Mae Cronfa Bensiwn Gwynedd yn cymryd ei chyfrifoldebau fel cyfranddaliwr o ddifri. Mae’n ceisio cadw at y Cod Stiwardiaeth ac yn annog ei rheolwyr buddsoddi apwyntiedig i’w gwneud hefyd. Gweler stiwardiaeth fel rhan o’r cyfrifoldebau perchnogaeth rhandaliadau ac felly rhan gyfannol o’r strategaeth buddsoddi.

Yn ymarferol mae’n bolisi'r gronfa i weithredu’r Cod trwy’r trefniadau gyda’i rheolwyr buddsoddi a thrwy aelodaeth o’r Local Authority Pension Fund Forum.

Egwyddor 1 - Dylai buddsoddwyr sefydliadol datgan yn gyhoeddus eu polisi ar sut y byddan gyflawni eu cyfrifoldebau stiwardiaeth.

Mae Cronfa Bensiwn Gwynedd yn cymryd ei chyfrifoldebau fel cyfranddaliwr o ddifri. Mae’n ceisio cadw at y Cod Stiwardiaeth ac yn annog ei rheolwyr buddsoddi apwyntiedig i’w gwneud hefyd. Gweler stiwardiaeth fel rhan o’r cyfrifoldebau perchnogaeth rhandaliadau ac felly rhan gyfannol o’r strategaeth buddsoddi.

Yn ymarferol mae’n bolisi'r gronfa i weithredu’r Cod trwy’r trefniadau gyda’i rheolwyr buddsoddi a thrwy aelodaeth o’r Local Authority Pension Fund Forum.

Egwyddor 2 – Dylai buddsoddwyr sefydliadol meddu ar bolisi cadarn ar gyfer rheoli gwrthdaro diddordebau mewn perthynas i stiwardiaeth a’r dylai’r polisi hwn yn cael ei datgan yn gyhoeddus.

Mae’r gronfa yn annog ei rheolwyr buddsoddi i feddu ar bolisïau sydd yn cyfarch gwrthdari ddiddordeb dichonol. Trafodir y rheiny cyn penodi rheolwr ac adolygir fel rhan o’r broses safonol monitro rheolwyr.

Mewn perthynas i wrthdaro diddordebau o fewn y Gronfa, mae aelodau’r Pwyllgor Pensiynau yn gorfod datgan diddordebau cyn cyfarfodydd Pwyllgor.

Egwyddor 3 - Dylai buddsoddwyr sefydliadol monitro eu cwmnïau buddsoddi.

Datganolir cyfrifoldeb rheoli ein buddsoddiadau o ddydd i ddydd i’r rheolwyr buddsoddi apwyntiedig ac mae’r Gronfa yn disgwyl iddynt fonitro cwmnïau, ymyrryd pan yn briodol, ac adrodd yn ôl yn gyson ar y gweithgareddau. Derbynnir adroddiadau ar bleidleisio ac ymrwymiad yn chwarterol.

Yn ogystal mae’r Gronfa yn derbyn ‘rhybuddion’ gan y Local Authority Pension Fund Forum, sydd yn amlygu materion llywodraethu corfforaethol pryderus ac maent yn cael ystyried priodol.

Egwyddor 4 - Dylai buddsoddwyr sefydliadol sefydlu arweiniad clir ar bryd a sut y bydden uwchraddio eu gweithgareddau fel modd amddiffyn a gwella gwerth cyfranddalwyr.

Fel amlygwyd uchod, mae cyfrifoldeb ar gyfer rhyngweithiad dydd i ddydd gyda chwmnïau yn cael ei dirprwyo i reolwyr asedau’r Gronfa, gan gynnwys uwchraddio’r ymrwymiad fel bo angen. Disgwylir iddynt ddatgan eu canllawiau yn eu datganiad cydymffurfio gyda’r Cod Stiwardiaeth eu hunain.

Er hynny, ar adegau, gallai’r Gronfa cymryd rhan mewn uwchraddio materion, yn bennaf trwy weithrediadau ymgysylltu gan y Local Authority Pension Fund Forum.

Egwyddor 5 – Dylai buddsoddwyr sefydliadol bod yn fodlon i weithredu ar y cyd gyda buddsoddwyr eraill pan yn briodol.

Mae’r Gronfa yn ceisio cydweithio gyda chyfranddalwyr sefydliadol er mwyn uchafu’i dylanwad ar gwmnïau unigol. Mae’r Gronfa yn ceisio gwneud hyn trwy aelodaeth y Local Authority Pension Fund Forum, sydd yn ymgysylltu gyda chwmnïau ar faterion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu ar ran ei aelodau.

Egwyddor 6 - Dylai buddsoddwyr sefydliadol meddu ar bolisi clir ar gyfer pleidleisio a datgelu gweithgareddau pleidleisio.

Mewn perthynas i bleidleisio cyfranddalwyr, mae’r Gronfa yn ceisio defnyddio pleidleisiau yn gysylltiedig â’i daliadau ecwiti DU ac i bleidleisio mewn marchnadoedd tramor pan yn ymarferol.

Mae cyfrifoldeb dros ddefnyddio hawliau pleidleisio wedi cael ei datganoli i’r rheolwyr ased apwyntiedig y gronfa ac mae hyn yn cynnwys ystyriaeth esboniadau'r cwmni ynglŷn â chydymffurfio a’r Cod Llywodraethu Corfforaethol.

Derbynnir adroddiadau cyson gan reolwyr yr asedau ar sut mae pleidleisiau wedi cael eu defnyddio a gellir trafod materion dadleuol mewn cyfarfodydd y panel. Nid yw’r Gronfa yn datgelu unrhyw ddata pleidleisio ar hyn o bryd.

Egwyddor 7 – Dylai buddsoddwyr sefydliadol adrodd yn gyson ar eu gweithgareddau stiwardiaeth a phleidleisio.

Mae’r Gronfa yn adrodd yn flynyddol ar weithgareddau stiwardiaeth mewn adran benodol ar “Buddsoddiad Cyfrifol” yn ei adroddiad blynyddol.