Ar Gip

✓ Telir eich pensiwn yn fisol yn uniongyrchol i'ch banc neu gymdeithas adeiladu.

✓ Mae taliadau'n cael eu gwneud mewn 12 rhandaliad y flwyddyn.

✓ Fel arfer, telir eich pensiwn ar ddiwrnod gwaith olaf pob mis.

✓ Cyhoeddir dyddiadau talu ymlaen llaw er mwyn eich helpu i gynllunio.

Pryd fydd fy mhensiwn yn cael ei dalu?

Mis Dyddiad Talu
Ebrill 2026 30/04/2026
Mai 2026 29/05/2026
Mehefin 2026 30/06/2026
Gorffennaf 2026 31/07/2026
Awst 2026 28/08/2026
Medi 2026 30/09/2026
Hydref 2026 30/10/2026
Tachwedd 2026 30/11/2026
Rhagfyr 2026 18/12/2026
Ionawr 2027 29/01/2027
Chwefror 2027 26/02/2027
Mawrth 2027 31/03/2027

Beth am Bensiwn y Wladwriaeth?

Os ydych yn ymddeol cyn cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac nad ydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol mwyach, gallai hyn effeithio ar eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth.

Gallwch ddefnyddio gwasanaethau GOV.UK i weld:

  • Faint y gallech ei gael
  • Pryd y gallwch ei hawlio
  • Sut y gallwch gynyddu eich hawl, os yn berthnasol

Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth →

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth →

A allaf fod â hawl i fudd-daliadau eraill?

Unwaith y byddwch yn dechrau derbyn eich pensiwn CPLlL, efallai y bydd gennych hawl i fudd-daliadau neu gymorth ariannol eraill.

Os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys, dylech wirio cyn gynted â phosibl gan nad yw budd-daliadau fel arfer yn cael eu hôl-ddyddio.

Gweld Budd-daliadau a Chymorth Ariannol →