Mae’n ofynnol i awdurdodau gweinyddu’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) baratoi a chyhoeddi Datganiad Strategaeth Cyllido (DSC). Mae’r datganiad yn nodi sut mae’r Gronfa yn cynllunio i fodloni ei hymrwymiadau hirdymor, rheoli risgiau cyllido a chynnal lefel briodol o gyfraniadau gan gyflogwyr.
Gan fod buddion y CPLlL wedi’u gwarantu gan statud, mae’r DSC yn darparu fframwaith ar gyfer cynllunio ariannol hirdymor ac yn helpu i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd wrth reoli’r Gronfa.
Gallwch weld y datganiad diweddaraf isod neu bori fersiynau blaenorol yn yr adran atodiadau.
Datganiad Cyfredol
Mae'r Datganiad Strategaeth Cyllido yn amlinellu sut mae'r Gronfa'n rheoli ei sefyllfa gyllido hirdymor ac yn sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i dalu buddion pensiwn aelodau.
Datganiadau Blaenorol

