Wedi'i sefydlu yn 2017, mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn gydweithrediad o'r wyth cronfa CPLl sy'n cwmpasu Cymru gyfan ac mae'n un o wyth pwl Pensiwn Llywodraeth Leol cenedlaethol. Dyluniwyd model gweithredu PPC i fod yn hyblyg a sicrhau gwerth am arian gan ddarparu opsiynau o ran buddsoddiadau sy’n caniatáu i Gronfa Bensiwn Gwynedd weithredu strategaeth buddsoddi ein hunain, ond gyda arbedion cost pwysig. Penodwyd Waystone Management (UK) Limited yn weithredwr ac maent wedi ei partneru gyda Russell Investments i ddarparu datrysiadau buddsoddi effeithiol. Yr wyth Awdurdod Cyfansoddol yw:

Mae PPC wedi cyflawni cryn gynnydd tuag at gyflawni ei amcanion drwy lawnsio nifer o is-gronfeydd, gyda Cronfa Bensiwn Gwynedd yn rhan ohonynt. Ceir gwybodaeth pellach ar wefan Partneriaeth Pensiwn Cymru: www.partneriaethpensiwncymru.org

Mae'r Llywodraeth wedi mynegi cefnogaeth gref am gynnig Partneriaeth Pensiwn Cymru i fynd ymlaen i gam nesaf y trefniadau cyfuno buddsoddiadau yn unol â'i hymateb i ymgynghoriad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 'Addas ar gyfer y Dyfodol'. Dylech fod yn dawel eich meddwl mai nod yr ymgynghoriad hwn yw gwella fframwaith buddsoddi a llywodraethu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Ni fydd yn effeithio ar eich cyfraniadau presennol na'ch buddion pensiwn. Y nod yw sicrhau cynaliadwyedd ac effeithiolrwydd hirdymor y cynllun.

Cwestiynau Cyffredin
1. Beth yw Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC)?

Mae PPC yn gydweithrediad o'r wyth cronfa CPLlL yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd yn 2017 i gyfuno rheoli buddsoddiadau asedau a darparu gwell gwerth, llywodraethu a pherfformiad i gronfeydd pensiwn Cymru. Mae PPC wedi'i lywodraethu gan Gyd-bwyllgor Llywodraethu sy'n defnyddio model Gweithredwr (a ddarperir gan Waystone Management (UK) Limited) ac a gefnogir gan ymgynghorwyr allanol.

2. Beth yw "Addas i'r Dyfodol"?

Deilliodd y fenter "Addas i'r Dyfodol" o ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU a lansiwyd ym mis Tachwedd 2024 fel rhan o adolygiad ehangach o Bensiynau'r DU i gryfhau llywodraethu a modelau gweithredol cronfeydd buddsoddi Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Ei nod yw sicrhau bod yr holl asedau CPLlL yn cael eu rheoli'n llawn a bod cronfeydd yn gweithredu gyda mwy o ymreolaeth ac effeithlonrwydd. Cyflwynodd PPC Achos Busnes i'r Llywodraeth ddiwedd mis Chwefror 2025, i wneud achos dros barhau fel Cronfa Cymru ac, felly, parhau i wireddu'r manteision y mae'r Gronfa yn eu cynnig i Gymru. Cafodd hyn ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2025.

3. Beth oedd Achos Busnes "Addas i'r Dyfodol" PPC yn ei gynnig?

Roedd achos busnes PPC, a gyflwynwyd mewn ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth, yn cynnig y canlynol:
• Cadw cronfa fuddsoddi annibynnol yng Nghymru.
• Adeiladu gallu mewnol i fodloni gofynion llywodraethu a gofynion gweithredol newydd
drwy greu Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru.
• Cwblhau'r gwaith o drosglwyddo'r holl asedau i ddod o dan reolaeth y gronfa.
• Gwella tryloywder, atebolrwydd a gwerth am arian

4. Beth yw "Prosiect Snowdon"?

Menter fewnol PPC yw Prosiect Snowdon, sy'n cynnwys Swyddogion Adran 151 a Uwch swyddogion Cronfeydd Pensiwn o'r wyth Cronfa Bensiwn CPLlL yng Nghymru, gyda chefnogaeth ymgynghorwyr PPC, i weithredu'r cynigion yn Achos Busnes PPC.

5. Sut y bydd hyn yn effeithio ar aelodau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol?

Ni fydd unrhyw newid i'ch buddion pensiwn, gan gynnwys unrhyw Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol a allai fod gennych. Mae'r newidiadau rydyn ni'n eu gweithredu yn ymwneud â sut mae asedau pensiwn yn cael eu rheoli a'u buddsoddi, nid am y buddion rydych chi'n eu derbyn. Y nod yw sicrhau bod eich pensiwn yn cael ei reoli'n fwy effeithlon a chynaliadwy.

6. Sut y bydd hyn yn effeithio ar Gyflogwyr?

Gall Cyflogwyr ddisgwyl y canlynol:
• Trefniadau cryf parhaus o ran llywodraethu a goruchwylio buddsoddiadau pensiwn.
• Potensial ar gyfer mwy o effeithlonrwydd cost a chanlyniadau buddsoddi gwell.
• Dim newid i gyfrifoldebau na phrosesau cyfrannu'r cyflogwr.

7. A fydd hyn yn newid pwy sy'n gweinyddu'r cronfeydd pensiwn?

Na fydd. Bydd wyth Cronfa Bensiwn Cymru yn aros gyda'r Awdurdodau Gweinyddol ac yn cadw perchnogaeth leol o benderfyniadau strategol, ond byddant yn gweld eu penderfyniadau buddsoddi yn cael eu gweithredu gan Gwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC. Bydd PPC yn parhau i ddefnyddio rheolwyr cronfeydd allanol, ond gyda goruchwyliaeth well ac o bosibl mwy o alluoedd mewnol i fodloni gofynion newydd.

8. Beth yw manteision y cynnig hwn?

• Llywodraethu cryfach ac atebolrwydd.
• Gwell perfformiad buddsoddiadau trwy raddfa ac arbenigedd.
• Arbedion cost trwy gyfuno ac effeithlonrwydd gweithredol.
• Alinio â disgwyliadau'r Llywodraeth, gan sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.

9. Beth yw'r camau nesaf?

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi cyfarwyddyd cadarnhaol i PPC i symud ymlaen a chreu Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC. Bydd gwaith yn parhau ar gyflymder i sicrhau bod hyn wedi'i gwblhau o fewn amserlenni disgwyliedig y Llywodraeth.

10. O ble allaf i gael rhagor o wybodaeth?

Gallwch ddarllen cyflwyniad llawn Cynllun Busnes PPC a Addas i'r Dyfodol ar wefan Partneriaeth Pensiwn Cymru neu gysylltu â'ch gweinyddwr cronfa bensiwn leol.