedi datblygu fframwaith i gefnogi uchelgeisiau hinsawdd y Gronfa, gan gwmpasu Cyfleoedd, Ymgysylltu, a Monitro a Metrigau.

Cyfleoedd

  • Adolygu mandadau presennol y Gronfa yng nghyd-destun risg hinsawdd ac uchelgais sero net (datblygiad parhaus fel y dangosir yn Atodiad 1).
  • Ystyried a allai unrhyw fandadau ddatblygu ymhellach, neu o bosibl a ddylid eu disodli, oherwydd cyfleoedd buddsoddi sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd i gefnogi, ac elwa ar, y trawsnewid carbon isel.
  • Cefnogi mentrau Partneriaeth Pensiwn Cymru (fel y 'troshaen datgarboneiddio' a 'dadfuddsoddi o echdynwyr tanwydd ffosil') a chynlluniau i leihau amlygiad carbon y cronfeydd y mae'n eu goruchwylio (ar hyn o bryd, mae tua 82.5% o asedau'r Gronfa yn dod o fewn y Fframwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru, a disgwylir i’r ganran hon dyfu dros amser).

Ymgysylltu

  • Cydweithredu â phrotocol ymgysylltu ar y cyd Partneriaeth Pensiwn Cymru, megis comisiynu Robeco ar y cyd i ymgysylltu â rheolwyr asedau'r Gronfa mewn perthynas â gweithgarwch pleidleisio ar faterion sy'n ymwneud â'r hinsawdd, ac ymgysylltu â'r cwmnïau rydym yn buddsoddi ynddynt i ddylanwadu a gwella eu gweithgareddau ac ymddygiad ar faterion yn ymwneud â hinsawdd.
  • Ymgysylltu’n rheolaidd â rheolwyr asedau’r Gronfa i herio gweithredoedd ac annog arfer gorau, gan gyfeirio at gredoau ac uchelgeisiau hinsawdd y Gronfa.
  • Ystyried dadfuddsoddi / ailddyrannu cyfalaf os nad yw ymgysylltu yn rhoi effaith.
  • Cydweithio â chronfeydd CPLlL eraill drwy'r LAPFF. Nod y LAPFF yw hyrwyddo’r safonau uchaf o lywodraethu corfforaethol i ddiogelu gwerth hirdymor cronfeydd pensiwn awdurdodau lleol. Mae'r Fforwm yn ymgysylltu'n uniongyrchol â channoedd o gwmnïau a'u cadeiryddion. Gwneir hyn drwy feithrin ymddiriedaeth a chael deialog dwy ffordd ar gyfrifoldeb corfforaethol ym meysydd stiwardiaeth, risg hinsawdd, risg gymdeithasol a risg llywodraethu.

Monitro a metrigau

  • Cytuno ar fetrigau sy'n edrych yn ôl / ymlaen a gosod targedau tymor byr, canolig a hir ar gyfer pob un, sy'n cefnogi nod sero net cyffredinol y Gronfa (mae hyn yn heriol ar hyn o bryd, tra bod metrigau uchelgais hinsawdd safonol ar gyfer y CPLlL yn dal i gael eu disgwyl, a'r modd y gallwn gyflawni nodau uchelgeisiau hinsawdd eu comisiynu ar y cyd â sawl partner).
  • Adolygu buddsoddiadau’r Gronfa mewn perthynas â’r metrigau hyn a gosod cynllun ar gyfer cynnydd.
  • Mae monitro cyfredol a chynnydd cadarnhaol rheolwyr asedau Cronfa Bensiwn Gwynedd i’w gweld yn Atodiad 1.

↑ Yn ôl i'r brig

Cysylltu gyda Chronfa Bensiwn Gwynedd

Gellir cysylltu gyda ni mewn amryw o ffyrdd:

Yn ein swyddfa:

Cronfa Bensiwn Gwynedd
Cyngor Gwynedd,
Stryd y Jêl,
Caernarfon,
Gwynedd.
LL55 1SH

E-bost: pensiynau@gwynedd.llyw.cymru
Ffon: 01286 679982
Ar-lein: www.cronfabensiwngwynedd.cymru

↑ Yn ôl i'r brig

Atodiad 1: Monitro Rheolwyr Asedau Cronfa Bensiwn Gwynedd

Rheolwr Buddsoddi Cronfa Dyraniad Targed Datblygiadau erbyn Mawrth 2022
PPC – Russell Investments Global Opportunities 14% Mae 'troshaen datgarboneiddio' wedi'i rhoi ar waith gan Russell Investments, gan leihau'r ôl troed carbon 25%.
PPC – Baillie Gifford, Veritas a Pzena Global Growth 14% Mae rheolwyr asedau o fewn y gronfa hon wedi cymryd camau i leihau ôl troed carbon. Mae cronfa Paris Aligned Baillie Gifford yn dadfuddsoddi o echdynwyr tanwydd ffosil a darparwyr gwasanaethau tanwydd ffosil. Mae Veritas bob amser yn ceisio buddsoddiadau sy'n gyfystyr â chynaliadwyedd. Mae Pzena wedi gwerthu ei fuddsoddiad mewn cwmni a arferai gyfrannu at 35% o allyriadau carbon rhan Pzena o'r gronfa.
PPC – Russell Investments Absolute Return Bond 15% Gwella arferion buddsoddi cyfrifol gan reolwyr y gronfa wedi'i ategu gan ystyriaeth fanwl a nifer o fentrau.
PPC – Russell Investments Multi Asset Credit 7.5% Arferion ESG cryf ar draws yr holl reolwyr cronfeydd ac ymrwymiadau'r dyfodol yn gryf iawn.
PPC – Russell Investments Emerging Markets 2.5% Mae 'troshaen datgarboneiddio' wedi'i roi ar waith sy'n lleihau'r ôl troed carbon 25%.
BlackRock Aquila Life UK Equity Index 10.5% Mae BlackRock wedi llofnodi Cod Stiwardiaeth y DU ac yn ymgysylltu'n rheolaidd â chwmnïau.
BlackRock Aquila Life GBL Dev Fundamental 7% Mae BlackRock wedi llofnodi Cod Stiwardiaeth y DU ac yn ymgysylltu'n rheolaidd â chwmnïau.
BlackRock ACS World Low Carbon Equity 12% Cronfa carbon isel BlackRock sy'n sgrinio tanwyddau ffosil cyn optimeiddio carbon isel, gan leihau carbon o'i gymharu â mynegai ecwiti byd-eang safonol 44% yn ychwanegol.
BlackRock Eiddo 2.5% Mae BlackRock yn y 7fed safle yn y sgôr GRESB.
Lothbury Eiddo 2.5% Mae Lothbury yn y 4ydd safle yn y sgôr GRESB.
UBS Eiddo 2.5% Mae UBS yn safle 1af yng ngraddfa GRESB am y 5ed flwyddyn yn olynol.
Columbia Threadneedle Eiddo 2.5% Mae Columbia Threadneedle yn safle 32 yn y sgôr GRESB, ond maent yn gwella bob blwyddyn gyda gwelliannau mewn defnydd ynni, allyriadau nwyon tŷ gwydr a pherfformiad ynni asedau.
Partners Group Ecwiti Preifat 5% Mae Partners Group yn ymgorffori ESG yn strategaeth, cyfeiriad a nodau eu cwmnïau portffolio.
Partners Group Isadeiledd 2.5% Mae cronfa Partners Group yn buddsoddi mewn ynni gwyrdd, tanwyddau carbon isel ac isadeiledd dal carbon.

↑ Yn ôl i'r brig